Blog SIOE 2021
10 Mai 2021Roedd yn bleser mawr croesawu ffrindiau hen a newydd i’r 34ain Gynhadledd Lled-ddargludyddion ac Opto-electroneg Integredig (SIOE), o 30 Mawrth i 1 Ebrill 2021.
Yn dilyn gorfod canslo SIOE yn 2021, roedd yr Hwb Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol yn benderfynol o gynnal SIOE yn 2021. Trwy ddewis adnoddau ar-lein yn ofalus, cafodd elfennau allweddol SIOE eu symud yn llwyddiannus i raglen ar-lein gyffrous. Roedd hyn yn golygu y gallai’r 260 oedd yn bresennol dros y tri diwrnod fwynhau cyflwyniadau byw ar ystod eang o bynciau gan siaradwyr rhyngwladol, gyda chyfleoedd i gydweithio a chyfathrebu.
Brynhawn Mawrth, dechreuodd y rhaglen gydag anerchiad gan yr Athro Peter Smowton, ac yna’r cyflwyniadau llafar cyntaf. Ledled y gynhadledd, cafwyd dros 80 o gyflwyniadau ar lafar gydag ystod eang o arbenigedd, gan gynnwys: Datblygu Deunyddiau ac effaith arloesi deunyddiau ar ddyfeisiau; Dulliau Newydd ar gyfer Laserau Tonfedd Datacom/Telecom; Laserau a Systemau Laser; Dyfeisiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar Silicon; Synwyryddion a Deunyddiau Cysylltiedig; Modwleiddwyr a Modiwleiddio.
Roedd SIOE yn falch iawn o groesawu dau siaradwr gwadd. Yn gyntaf, ymunodd yr Athro Weng Chowo Labordai Cenedlaethol Sandia yn Albuquerque, New Mexico brynhawn Mercher. Traddododd yr Athro Chow sgwrs ddiddorol ar p-dopio mewn laserau dot cwantwm, gan grynhoi gwaith diweddar ar fodelu a dylunio laser Cwantwm Dot. A dydd Iau, roeddem yn falch o groesawu’r Athro o Brifysgol Technoleg Chalmers, Göteborg. Traddododd yr Athro Haglund sgwrs wych ar VCSELs tonfedd fer iawn ac allyrwyr golau.
Er mwyn sicrhau nad oedd SIOE 2021 yn colli allan ar yr elfen ryngweithiol sydd mor bwysig i gyfnewid academaidd, defnyddiodd SIOE y platfform SpatialChat ar gyfer cyflwyniadau poster, gan alluogi’r rhai oedd yno ryngweithio a siarad gyda chyflwynwyr y posteri, cynrychiolwyr eraill a chreu cysylltiadau newydd. Nid yn unig oedd spatial yn rhoi cyfle i rwydweithio a chysylltu gyda chydweithwyr newydd, ond roedd y platfform hefyd yn gartref i’r sesiwn yrfaoedd a gefnogir gan yr Hwb CS a’r Clwstwr CS, yn canolbwyntio ar yrfaoedd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gan gynnwys cyfleoedd am swyddi presennol yn Ne Cymru a thu hwnt.
Bob blwyddyn, mae SIOE yn cynnig man cyfarfod ar gyfer arloesedd rhwng rhagoriaeth a gweithredu academaidd a diwydiant. Doedd y flwyddyn hon ddim yn wahanol, oedd yn amlwg o’r sesiwn banel hynod ddefnyddiol yn archwilio integreiddiad Electroneg a Ffotoneg. Roeddem yn falch iawn o groesawu ein haelodau panel oedd wedi cael gwahoddiad i ddechrau ein sesiwn: Dr Amy Liu o IQE; Dr Haisheng Rong o Intel; Yr Athro Kevin Williams o Brifysgol Technoleg Eindhoven; Yr Athro Tao Wang o Brifysgol Sheffield, a Dr Aaron Zilkie o Rockley Photonics. Yna, symudodd cynrychiolwyr i ystafelloedd grwpiau bach er mwyn ystyried cwestiynau oedd yn berthnasol i’r maes cyn dychwelyd am drafodaeth bellach.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr, Y Grŵp Lled-ddargludyddion Ffiseg, Sefydliad Ffiseg Cymru a Chanolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC). Yn ogystal â chefnogi’r gynhadledd am nifer o flynyddoedd, eleni fe wnaethant alluogi dyfarnu gwobrau i’r cyflwyniadau a’r posteri gorau. Rydym yn llongyfarch:
- Robert Richards, Dominic Duffy, Andreas Thurn, Joshua Robertson, Shujie Pan a Bo Hou a enillodd wobrau Teilyngdod SIOE Grŵp Ffiseg Lled-ddargludyddion IOP am gyflwyniadau llafar.
- Bogdan Ratiu a enillodd gyflwyniad llafar gorau CSC SIOE
- Huiwen Deng a Giorgos Boras a enillodd wobrau poster IOP Cymru SIOE
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud llawer o addasiadau i weithio ar-lein, ac mae cynhadledd ar-lein yn wahanol iawn gynhadledd wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, dangosodd SIOE 2021 i ni y gall gweithio ar-lein fod yn llwyddiannus a galluogi cydweithio.
Wedi dweud hynny, rydym yn edrych ymlaen at SIOE 2022 pan fyddwn, drwy lwc, yn gallu croesawu ein cydweithwyr academaidd a diwydiant hen a newydd wyneb yn wyneb.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS), sy’n ceisio sefydlu Caerdydd fel arweinydd Ewrop ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n helpu ymchwilwyr a diwydiant i gydweithio. Bydd y Sefydliad yn symud i gartref newydd sbon – y Ganolfan Ymchwil Drosiadol – yn 2022, ynghyd â llinell greu 8 modfedd o’r radd flaenaf o fewn cyfleuster ystafell lân pwrpasol.