Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru
2 Mawrth 2021Mae partneriaeth arloesol i ddod ag apwyntiadau gofal llygaid critigol yn agosach at gartrefi cleifion wedi helpu i drawsnewid y gwasanaethau yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd bron i 115,000 o gleifion sydd mewn perygl o golli golwg anadferadwy yn aros am apwyntiad llygad mewn ysbyty yng Nghymru. Dyma optometrydd o Brifysgol Caerdydd, Sharon Beatty yn esbonio sut mae optometryddion y Stryd Fawr, clinigwyr a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i leihau’r baich ar ysbytai.
“Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â chlefydau fel diabetes yn rysáit ar gyfer pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal llygaid. Yn ôl yn 2019, roedd rhestrau aros am apwyntiadau llygaid yn cynyddu – gyda thua 38% o’r rhai ar y rhestr eisoes y tu hwnt i’w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad.
Nid oedd modd ehangu capasiti’r ysbytai, felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Trwy Gyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, buom yn cydweithio ag Accelerate, sy’n helpu arloeswyr yng Nghymru i roi syniadau ar waith ym maes iechyd a gofal.
Llwyddodd y rhaglen i ddarparu strwythur clir, partneriaid ac amserlen a allai ein helpu i newid pethau – yn gryno, fe wnaethant ein rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn a allai gefnogi prosiect i sefydlu model clinigol chwyldroadol.
Arweinir Accelerate gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesedd Caerdydd), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fanteisio ar arbenigedd academaidd, dealltwriaeth drylwyr o ecosystem y gwyddorau bywyd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid i wireddu eu syniadau, a dyna’n union roedd ei angen arnom ni.
Gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu fframwaith gwasanaeth lle mae optometryddion cofrestredig y Stryd Fawr yn cymryd rheolaeth ganiataol dros gleifion golwg risg uchel dynodedig. Mae defnyddio technoleg ddelweddu o’r radd flaenaf, meddalwedd bwrpasol a chofnodion cleifion electronig yn caniatáu i gleifion gael profion yn eu practis optometreg lleol. Mae delweddau a chanlyniadau yn cael eu huwchlwytho er mwyn eu hadolygu gan ymgynghorydd.
Mae’r gweithredoedd wedi cael eu mapio a’u monitro gan fy nghydweithiwr Angharad Hobby, optometrydd a chydymaith ymchwil, a fu’n asesu sut i leddfu pwysau ar wasanaethau offthalmoleg trwy ofal cymunedol. Fel rhan o’r prosiect, cynhaliodd Ms Hobby ymchwil ar brofiadau cleifion ac ymarferwyr i lywio penderfyniadau’r dyfodol ynghylch darparu gofal llygaid yng Nghymru.
Yn ei gyfanrwydd, mae Trawsffurfio Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru yn cefnogi cyfres o wasanaethau peilot newydd i reoli hyd at 9,000 o gleifion dynodedig ar draws pum maes gofal: Glawcoma (atgyfeiriadau newydd a dilynol); Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn gysylltiedig ag Oed; Retinopathi Diabetig a Damweiniau Llygaid Brys.
Mae’r cynllun yn sicrhau cymaint o fanteision: lleihau amseroedd aros, mabwysiadu technolegau newydd, cynyddu capasiti gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid, sgiliau newydd a hyfforddiant cymhwysedd ar gyfer optometryddion annibynnol, cysylltiadau agosach â gofal eilaidd a allai arwain at ddarpariaeth gwasanaethau ychwanegol gan fentrau optometreg. Yn ogystal, mae wedi cysylltu arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn fwy â gofal llygaid yn y gymuned a bydd yn arwain at gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid a cipolwg newydd ar economeg iechyd mewn gofal offthalmig.
Cyfrannodd y Cyflymydd Arloesedd Clinigol at brosiect TECSW trwy helpu i nodi a chefnogi nifer o themâu allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys cwmpas a gallu cynyddol optegwyr y stryd fawr, hyrwyddo ehangu’r diwydiant a chyfleoedd cyflogaeth; arloesi trwy system newydd wedi’i hintegreiddio’n ddigidol, defnyddio adnoddau lleol, lleihau amseroedd aros ac ymweliadau ag ysbytai a theithio; yn ogystal â hyrwyddo setiau sgiliau cynyddol ar draws y proffesiwn optometreg, gan ddefnyddio’r offer a’r TG diweddaraf.
Yng ngeiriau Sali Davis, Prif Weithredwr Optometreg Cymru, mae’r prosiect cyfan wedi “tynnu sylw at y gwahaniaeth mae cleifion yn gweld pan fydd gofal yn cael ei ddarparu’n agosach at adref, yn y gymuned a sut y gellir defnyddio sgiliau optometryddion gofal sylfaenol orau i geisio rhoi profiad gofal iechyd da i’r claf.”
Yn y dyfodol, credwn y gallai’r dechnoleg arwain at arallgyfeirio parthau iechyd a gofal cymdeithasol eraill gan ddefnyddio cofnodion e-gleifion i ysgogi cydweithredu yn y dyfodol rhwng partneriaid masnachol, academaidd, trydydd sector a chlinigol gyda’r potensial i gyflwyno ein model ar draws GIG Cymru.”
Sharon Beatty, Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd