Cartref arloesedd dan arweiniad y Gwyddorau Cymdeithasol
3 Medi 2019Tîm o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw yw’r ymwelwyr diweddaraf i fod yn dystion uniongyrchol i’r gwaith adeiladu ar Gartref Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol.
Bydd Spark (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) wedi’i leoli yn Arloesedd Canolog (IC). Bydd y crwsibl chwe llawr yn gartref i barc ymchwil cyntaf y byd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan ddod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi blaenllaw ynghyd i un lleoliad.
Bydd Spark wedi’i leoli ar draws tri llawr, gan ddwyn ynghyd arbenigedd rhyngddisgyblaethol o ddeg o sefydliadau ymchwil Prifysgol Caerdydd gyda’u partneriaid i greu datblygiadau arloesol ar y cyd all helpu i wneud cymdeithas yn fwy iach a diogel.
Bu Lee Lovering, arweinydd prosiect y safle gyda Bouygues UK, yn tywys arweinwyr Spark ar daith o amgylch safle Heol Maendy i weld pileri concrid, slabiau llawr ac estyll yn cael eu gosod.
Yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu, luniodd y weledigaeth academaidd wreiddiol ar gyfer SPARK.
“Ar ôl dros chwe blynedd o waith yn datblygu’r cysyniad a dwyn y fenter yn ei blaen at y cam adeiladu, mae’n dra chyffrous (ac yn rhywfaint o ryddhad) gweld yr adeilad yn ymrithio.
“Gallwn eisoes weld amlinelliad ffurf y grisiau Oculus, fydd yn nodwedd ganolog i’r adeilad terfynol. Mae gweld hyd a lled datblygiad y safle hefyd yn helpu i roi bywyd i’r lluniau artist a’r CGI. Mae llawer ar ôl i’w wneud, wrth gwrs, ac mae’r gwaith go iawn yn dechrau pan fyddwn yn ‘cael yr allweddi,’ ond mae’n galonogol ac ysbrydoledig gweld y gwaith adeiladu ar droed.”
Ymunodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST), o’r Ysgol Seicoleg a Chanolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil Newid Hinsawdd, â’r daith tywys o amgylch y safle hefyd.
‘Mae’n dra chyffrous gweld y freuddwyd o greu parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd yn troi’n realiti – a gwerthfawrogi graddfa’r adeilad mewn modd na ellir ei werthfawrogi o’r dyluniadau papur.
At hynny, fe ddysgom bwysigrwydd cynaliadwyedd cynaliadwyedd (sustainability of sustainability), rhywbeth hanfodol ar gyfer ein Canolfan Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol newydd, fydd yn symud i SPARK unwaith bod y datblygiad yn gyflawn.
At hynny, bydd Arloesedd Canolog yn cynnwys lle ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, unedau masnachol ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd, ynghyd â man masnachol ar gyfer labordai gwlyb.
Mae’r adeilad yn cyfuno labordy ymddygiad, labordy arloesedd a labordy delweddu fel adnoddau creiddiol a galluogwyr i ddwyn pobl at ei gilydd ar draws disgyblaethau, gan gynnig posibiliadau newydd ar gyfer cydweithio a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol ar draws y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt.
Bydd yr Oculus yn ganolbwynt i’r adeilad – ‘grisiau cymdeithasol’ agored yn rhedeg drwy wagle gogwyddol, lle gall sgyrsiau a chyfarfodydd ar hap arwain at gydweithio rhwng defnyddwyr. Disgwylir y bydd Campws Arloesedd Caerdydd wedi’i gwblhau ym mis Gorffennaf 2021.