Pam mynd yn ôl i’r swyddfa?
19 Gorffennaf 2021Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o’r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae data’r DU yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, y gwnaeth hyn gynyddu i tua 43% ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf. Mae’r un astudiaeth yn awgrymu yr hoffai tua hanner y gweithwyr a weithiodd gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny’n aml neu drwy’r amser. Wrth ystyried dychwelyd – o bosibl – i’r swyddfa, bydd llawer o weithwyr a chyflogwyr yn gofyn i’w hunain, ‘beth mae’r swyddfa’n ei gynnig na all gweithio gartref ei gynnig?’. O ystyried bod ymchwil ddiweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n dangos nad yw’n ymddangos bod gweithio o bell wedi gwneud drwg i gynhyrchiant yn y tymor byr, mae angen ateb arbennig i’r cwestiwn hwn i gyfiawnhau’r buddsoddiad mewn arian ac amser sydd ei angen i weithio mewn swyddfa, yn aml ar ran cyflogwyr a gweithwyr.
Er iddo gael ei ddylunio a’i adeiladu i raddau helaeth cyn dechrau’r pandemig, mae sbarc | spark, sef parc cyntaf y byd ar gyfer ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, a fydd yn ‘gartref’ corfforol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddiwedd 2021, yn ein herio i ystyried ein hatebion ein hunain i’r cwestiwn hwn. Mae’r uchelgeisiau ar gyfer sbarc | spark yn cyd-fynd i raddau helaeth â chenhadaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sef gwella gwasanaethau cyhoeddus a’r broses o lunio polisïau drwy helpu gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio tystiolaeth annibynnol drylwyr o’r hyn sy’n gweithio. Maent hefyd yn adlewyrchu cenhadaeth Ysgol Busnes Caerdydd i sicrhau bod gwerth cyhoeddus wrth wraidd ymchwil a gwaith yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol, yr ydym yn eu cefnogi ac yn cyfrannu atynt. Wrth wraidd yr holl ymdrechion hyn, a’r budd sylfaenol y bydd sbarc | spark yn ei sicrhau ar ben gweithio o bell, yw’r ymgais i hyrwyddo cydweithredu hyd yn oed yn fwy, a hynny ymhlith canolfannau ymchwil yn y Brifysgol a rhwng y canolfannau ymchwil hyn a defnyddwyr tystiolaeth ym myd busnes, y llywodraeth, cyrff anllywodraethol a sectorau eraill i alluogi ymchwil sy’n canolbwyntio ar atebion er mwyn mynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.
Yn sbarc | spark, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n cael ei chydleoli am y tro cyntaf â llawer o’n partneriaid ymchwil ac academaidd allweddol, gan gynnwys CASCADE, DECIPHer, WISERD, Y Lab, y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ac Uned Ymchwil Economaidd Cymru. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda chydweithwyr yn y canolfannau ymchwil hyn ac eraill i gynghori Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym yn rhagweld y bydd bod yn yr un adeilad yn hwyluso gweithio hyd yn oed yn well â phartneriaid ac yn ei gwneud yn haws rhannu syniadau a datblygu mentrau ar y cyd. Bydd hefyd yn haws cwrdd ag eraill yn un o’r mannau cyfarfod niferus sydd ar gael yn yr adeilad. Er bod gweithio o bell (gan gymryd bod y cysylltiad â’r rhyngrwyd yn dda) wedi ein galluogi i barhau i weithio’n effeithiol drwy’r pandemig, mae risg i gyfarfodydd rhithwir ddod yn drafodaethol a chanolbwyntio ar dasgau. Rydym yn gwybod bod agosrwydd corfforol yn cynyddu’r tebygolrwydd o gael sgyrsiau ar hap, sy’n arwain at syniadau newydd a chysylltiadau creadigol. Bydd hefyd yn rhoi syniad gwell i’m cydweithwyr yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a minnau o’r ystod eang o ddiddordebau ymchwil sydd i’w cael ar draws yr holl ddisgyblaethau yn sbarc | spark a thu hwnt er mwyn i ni allu troi ymchwil yn bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y meysydd polisi rydym yn gweithio ynddynt. Bydd mwy o gyswllt wyneb yn wyneb – ag unigolion a sefydliadau sy’n rhannu’r ymrwymiad i ddatblygu polisïau ac ymarfer ar sail tystiolaeth – yn bwysig ar gyfer gwella cynhyrchiant, galluogi arloesi, galluogi cynigion ymchwil traws-ganolfan a’i gwneud yn haws i ni drafod gyda rhanddeiliaid allanol eu blaenoriaethau a’u hanghenion tystiolaeth.
Bydd sbarc | spark yn gartref i tua 400 o gydweithwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac mae disgwyl i filoedd o bobl allanol ymweld â’r safle bob blwyddyn. Bydd hyn yn helpu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i barhau i feithrin a chynnal cysylltiadau gwaith cryf y tu hwnt i’r byd academaidd. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar alw, sy’n golygu ein bod yn ceisio ymateb i anghenion tystiolaeth ymarferwyr a llunwyr polisïau ond hefyd helpu i lywio’r anghenion hynny. Mae dyluniad corfforol a chymdeithasol sbarc | spark yn ein hannog a’n galluogi i gysylltu ymchwil ag ymarfer a pholisïau yn y modd hwn, a bydd, gobeithio, yn ein helpu i adeiladu ar yr ymddiriedaeth a’r gyd-ddealltwriaeth sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod ein hymchwil yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i ymarferwyr a llunwyr polisïau. Bydd man digwyddiadau â chapasiti i 190 o bobl, er enghraifft, yn ei gwneud yn bosibl i ni drafod ac ystyried materion polisi ac ymarfer allweddol yng Nghymru.
Mae sbarc | spark yn cynnig llawer mwy na’n swyddfa flaenorol ac yn ein hannog i gyfuno gweithio o bell â’r amser sy’n cael ei dreulio ar y campws. Mae hyn yn bwysig i ganolfan ymchwil fel ein un ni, y mae ei chenhadaeth a’i hymarfer yn dibynnu ar feithrin cysylltiadau â phobl amrywiol a deall yr heriau sy’n wynebu llunwyr polisïau.
Amanda Hill-Dixon, Uwch-gymrawd Ymchwil, sy’n arwain ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo cydraddoldebau. Cyfarwyddodd gwaith diweddar y Ganolfan ar Wella Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru, a lywiodd Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru’n uniongyrchol. Ar hyn o bryd, mae’n arwain ystod o brosiectau gan gynnwys ymchwil i ffyrdd o leihau tlodi, ffyrdd o liniaru effaith y pandemig ar gyrhaeddiad addysgol a’r defnydd o dechnoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.