Skip to main content

PartneriaethauPobl

Cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles plant

10 Chwefror 2023

Cyflwynwyd Cwricwlwm i Gymruyr hydref diwethaf, gan gynnwys newidiadau yn y ffordd y caiff dysgwyr ac ysgolion eu hasesu, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd y caiff addysgwyr eu hyfforddi a’u huwchsgilio. Mae diwygiadau’n mynd rhagddynt, ond un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn y cwricwlwm yw blaenoriaethu iechyd a lles pobl ifanc rhwng 3 a 16 oed. Yma, mae Dr Sara Long, ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn y gwyddorau cymdeithasol, yn amlinellu ei gwaith i astudio’r broses o roi’r cwricwlwm ar waith.

“Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unigryw. Am y tro cyntaf, mae’n gosod iechyd a lles wrth galon dysgu. Un o’r pedwar nod yw y bydd pob plentyn yng Nghymru yn ‘unigolyn iach a hyderus’. Bydd iechyd a lles yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad ar y cyd â’r Celfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bellach, cydnabyddir yn eang y gall ysgolion gael dylanwad da neu ddrwg ar iechyd a lles pobl ifanc. “Lleoedd pwysig yw ysgolion ar gyfer ymyriadau cynnar i atal problemau corfforol ac iechyd meddwl yn nes ymlaen. Hwyrach y bydd atal effeithiol yn lleihau costau gwasanaethau iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd.

Afraid dweud bod disgwyl i’r system addysg wella iechyd a lles dysgwyr yn hynod o berthnasol o ran sut y caiff ysgolion a dysgwyr eu hasesu – ac mae hyn yn gofyn am fetrigau, neu ddangosyddion iechyd a lles priodol. Mae gan hyn hefyd oblygiadau ar gyfer y proffesiwn addysgu nad oedd yn rhaid iddo flaenoriaethu ac addysgu iechyd a lles i’r graddau hyn yn y gorffennol.

Cefais fy ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i ymgymryd â chymrodoriaeth tair blynedd sy’n cynnwys cyfres o astudiaethau sy’n edrych ar sut y bydd Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith a’r disgwyliadau yn ei gylch.

Mae’r gymrodoriaeth – Cyfuno iechyd a lles yn rhan o gwricwlwm ysgolion: ymchwiliad dulliau cymysg o’r paratoadau i ddiwygio ysgolion ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles – yn rhoi’r cyfle, sy’n gyfyngedig o ran amser, i osod y sylfeini ar gyfer gwerthusiad o safon o’r ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith a’r effeithiau ar iechyd a lles disgyblion.

Nod yr ymchwil yw: i) deall nodau’r diwygiadau, a’r prosesau ynghylch eu cyflwyno, o safbwyntiau rhanddeiliaid ym mholisi addysg Cymru; ii) adnabod y mesurau priodol ym maes iechyd a lles disgyblion, a chofnodi tueddiadau iechyd a lles cyn y diwygiadau er mwyn barnu llwyddiant y rhain yn ddiweddarach; iii) ceisio barn staff ysgolion ar y cwricwlwm newydd, a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol; iv) dod â’r canfyddiadau ynghyd, gan greu’r sylfeini i gynnal gwerthusiad ystyrlon a manwl o effaith y diwygiadau.

Cynhaliwyd cyfweliadau ag uwch-randdeiliaid yn system addysg Cymru, a gwnaed cyfres o astudiaethau achos mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r gwaith hyd yma wedi nodi nifer o bwyntiau defnyddiol a all hwyluso’r diwygiadau. Efallai mai’r diwygiadau mwyaf perthnasol yw’r newidiadau sydd eu hangen i baratoi addysgwyr a sefydliadau cymorth ysgolion i gyflawni’r agenda iechyd a lles, ac i sicrhau bod y gwaith ‘da’ o ran iechyd a lles sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn y mesurau atebolrwydd.

Mae diwygiadau yng Nghymru yn debyg i Gwricwlwm Rhagoriaethyr Alban, a gyflwynwyd yn 2010. Fel yn achos ein cwricwlwm newydd, roedd yn cynnwys ailwampio dysgu a datblygiad proffesiynol yn ogystal ag asesu a gwerthuso. Efallai mai’r diwygiadau yng Nghymru a’r Alban yw’r rhai sy’n gwyro fwyaf oddi wrth y penderfyniadau a wnaed yn San Steffan ers datganoli. O safbwynt gwyddonol, mae’r sefyllfa hon yn gyfle unigryw i werthuso newidiadau polisi ar draws cyd-destunau.

Ymwelodd cydweithwyr o Education Scotland â ni yn ddiweddar yn SPARK – parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – i roi eu barn ar y Cwricwlwm Rhagoriaeth, sut mae’n cael ei roi ar waith a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y degawd diwethaf. Cynhaliwyd sawl trafodaeth bord gron hefyd gyda chydweithwyr polisi, ymarfer ac academaidd, gan gynnwys cynrychiolaeth o Education Scotland, Llywodraeth Cymru, Estyn, Prifysgol Caerdydd a Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth a meithrin rhwydweithiau. Peth hynod o fuddiol oedd deall y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad. Cafwyd trafodaeth ynghylch sut y gallai’r ddwy wlad ddylanwadu’r naill ar y llall yn ogystal â dysgu oddi wrth ein gilydd, ac yn bwysig felly, pa wersi y gallem eu dysgu o’r profiadau yn yr Alban.

Mae SPARK, yn adeilad sbarc|spark newydd Prifysgol Caerdydd, yn dod â grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol at ei gilydd i fynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio ar y gymdeithas. Drwy gydweithio â byd diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gallwn ni ddatblygu ffyrdd newydd o ddeall a gwybodaeth newydd. Yng ngeiriau’r  Athro Damian Walford-Davies, “SBARC fydd pendraw cysylltu, cydweithio ac effaith.”

Mae seminar Education Scotland a’r trafodaethau dilynol yn cyd-fynd ag ysbryd SPARK, sef meithrin y gwaith o gysylltu pobl a’i gilydd mewn canolfannau gwahanol, ymgysylltu ar draws prifysgolion ac ymgysylltu â byd polisi ac ymarfer. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r partneriaid hyn wrth symud ymlaen ac rydyn ni gam arall yn nes at greu rhwydwaith trawsddisgyblaethol ledled y DU.

Dyma a ddywedodd TJ Johnston, Education Scotland: “Mwynheuon ni ein hymweliad â Chaerdydd yn fawr, a byddwn ni’n dychwelyd i’r Alban â chryn nifer o bwyntiau. Roedden ni’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i siarad â phob un ohonoch chi a’ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac Estyn. Hoffem estyn ein diolch i’r holl gydweithwyr a oedd wedi estyn cymorth inni. Mae’r ddau ohonon ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi unwaith eto yn y dyfodol.”

Ymchwilydd rhyngddisgyblaethol yw Dr Sara Long sy’n ymddiddori mewn canlyniadau iechyd, lles ac addysg plant a phobl ifanc, gan fabwysiadu ystod o ddulliau ansoddol a meintiol ar draws sawl prosiect. Mae Dr Long yn gweithio yn DECIPHer – un o grwpiau ymchwil cyntaf SBARC sy’n gysylltiedig ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch longs7@caerdydd.ac.uk