Peirianwyr sifil ifanc yn mynd ar daith dywys o amgylch Campws Arloesedd
16 Mai 2019Myfyrwyr yn gweld safle Bouygues UK ar waith
Bu pedwar myfyriwr Peirianneg Sifil ar eu blwyddyn gyntaf yn mwynhau taith dywys o amgylch Campws Arloesedd Caerdydd yn heulwen y Pasg.
Aeth myfyrwyr israddedig o Brifysgol Caerdydd o amgylch adeiladau newydd y safle o dan arweiniad Byron Howe o Jacobs, yng nghwmni Dr Jay Millington, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Sifil, a Nick Toulson, Bouygues UK.
Cawsant weld amlinelliad o’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol (TRF) – canolfan ymchwil 129,000 o droedfeddi sgwâr, sy’n gartref i ddau sefydliad o’r radd flaenaf: Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – yn ogystal ag Arloesedd Canolog (IC), cartref newydd ar gyfer sgîl-gynhyrchion, busnesau newydd a Spark, y parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf yn y byd.
Clywodd y myfyrwyr gan Mr Howe a Rhys Creswell, sy’n fyfyriwr graddedig a recriwtiwyd gan Bouygues, am nifer o’r prosesau adeiladu sy’n mynd rhagddynt, gan gynnwys creu colofnau concrid arbenigol fydd yn ffurfio rhan o’r adeilad IC a ddyluniwyd gan Hawkins/Brown, a gosod slab y llawr gwaelod yn adeilad TRF, a ddyluniwyd gan HOK.
Mae Bouygues UK yn disgwyl i’r fframiau concrid gael eu cwblhau dros y pythefnos nesaf, cyn codi fframiau dur unionsyth dros yr haf pan fydd y ddau strwythur uwch-dechnegol yn dechrau magu ffurf yn safle Heol Maindy.
Yn ôl Joe Taylor, sy’n fyfyriwr Peirianneg Sifil ar ei flwyddyn gyntaf: “Mae ymweld â’r safle yn brofiad gwych i fyfyrwyr fel fi sydd ar eu blwyddyn gyntaf, am fod theorïau a ddysgwn mewn darlithoedd yn cael eu harddangos ar y safle adeiladu. Yn ogystal, mae’n eich galluogi i fwrw golwg pellach ar y broses o reoli prosiect. Ar y safle i ni ymweld ag ef, cafodd ein grŵp gyfle hefyd i weld y broses o reoli adeilad arbenigol a’r rhagofalon a’r cynllunio fu’n rhan o’r gwaith adeiladu, yn ogystal â thrwsio difrod ac arloesedd ym maes adeiladu. Er enghraifft, mae’r adeilad arbenigol sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn gofyn am gadw’r holl ddirgryniadau sy’n treiddio drwy’r tir ar eu hisaf, ac mae hynny’n anodd o ystyried bod trac trên yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ychydig o gannoedd o droedfeddi’n unig i ffwrdd. Roedd yr ymweliad hwn wedi pwysleisio mewn difrif ar yr arloesedd a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu i fod yn beiriannydd ar brosiectau o’r fath, ac mae’n gryn gymhelliad ar gyfer gwneud yn dda ar y cwrs.”
Ychwanegodd Dr Millington: “Rydym yn ddiolchgar i Bouygues UK am gymryd o’u hamser, a gwneud yr ymdrech i’n tywys o amgylch y prosiect hynod o gyffrous hwn. Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr weld prosiect peirianneg o bwys mawr yn uniongyrchol, ac yn mae’n tawelu’r meddwl o wybod y bydd yn chwarae rhan wrth hyfforddi peirianwyr sifil dan hyfforddiant y dyfodol fel Rhys, a gwyddonwyr y dyfodol fydd yn gweithio o fewn ei furiau.
Bydd y Campws yn gweithredu fel magnet, gan ddenu buddsoddiad o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i droi ymchwil yn atebion ar gyfer y byd go iawn, a chreu ffyniant cymdeithasol ac economaidd. Fel Cartref Arloesedd y Brifysgol, bydd yn agored i bawb.