Blas ar Arloesedd ym maes Adeiladu
11 Chwefror 2020
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cael blas ar fywyd gwaith ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Drwy ei Raglen Llysgenhadon Adeiladu i Fyfyrwyr, mae cwmni Bouygues UK wedi agor ei ddrysau er mwyn caniatáu i fyfyrwyr Peirianneg Sifil israddedig weld y broses adeiladu drostyn nhw’u hunain. Yma, mae Adeela Bano, Sophie Chillingworth, Siân Miller a Jasper Chiu yn rhannu eu profiadau ar y safle.
“Ar hyn o bryd, mae Campws Arloesedd Caerdydd yn cael ei adeiladu gan y cwmni adeiladu arloesol Bouygues UK.
Mae’r Campws, sydd wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, yn agor llwybrau ar gyfer arloesedd a chreadigrwydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yno bydd cyfleusterau o’r radd flaenaf, gan ganiatáu i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar draws sawl disgyblaeth gydweithio a chysylltu gyda’i gilydd i drosi syniadau yn gynhyrchion a phrosesau go iawn.
Ar hyn o bryd, mae Bouygues UK yn rhedeg Rhaglen Llysgenhadon Adeiladu i Fyfyrwyr. Mae’r rhaglen yma’n caniatáu i Fyfyrwyr Peirianneg Israddedig gael cipolwg ar y safle adeiladu a rhyngweithio gyda gweithwyr y cwmni, gan roi golwg a dealltwriaeth well o’r swyddi sydd ar gael ym maes Peirianneg Sifil.
Mae’r Llysgenhadon Adeiladu yn ymweld â’r safle’n rheolaidd, ac maen nhw’n cael cyfle i ofyn cwestiynau’n aml y broses adeiladu bresennol.
Fel rhan o’r cynllun, mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn gynefino Iechyd a Diogelwch, ac mae gofyn iddyn nhw wisgo Cyfarpar Diogelu Personol cyn ymweld â’r safle.
Mae gan Bouygues UK bolisi Iechyd a Diogelwch cadarn, ac mae gofyn i bawb ar y safle wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (hetiau caled, menig, siaced lachar, sbectol ddiogelwch, esgidiau diogelwch, a chyfarpar diogelu clustiau).
Yn ystod ymweliad â’r safle hydref diwethaf, roedden ni ar fin ymweld â’r adeilad Arloesedd Canolog, lle roedd rhan o’r grisiau Oculus eisoes wedi’u gosod yn y lloriau isaf, gan fod siâp y grisiau’n atal mynediad at y lloriau isaf er mwyn i’r grisiau gael eu gosod unwaith i’r lloriau eraill gael eu hadeiladu.
Dyma’r grisiau Oculus cyntaf i gael eu gosod yng ngwledydd Prydain. Fel pob dull newydd, cafwyd heriau logistaidd wrth eu gosod.
Drwy gydol y prosiect, mae Bouygues UK wedi bod yn gweithio gyda Network Rail i gynllunio’r broses adeiladu. Mae hyn er mwyn atal y broses rhag effeithio’n negyddol ar weithrediad y trenau.
Er enghraifft, er mwyn atal y posibilrwydd bod rigiau gosod pileri sylfaen yn cwympo ar y rheilffordd, cafodd y rigiau eu gosod ar ongl berpendiciwlar i’r rheilffordd. Ar bob cam adeiladu, mae gofyn i Network Rail gymeradwyo’r dull adeiladu.
Her arall a wynebwyd yn ystod y broses adeiladu oedd y gofyniad am goncrid gweladwy, sy’n rhan o gynllun yr adeilad Arloesedd Canolog. Roedd gofyn i’r cwmni sicrhau bod colofnau penodol yn edrych yn hardd i’r llygad, gan y bydd y colofnau yma’n weladwy ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau, gan olygu y bydd yn rhaid i’r concrid gweladwy fod â gorffeniad llyfn a choeth.
Nid yw heriau codi’r campws yn gorffen yma. Yn ogystal â’r Ganolfan Arloesedd, bydd y safle yma hefyd yn gartref yn y dyfodol i’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – sy’n gweithio’n agos gyda CS Connected, clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cynta’r byd – a Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Bydd offer ymchwil sy’n hynod sensitif i ddirgryniadau’n cael ei ddefnyddio yn y cyfleuster, felly mae’n rhaid i Bouygues UK ddilyn gofynion cynllunio llym er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn addas at ei ddefnydd yn y dyfodol.
Mae technoleg yn gwella bob dydd, ac yn ystod cyfnod o oedi yn y gwaith adeiladu, fe ddiweddarwyd yr offer a ddefnyddir, a oedd yn golygu bod angen lleddfu dirgryniadau i safon uwch fyth, gan achosi anhawster pellach i’r broses gyfan. Fel y soniwyd yn flaenorol, mae’r safle’n uniongyrchol gyfagos â’r rheilffordd ac ardal breswyl, ac mae’r ffactorau yma’n cynyddu’r heriau y mae Bouygues yn eu hwynebu.
Er bod gan y cyfleusterau fanyleb eithriadol o uchel, mae disgwyl y bydd gwaith adeiladu’r Campws Arloesedd yn dod i ben yn 2020. Mae ein hymweliad wedi’n helpu ni i ddeall y broses hir a haenog sydd i adeiladu, a’r heriau y byddwn ni, fel Peirianwyr Sifil y dyfodol, yn eu hwynebu yn ein gyrfaoedd.”
Gobeithiwn barhau i ymweld a dysgu mwy fyth am y diwydiant adeiladu.
Ein Profiadau
Sophie – “Roedd yr ymweliad â’r safle yn brofiad anhygoel, ac yn gyfle gwych i gael dealltwriaeth o sut caiff safle adeiladu ei weithredu. Fe gawson ni daith o gwmpas y safle, gan gynnwys yr adeilad Arloesedd Canolog a’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol, lle gwelsom rywfaint o’r cyfleusterau syfrdanol sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Un nodwedd wnaeth fy niddori’n benodol oedd y grisiau Oculus sy’n cael eu hadeiladu yn yr adeilad Arloesedd Canolog. Dyma’r cyntaf o’u math (yng ngwledydd Prydain) ac maen nhw’n adlewyrchu’r syniadau gwirioneddol arloesol y byddai modd eu creu yn yr adeiladau ar ôl iddyn nhw gael eu cwblhau.
Jasper – “Roedd yr ymweliad â’r safle yn brofiad addysgol amhrisiadwy, gan fy ngalluogi i gael cipolwg ychwanegol i sut caiff adeiladau eu hadeiladu yn unol â chynllun a gweledigaeth y cleient, i’r cyfaddawdu mae’n rhaid ei wneud, ynghyd â’r modd y caiff y safle ei gadw’n ddiogel yn ystod y broses adeiladu. Eglurodd Nick yr heriau unigryw a wynebir, a’r gofynion mae’n rhaid eu hateb er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn addas at ei ddiben yn y dyfodol, gan ehangu ar ein dealltwriaeth ymhellach na’r hyn y mae’r cwrs yn gofyn amdano. Rydw i wir wedi mwynhau’r ymweliad, ac rwy’n gobeithio dod yn ôl eto yn y dyfodol.”
Siân – “Mae ymweld â safle adeiladu’r Campws Arloesedd wedi bod yn hynod ddiddorol, oherwydd bob tro byddwn ni’n ymweld â’r safle, mae rhywbeth newydd yn digwydd wrth i’r prosiect barhau, felly mae rhywbeth arall i’w weld a’i ddysgu bob tro. Hyd yma, rydw i wedi ymweld â’r safle dair gwaith ar wahanol gamau o’r prosiect, ac rydw i wedi sylwi nad dim ond y prosiect sy’n datblygu, ond gosodiad y safle hefyd. Mae wedi bod yn ddiddorol clywed am heriau’r prosiect gan Nick, sy’n cynnig safbwynt y contractiwr sydd ar y safle. Mae hyn wedi dylanwadu ar fy marn o ran fy llwybrau gyrfaol yn y dyfodol, gan fod mwy o ddiddordeb gen i erbyn hyn mewn contractio. Rwy’n edrych ymlaen at gyfle i ymweld â’r safle eto yn y dyfodol, a byddwn i’n sicr yn argymell y profiad yma i Fyfyrwyr Peirianneg Sifil eraill.”
Adeela – “Mae bod yn Llysgennad Adeiladu Myfyrwyr gyda Bouygues UK wedi bod yn brofiad amhrisiadwy ac unigryw hyd yma. Roedd yr ymweliad â’r safle ar 25 Hydref 2019 yn brofiad gwych, ac fe ganiataodd i fi weld safle adeiladu gweithredol a gweld sut caiff iechyd a diogelwch ei flaenoriaethu dros bethau eraill, ac nad oes modd cyfaddawdu pan ddaw at iechyd a diogelwch. Rhoddodd yr ymweliad â’r safle gyfle i fi ofyn cwestiynau i weithwyr proffesiynol sydd â blynyddoedd o brofiad ac sy’n benderfynol o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr. Mae wedi bod yn brofiad addysgiadol a gwirioneddol ysbrydoledig. Rwy’n gobeithio ymweld â’r safle eto a dilyn y broses adeiladu ochr yn ochr â fy astudiaethau.”