Skip to main content

Uncategorized @cy

Eich cefnogi i dyfu ac uwchraddio eich busnes

15 Chwefror 2021

Bydd Covid-19 a Brexit yn cael effaith hirdymor ar yr economi. Rhaid i fusnesau bach a chanolig ddod o hyd i ffyrdd newydd o oroesi. Fodd bynnag, lle bynnag y bo newid ac ansicrwydd, mae cyfle hefyd: cyfle i fod yn fwy cadarn, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, a ffynnu. Mae Rhaglen Scale-Up SETsquared yn cefnogi busnesau arloesol sy’n fach a chanolig o ran maint i symud i’r lefel nesaf, ar yr adegau mwyaf rhyfeddol. Dyma, Cheryl Moore, Rheolwr Arloesedd yn SETsquared , yn esbonio’r manteision.

Gyda phortffolio o adnoddau wedi’u targedu a’u teilwra, mae Scale-Up yn helpu busnesau bach a chanolig i fynd i’r afael â heriau o bwys o ran Ymchwil a Datblygu, dod o hyd i dalent ymchwil yn y Brifysgol, sicrhau cyllid Ymchwil a Datblygu a chodi buddsoddiad preifat.

O dan arweiniad SETsquared – partneriaeth rhwng Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Exeter, Southampton a Surrey – mae Rhaglen Scale-Up yn gydweithrediad o’r pum sefydliad mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Mae’r cynllun yn caniatáu Prifysgol Caerydd i ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r tu hwnt, gan droesglwyddo ein hymchwil i fyd diwydiant a chynorthwyo busnesau i dyfu, creu swyddi a chynnig manteision i gymdeithas yn ehangach.

Mae’r cynllun wedi’i greu ar gyfer cwmnïau twf uchel, ac yn ysgogi arloesedd a buddsoddiad mewn prosiectau ar draws heriau allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys ym meysydd peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, arloesedd digidol, economi gylchol, cynaliadwyedd, sero net, ac iechyd a lles. Mae Scale-Up yn cefnogi busnesau bach a chanolig ac ymchwilwyr i gydweithio trwy ystod o fuddion aelodaeth: mynediad at y byd academaidd a rhwydwaith busnes proffil uchel, digwyddiadau unigryw, cefnogaeth i nodi galwadau cyllido priodol ar gyfer Ymchwil a Datblygu, cefnogaeth i ddatblygu cynigion, a mynediad at gymorth buddsoddi parod, a rhwydwaith o dros 1,500 o fuddsoddwyr. Ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n awyddus i arallgyfeirio eu busnes, mae’r Rhaglen hefyd yn cynnig mynediad at Ymarferion Arloesedd ar-lein.

Yng Nghaerdydd, mae ein partneriaid busnesau bach a chanolig eisoes yn mwynhau’r manteision. Ymunodd Worthy Farm, cartref Gŵyl Glastonbury, â Scale-Up i weithio gyda pheirianwyr blaenllaw ar brosiect cerbydau trydanol cyffrous. Rydym yn cydweithio â llawer o gwmnïau eraill hefyd, gan gynnwys Cellesce, Rescape Innovation, Oxford Brain Diagnostics a Simply Do Ideas.

Gall aelodau Scale-Up fanteisio ar rwydwaith o Gynghorwyr Arloesedd sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig i fod yn rhan o drafodaethau gyda’r gymuned academaidd a’u hwyluso. Gallant hefyd fanteisio ar arbenigedd cymorth busnes arbenigol a ddarperir gan dîm o arweinwyr y sector.

Cefnogir busnesau bach a chanolig yng Nghymru gan Roger Hiscott, Cyfarwyddwr Really Agile Consulting. Mae’n wych bod Roger gyda ni gan ei fod yn cynnig cyfoeth o sgiliau a phrofiad i ehangu cefnogaeth Scale-Up er budd busnesau bach a chanolig uchelgeisiol yng Nghymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn cysylltu ac yn cydweithio er mwyn troi ein hymchwil academaidd o’r radd flaenaf yn atebion yn y byd go iawn. Y nod yw helpu i adfer yr economi mewn modd cynhwysol a chynaliadwy yn ogystal â mynd i’r afael â heriau mwyaf cymdeithas.

Mae gan fusnesau bach a chanolig rôl hanfodol yn economi’r DU drwy gynnig syniadau ffres sy’n sbarduno arloesedd a chystadleuaeth. Nawr yw’r amser perffaith i ni weithio gyda’n gilydd a uwchraddio’ch busnes.

Ffoniwch ni. Cysylltwch â ni.  Rydym ni yma i helpu.

Cheryl Moore, Rheolwr Arloesedd, Rhaglen Scale Up SETsquared

Cheryl.Moore@setsquared.co.uk

Cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd: Victoria Harris, Cynghorydd Ymgysylltu Busnes ac Arloesedd: harrisvl1@caerdydd.ac.uk

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am arbenigedd ein prifysgolion partner, a chefnogaeth Scale-Up i wneud cais am gyfleoedd cyllido Ymchwil a Datblygu cyfredol trwy’r dolenni canlynol

 

Technoleg Quantum 
CLUDIANT Y GENHEDLAETH NESAF
ARLOESEDD MEWN GOFAL IECHYD
ARLOESEDD CYNALIADWY 
DIGIDOL