Ydych chi’n un o Arweinwyr AI a Roboteg y Dyfodol?
11 Ionawr 2021Pobl a Robotiaid, AI tebyg i bobl, AI Moesegol ac Esboniadwy, Technolegau a Chymdeithas sy’n Canolbwyntio ar bobl …dyna ambell thema ddyfodolaidd a fydd yn cael eu trafod ymysg eraill yng nghynhadledd flynyddol gyntaf y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Pheiriant Dynol Systemau (IROHMS) eleni. Yma, mae’r Cyfarwyddwr, yr Athro Rossi Setchi, yn amlinellu’r rhaglen gyffrous sydd i ddod.
“Pwrpas Academi Arweinwyr y Dyfodol 2021 yn rhannol, yw arddangos, rhwydweithio a thrafod – ond fel cyfanwaith, mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd cydweithredol rhwng y byd academaidd a diwydiant.
Mae ein cynhadledd yn dechrau ddydd Llun 18 Ionawr ac yn para tan ddydd Mawrth 26 Chwefror 2021, gan gyflwyno rhaglen chwe wythnos o ddigwyddiadau cyffrous.
Byddwn yn dwyn ynghyd academyddion a myfyrwyr o Ysgolion Peirianneg, Seicoleg, Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, gyda chydweithwyr o’r diwydiant, addysg uwch, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Byddwn yn darparu digon o gyfle i rwydweithio, cyflwyno gweithdai arweinyddiaeth a hyfforddiant, fforymau trafod, a theithiau rhithwir o amgylch cyfleusterau’r Ganolfan.
Rydyn ni’n adnabyddus am ein hymchwil drawsnewidiol, ein hymgysylltiad cryf â’r diwydiant a’r sector cyhoeddus, a’n bod yn darparu atebion cynaliadwy, effeithiol, ac mae’r gynhadledd yn rhoi cyfle inni dynnu sylw atynt.
Ein nod yw ysgogi trafodaethau bywiog gan academyddion blaenllaw yn eu maes ar ymchwil gyfredol i Ddeallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol, a byddwn yn clywed am yr ymchwil sy’n cael ei gynnal yn y Ganolfan.
Mae’r gynhadledd yn darparu cyfleoedd i’n carfan o fyfyrwyr PhD a’n hymchwilwyr ddatblygu eu sgiliau arwain i’w cefnogi i ddod yn Arweinwyr yn y Dyfodol.
Trwy ein fforymau trafod, a gynhelir gan Weithgorau’r Ganolfan, a theithiau rhithiol trwy’r labordai, byddwn yn gallu dangos yr arbenigedd a’r cyfleusterau sydd ar gael i hwyluso prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi cydweithredol.
Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae’r Gweithgor AI tebyg i bobl, Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial (AI) Moesegol ac Esboniadwy, Gweithgor Technolegau a Chymdeithas sy’n seiliedig ar bobl, a’r Gweithgor Pobl a Robotiaid (Canolfan AI, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol).
Bydd siaradwyr o Costain, Jaguar Land Rover, Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), GE Aviation ac UKRI EPSRC, yn ogystal â siaradwyr rhyngwladol sy’n arweinwyr yn eu meysydd academaidd.
Cymerwch gip ar ein rhestr digwyddiadau isod. Os ydych yn gweithio mewn diwydiant neu ddisgyblaeth academaidd cysylltiedig, ac eisiau cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cofrestrwch er mwyn dod i’n digwyddiadau gan ddefnyddio’r dolenni Eventbrite isod, neu gallwch gysylltu â’n tîm yn uniongyrchol ar IROHMS@caerdydd.ac.uk neu trwy ein cyfrifon Twitter a LinkedIn.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd yn rhithiol – a chydweithio yn y dyfodol gobeithio!
Yr Athro Rossi Setchi
IROHMS
Digwyddiadau Academi Arweinwyr y Dyfodol 2021
Gweithdy Cymrodoriaethau EPSRC
Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021, 10:00 – 12:00 GMT
Taith Rhithiol Labordy Efelychu IROHMS
Dydd Iau 21 Ionawr 2021, 15:30 – 16:30 GMT
Fforwm IROHMS ar Ddeallusrwydd artiffisial Moesegol ac Esboniadwy
Dydd Mercher 27 Ionawr 2021, 15:30 – 17:00 GMT
Taith Rithwir Labordy Systemau Awtomatig a Roboteg IROHMS
Dydd Iau 28 Ionawr 2021, 15:30 – 16:30 GMT
Fforwm IROHMS ar Bobl a Robotiaid
Dydd Mercher 3 Chwefror 2021, 15:30 – 17:00 GMT
Colocwiwm PhD IROHMS*
Dydd Iau 4 Chwefror 2021, 10:00 – 13:00 GMT
Gweithdy Tawelu eich Beirniad Mewnol*
Dydd Iau 4 Chwefror 2021, 15:00 – 16:00 GMT
Hyfforddiant Arwain: Siarad â Hyder ac Effaith (Rhan 1) *
Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021, 13:30 – 17:00 GMT
Fforwm IROHMS ar Dechnolegau a Chymdeithas sy’n Canolbwyntio ar bobl
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021, 15:30 – 17:00 GMT
Taith Rithwir Labordy Rhyngweithio Dynol-Robot IROHMS
Dydd Iau 11 Chwefror 2021, 15:30 – 16:30 GMT
Hyfforddiant Arwain: Siarad â Hyder ac Effaith (Rhan 2) *
Dydd Mawrth 16 Chwefror 2021, 13:30 – 17:00 GMT
Fforwm IROHMS ar AI tebyg i bobl
Dydd Mercher 17 Chwefror 2021, 15:30 – 17:00 GMT
Hyfforddiant Arwain: Amrywiaeth a Meddwl yn Agored*
Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021, 15:30 – 17:00 GMT
*Yn agored i aelodau IROHMS a myfyrwyr PhD yn unig.