Datblygu Polisi Arloesi: Myfyrdodau o Gymru
28 Tachwedd 2022
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn edrych o’r newydd ar eu Strategaethau Arloesi ac yn eu diweddaru, ac mae’r Ganolfan Ymchwil ar Bolisïau Arloesi (CIPR) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn cyfrannu at y gweithgareddau hyn, gan gynnwys cynnal tua 50 o gyfweliadau â rhanddeiliaid yn ecosystem Cymru a chynnal nifer o drafodaethau bord gron gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yma, mae’r Athro Rick Delbridge, cyd-gynullydd y ganolfan, yn crynhoi canfyddiadau CIPR mewn sgwrs yn ddiweddar yn rhan o ddigwyddiad ‘An Innovation Strategy for Scotland’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Strathclyde dan ofal y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
“Wrth ymchwilio i’r ecosystem arloesi a deall sut y gallai Cymru ddysgu gan bobl eraill, rydyn ni wedi bod yn cynnal trafodaethau bord gron gyda siaradwyr gwadd, gan gynnwys un o’r Alban sy’n enghraifft o’r cenhedloedd bach arloesol roedd gennym ddiddordeb mewn dysgu ganddyn nhw. Un arall oedd Gwlad y Basg, sy’n enghraifft wych o lywodraeth, y byd academaidd a byd diwydiant yn cydweithio â’i gilydd. Felly roedd yn bleser cael ‘dychwelyd y ffafr’ a chyfrannu at drafodaeth yn yr Alban i wybod sut maen nhw’n mynd i’r afael â phroblemau tebyg.
Llwyddais i dynnu sylw at ein gwaith dros Lywodraeth Cymru a hefyd y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd – sef un o’r pedair bargen twf ddinesig yng Nghymru – y mae eu gweithgarwch ar y lefel is-genedlaethol yn hollbwysig er mwyn symud o uchelgais y darlun mawr sy’n ymwneud â ‘chenadaethau a phrosiectau hynod uchelgeisiol’ i ysgogi gweithgarwch arloesol ar raddfa a chwmpas y gall pobl eu hamgyffred a gweld eu lle ynddyn nhw.
Gwnaethon ni chwe argymhelliad yn ein hadroddiad cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar strategaeth arloesi newydd i Gymru. Yn gyntaf, pa fath o naratif – dal lefel yr uchelgais sy’n seiliedig ar rywbeth sy’n wir ac yn gyfreithlon. A gweithio yn unol â chyfnod o amser nad yw’n rhy agos aton ni ond sy’n edrych i’r pellter canol – cyfnod o ddeg mlynedd sy’n aflonyddgar o uchelgeisiol. Roedd hi’n ddiddorol gweld bod y math hwn o naratif wedi denu llawer o sylw yn y trafodaethau panel yn Glasgow.
Yn ail, ystyrion ni pa mor dda y mae prifysgolion yn ymateb yn benodol i’r agenda arloesi’n benodol? Dywedodd un o’r cyfranwyr i’n hadroddiad yng Nghymru fod gan brifysgolion fwy o ddiddordeb mewn arloesi a arweinir gan ymchwil nag ymchwil a arweinir gan arloesi. Mewn geiriau eraill, roedd ymchwil yn tueddu i yrru’r agenda ym maes arloesi. Rydyn ni’n cytuno bod hwn yn faes y gall prifysgolion ei wella, a diben datblygiadau megis sbarc|spark yng Nghaerdydd yw’r union fath hwn o welliant. Dylai polisi arloesi yn y dyfodol wneud rhagor i annog prifysgolion i ddatblygu eu gweithgareddau ymchwil trosi i bontio’r bwlch rhwng ymchwil ac arloesi.
Mae’r trydydd a’r pedwerydd pwynt a wnes i’n seiliedig ar sut rydyn ni’n ehangu i ffwrdd oddi wrth bolisïau sydd ond yn canolbwyntio ar glystyrau o fantais gystadleuol ganfyddedig. Mae’n bwysig bod strategaethau arloesi’n adnabod, yn cefnogi ac yn ysgogi’r clystyrau allweddol hynny o weithgarwch sy’n arwain y byd, ond peth peryglus yw dodi’r wyau i gyd mewn nifer fach o fasgedi.
Yng Nghymru, lle nad ydyn ni’n cael ein llethu gan nifer enfawr o ddewisiadau i’w cymryd o ran gweithgarwch sy’n arwain y byd, mae’n rhaid inni sicrhau y bydd yr hyn a ddaw nesaf o safbwynt strategaeth arloesi Cymru yn parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig a’r clystyrau o weithgarwch ymchwil yn y dyfodol sy’n dechrau dod i’r golwg. Os nad ydych chi’n buddsoddi yn ‘nhiroedd comin arloesi’ yna rydych chi’n cyfyngu ar y tebygolrwydd y bydd arloesi’n dod i’r amlwg yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â chydnabod pwysigrwydd ‘cynhwysion’ arloesi, mae’n rhaid i’r agenda arloesi gymryd golwg gymdeithasol-ecolegol fwy cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ymwneud â’r hinsawdd neu iechyd: rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar Gronfa Her fydd yn creu cysylltiadau â’r sector cyhoeddus i greu cyfleoedd arloesi, er enghraifft ym maes caffael yn y sector cyhoeddus.
Yn y panel, gwnes i ddau bwynt arall am Gymru sydd hefyd yn dangos i’r Alban bod system wleidyddol yng Nghymru sy’n mynd yn gynyddol gymhleth: Mae gan Gymru bedair bargen ddinesig sydd wrthi’n mynd yn rhanbarthau economaidd, ac mae’r gwaith o’u creu yn ogystal â’r cyllid maen nhw’n ei gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn waith heriol, felly mae problemau i’w hystyried yma o ran sut mae rheoli hynny.
Yn amlwg, mae lle i deilwra ymyriadau i gefnogi clystyrau penodol a ddewisir ar sail y lle a’r sector. Yr hyn rydyn ni’n dechrau pendroni yn ei gylch yn gyhoeddus yw a oes rhaid inni adolygu ein sefydliadau a’n hasiantaethau – ac a ddylid trafod rhagor am greu corff arloesi.
Ceir tystiolaeth academaidd gynyddol sy’n awgrymu bod problemau amlwg sy’n ymwneud â dylunio polisïau llwyddiannus yn ogystal â chwestiynau o ran sut mae polisïau’n cael eu defnyddio neu eu rhoi ar waith.
Peth cyffredin yng Nghymru yw gwrando ar bobl sy’n sôn am fethu â throi polisïau gwych yn arferion sy’n cyflawni ar ran ein dinasyddion – sef y ‘bwlch gweithredu polisïau’ hwnnw. Dyma broblem allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu polisïau arloesi. Beth mae rhoi polisïau ar waith yn ei olygu pan fyddwn ni’n dechrau creu cenadaethau? Mae’n rhaid inni wybod beth fydd graddfa briodol rhoi’r gweithgareddau ar waith.
Mae amcanion cenadaethau sy’n hynod o uchelgeisiol ac aflonyddgar yn wych ar y lefel gywir: ni fydd byd busnes fel arfer yn llwyddo i fynd â ni i’r lleoedd rydyn ni eisiau mynd iddyn nhw – mae’n rhaid inni weithio mewn ffyrdd rhyngddisgyblaethol ac ar draws y sectorau i droi prif amcanion hynod uchelgeisiol yn weithgareddau ac arferion go iawn ar y lefel leol.
Yn ein gwaith ar bolisïau arloesi gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydyn ni’n awyddus iawn i ystyried hyn o safbwynt yr ecosystem sy’n seiliedig ar leoedd ac arloesi yn ogystal â meddwl am y math o elfennau y mae eu hangen er mwyn cychwyn prosiectau arloesi drwy roi cenadaethau ar waith.
Rydyn ni wedi dechrau siarad am y pedair elfen ynghlwm wrth strategaethau arloesi: mae clystyrau’n rhan hollbwysig o strategaeth arloesi, gan eu bod yn adnabod ac yn datblygu cymorth pwrpasol ar gyfer y sectorau a’r technolegau mwyaf blaenllaw yn y rhanbarth. Ond ochr yn ochr â hyn rydyn ni o’r farn ei bod yn hollbwysig cydnabod pwysigrwydd y ‘tir comin’ neu’r deunyddiau crai sy’n greiddiol i weithgarwch arloesol newydd. Mae’r Gronfa Her a ddatblygwyd gennym mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn enghraifft o ‘ymyrraeth gatalytig’ yn yr ecosystem, sef ymgais i fywiogi a meithrin gweithgarwch arloesol, yn enwedig felly yn y sector cyhoeddus. Yr elfen olaf yw capasiti neu allu’r rheini yn y rhanbarth i fod yn arloesol.
Rydyn ni wedi bod yn myfyrio ar ein capasiti ein hunain i gyflawni, felly rhaglen a ariennir gan Ewrop yw chwaer-raglen y Gronfa Her sy’n datblygu capasiti gweithwyr y sector cyhoeddus yn y rhanbarth, sef rhaglen o’r enw InFuse. Yn y rhaglen, bydd gweithwyr yn cael eu cyflwyno i fyd data ac yn dysgu sut i fabwysiadu ac addasu ym maes arloesi yn ogystal â’r dull arloesi cyfan sy’n canolbwyntio ar heriau.
Wrth inni fynd ati i lunio clystyrau, mae’n rhaid bod yn ymwybodol o’r hyfforddiant, y sgiliau a’r capasiti y mae eu hangen nid yn unig ar y clystyrau, ond ein bod yn deall hefyd bod y rhain yn gorlifo ac yn cael effaith ehangach.
Yn olaf, i grynhoi, rydyn ni’n wynebu problemau sy’n ymwneud â deall ac ymateb i’r lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol, yr heriau yn y system wleidyddol amlhaenog hon o ran gallu cyrchu cronfeydd ymchwil ac arloesi wedi inni ymadael â’r UE, gan roi’r pwyslais ar fynd ati i gynnwys lleoedd wrth gynnal prosiectau arloesi sy’n ehangu ar y clystyrau ac yn adnabod yr heriau a’r uchelgeisiau llai eu maint.
Mae’n rhaid inni feddwl am y capasiti y mae ei angen arnon ni i gyflawni ein hagenda: ac yn rhan o’r cynhwysion mae cydweithio a chydgysylltu â’n gilydd. Yn bwysicaf oll, mae angen naratif sy’n seiliedig ar rywbeth dilys sy’n ysbrydoli pawb, sef cyd-destun pan fydd pobl yn cydnabod eu hunain yn rhan o’r daith honno, ac a yw ein sefydliadau yn addas i’r diben.”
Athro Dadansoddi Sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd a chyd-gynullydd y Ganolfan Polisïau Arloesi (CIPR) yw Rick Delbridge. Ar hyn o bryd ef yw arweinydd y Brifysgol er dylunio a chyflwyno Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR CF) mewn partneriaeth â chanolfan Y Lab a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gallwch chi weld cofnod llawn o ddigwyddiad y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy glicio yma.
Ymhlith y siaradwyr roedd yr Athro Julie Fitzpatrick OBE, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Alban, a’r Athro Syr Jim McDonald, Pennaeth ac Is-Ganghellor Prifysgol Strathclyde.