Trump, rhyfeloedd masnachu a Tsieina – safbwynt personol – Mike Wilson, Panalpina
20 Tachwedd 2018Mae Mike Wilson (yn y llun) yn Bennaeth Byd-eang Logisteg a Gweithgynhyrchu yn Panalpina, ac mae newydd ei benodi’n Athro Gwadd Anrhydeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’n siarad yma â’r Athro Aris Sytentos o Ganolfan Ymchwil Panalpina’r Ysgol am gadwyni cyflenwi, rhyfeloedd masnachu Sino-US a phwy fydd yr enillwyr yn y pen draw o ran logisteg fyd-eang.
Aris: Beth am ddechrau gyda rhywfaint o’r cefndir? Sut wnaeth cadwyni cyflenwi gyrraedd eu sefyllfa bresennol?
Mike: Gadewch i mi ddweud yn y lle cyntaf mai fy marn i sydd yma, ac nid o reidrwydd barn unrhyw sefydliad sydd gen i gysylltiad â nhw…felly, profodd cadwyni cyflenwi ac felly logisteg trydydd parti (3PL) dwf anferth dros y ddau ddegawd ddiwethaf am ddau reswm; globaleiddio, a thuedd y cwsmer i allanoli.
Wrth i weithgynhyrchu ganoli a symud i wledydd â chostau llafur isel, dilynodd y diwydiant logisteg trydydd parti. Cynyddodd y galw am gludo cynnyrch o wledydd â chostau isel yn ôl i gwsmeriaid mewn marchnadoedd datblygedig; tyfodd gweithgynhyrchu wrthi i alw cwsmeriaid gynyddu; a daeth cadwyni cyflenwi yn rhwydweithiau hir a chymhleth, a pharhau felly am sawl degawd.
I weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs), fe wnaeth gweithgynhyrchu eu galluogi i symud o gostau gweithgynhyrchu sefydlog i fodel costau amrywiol. Fe wnaeth hynny olygu bod modd ansefydlogrwydd yn bosibl o ran galw a chapasiti. Fe wnaeth hynny alluogi trydydd partïon i dyfu’n agregwyr ac yn ‘arbenigwyr’ mewn maes arbennig, boed hynny’n gadwyn weithgynhyrchu neu gyflenwi.
Beth oedd effaith y math hwn o fodel wedi’i allanoli?
O ganlyniad i allanoli, collodd llawer o OEMs y gallu i reoli eu cadwyni cyflenwi eu hunain; daeth y broses o wneud unrhyw fath o newid yn un gymhleth a chostus. Aeddfedodd cadwyni cyflenwi a gwelwyd gwelliannau graddol megis cwtogi ar amseroedd arwain a gostwng lefelau stocrestrau drwy gyfrwng gwell technegau rhagolygon, a chynllunio o ran galw. Fe wnaeth yr holl welliannau bychain hyn naddu’n raddol wrth yr un bloc, ac er y cafodd gwelliannau eu gwneud, cymerodd cyfraith adenillion lleihaol yr awenau a thyfodd y diwydiant cyfan i fod yn nwydd (commoditize).
Erbyn hyn, mae’r byd yn newid. Mae technolegau newydd yn ymddangos ym mhobman; o weithgynhyrchu digidol i Ryngrwyd Pethau, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, dyluniad ffynhonnell agored a llwyfannau meddalwedd. Y canlyniad? Mae’r cyfyngiadau blaenorol ar weithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi’n cael eu dileu yn gyflym.
Erbyn hyn, mae gan gwmnïau ragor o opsiynau a dewisiadau o ran ble i weithgynhyrchu cynhyrchion. Mae cyflymdra a bod yn agos at y farchnad yn llawer pwysicach erbyn hyn, ac mae gan yr amgylchedd economaidd a gwleidyddol ran enfawr wrth wneud penderfyniadau. Mae symud i ffwrdd o globaleiddio tuag at ddiffyndollaeth genedlaethol (neu wladgarwch yn llygaid Donald Trump) yn cyflymu’r modd y mae cadwyni cyflenwi’n mudo. Mae’n anochel y bydd y mudo yn cyflymu yn sgîl y rhyfeloedd masnach.
Felly, beth yw hanfod y “rhyfel masnach” presennol?
Mae nifer o agweddau i ryfel masnach Trump gyda Tsieina, ond mae’r prif ffocws ar gryfder economaidd cynyddol Tsieina a’r bygythiad tybiedig i UDA yn sgîl hynny. Er enghraifft, mae menter strategol Gwnaed yn Tsieina 2025, yn cael ei hystyried, yn gywir, yn fygythiad uniongyrchol i UDA. Yn sgîl y fenter hon, byddai gallu Tsieina i weithgynhyrchu yn symud ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi i feysydd megis cynnyrch electronig a thechnoleg feddygol.
Ar yr un pryd, mae Tsieina wedi’i chyhuddo o ddarwthio ei harian cyfred swyddogol, y Renminbi, am y ddau ddegawd diwethaf mewn ymgais i greu gwarged masnachol a gollwng nwyddau rhad ar y farchnad dramor. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd o ran sut bydd gweddill y byd yn ymateb i’r rhyfel masnach hwn. Mae nifer o gwmnïau’r UE, er enghraifft, wedi bod yn anhapus ers cryn amser ynghylch sut mae gan gystadleuwyr Tsieineaidd sydd wedi’u hariannu gan y llywodraeth fantais annheg yn y marchnadoedd byd-eang yn ôl pob golwg.
Rydym hefyd yn gweld anghydfodau rheolaidd ynghylch sut mae Tsieina yn camddefnyddio technoleg dramor a’i methiant i warchod eiddo deallusol – er enghraifft, trosglwyddiadau technolegol wedi’u gorfodi, yn ogystal ag anghenion cyd-fentrau a chynnwys lleol. Felly, mae’r goblygiadau gymaint yn fwy nag ymrafael ‘pwy fydd y cyntaf i ildio’ rhwng UDA a Tsieina.
Beth hefyd fydd effaith rhyfel masnachu ar Tsieina?
Gan fod rhyfel masnachu erbyn hyn yn anochel, byddwn yn gweld cryn effaith ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Bydd cwmnïau Tsieineaidd yn dechrau goddef, yn enwedig y rhai bach, sy’n gyfrifol am gyfran sylweddol o weithgynhyrchu Tsieineaidd. Mae pedwar grŵp gweithgynhyrchu penodol yn Tsieina: cyflenwyr cydrannau ar gyfer cynnyrch a weithgynhyrchir yn Tsieina (allforion a domestig), cyflenwyr cydrannau ar gyfer cynnyrch nad ydynt yn rhai Tsieineaidd (allforion), gweithgynhyrchwyr nwyddau gorffenedig (domestig) a gweithgynhyrchwyr nwyddau gorffenedig (allforion).
Bydd ergyd drom i weithgynhyrchwyr cydrannau bach (sy’n cynhyrchu naill ai ar gyfer allforio neu nwyddau gorffenedig sy’n cael eu hallforio o Tsieina). Nhw yw’r gweithgynhyrchwyr y mae eu cynnyrch, er enghraifft, yn ein dyfeisiau electronig y byddwn yn eu defnyddio bob dydd, fel ein ffonau clyfar. Bydd yn anodd dod o hyd i ffynhonnell gyflenwi wahanol, ond dyma’r hyn y mae Trump yn ei ffafrio; symud y broses weithgynhyrchu’n ôl i UDA. Yn y tymor byr o leiaf, y defnyddiwr fydd yn dwyn baich y tariffau masnachu ym mhris y cynnyrch. Fodd bynnag, athroniaeth Trump yw y bydd prisiau’n sefydlogi yn y pen draw, wrth i weithgynhyrchu a swyddi symud yn ôl i Ogledd America.
Bydd cynhyrchwyr llai o faint yr e-fasnach Tsieineaidd a allforir yn cael eu taro hefyd wrth i dariffau ennill eu plwyf ac wrth i’r farchnad e-fasnach dyfu’n ddrutach. Bydd llywodraeth Tsieina yn cynnig help llaw yn ôl pob tebyg drwy gyfrwng cyfraddau a threthi is, ond go brin y bydd hynny’n ddigon. Bydd OEMs yn ystyried ailwerthuso eu strategaethau gweithgynhyrchu yn wyneb tariffau masnachu, a bydd lleoleiddio yn digwydd yn llawer cyflymach. Er enghraifft, dywedodd Ford yn ddiweddar y byddai’n rhoi’r gorau i allforio moduron a weithgynhyrchwyd yn Tsieina i UDA.
Bydd y rhyfel masnachu hwn yn cael effaith sylweddol ar gadwyni cyflenwi wrth i’r broses weithgynhyrchu symud o Tsieina, ac mae’n anodd gweld naill ai UDA neu Tsieina yn ildio. Mae Xi Jimping wedi datgan na fydd Tsieina’n dychwelyd i’r “Ganrif o Sarhad” a brofwyd o ddechrau’r 18fed Ganrif, ac y bydd UDA yn glynu at eu safbwynt hefyd. At ei gilydd, mae angen i weithgynhyrchwyr byd-eang feddwl o ddifrif am y lle gorau i osod eu gallu i weithgynhyrchu.
Pwy fydd ar eu hennill a phwy fydd ar eu colled?
Mae’n anodd darogan pwy fydd ar eu hennill a phwy fydd ar eu colled mewn gêm o’r fath. Fodd bynnag, naturiol fyddai tybio mai UDA fydd ar ei hennill heb os yn sgîl y strategaeth hon; er bydd nwyddau’n costio mwy i ddefnyddwyr yn y tymor byr, gallai brofi cyfnod o greu cyfoeth ar raddfa eang yn y tymor hir.
Yn rhyfedd ddigon, yng ngolwg rhai, gallai Mecsico elwa yn sgîl hyn. Gan fod rhethreg Trump ynghylch Mecsico wedi tawelu rhywfaint, mae agwedd llywodraeth UDA tuag at NAFTA wedi meddalu yn ôl pob golwg. Mae’r diwydiant moduron ac electronig wedi dod ynghyd, ac mae Mecsico wedi setlo ar dariff hirdymor o 2.5% ar gyfer masnachu moduron.
Mae gan Fecsico yr isadeiledd a’r sgiliau i gefnogi gweithgynhyrchu, yn ogystal â chyfradd lafur sy’n isel o ran costau. Bydd llawer o’r gweithgynhyrchu sy’n dychwelyd yn waith awtomataidd a digidol, felly nid yw cyfraddau llafur yn brif ystyriaeth bellach, ac mae hyn o fudd i UDA a Chanada. Serch hynny, bydd elfen o weithgynhyrchu o hyd sy’n gofyn am ddigon o lafur i fod o bwys o ran cyfanswm y costau, felly byddai Mecsico’n ddewis cadarn.
Gallai’r rhyfel masnachu gael sgil-effaith ar hyd de-ddwyrain Asia; mae posibilrwydd cryf y gallai Vietnam, Gwlad Thai, Malaysia ac Indonesia, oedd wrthi’n sefydlu isadeiledd gweithgynhyrchu fel olynwyr naturiol Tsieina, gael eu diystyru o ran cynnyrch allforio, ac mae’n ddigon posibl y gallai Mecsico fod ar ei hennill am fod ganddi isadeiledd mwy sefydledig, ac o ystyried pa mor agos yw hi i’r farchnad. Fodd bynnag, bydd ychydig o weithgynhyrchu yn parhau i symud i dde-ddwyrain Asia yn sicr.
Byddwn hefyd yn gweld effaith ar economïau eraill, yn enwedig mewn marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg. Mae Twrci a’r Ariannin ill dau wedi sôn y byddant yn dioddef ac yn cynyddu cyfraddau llog yn sgîl rhyfel masnachu, a bydd y gwymp sylweddol o dros 20% a welsom yn 2017 mewn Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor yn taro marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag economïau cryf.
Fodd bynnag, mae’n anodd gweld heibio i Tsiena fel y wlad fydd ar ei cholled fwyaf yn y sefyllfa hon. Bydd y farchnad ddomestig yn sicr yn helpu i raddau, ond go brin y bydd hynny’n ddigon. Bydd Tsieina’n ddiamheuol yn chwilio am ffrindiau yn yr economi fyd-eang, ac mae gan ei menter “Un Belt, Un Heol” y potensial i weld cysylltiadau agosach â’r Dwyrain Canol a’r Gwladwriaethau Sofietaidd blaenorol. Mae hi hyd yn oed yn meithrin perthnasoedd cryfach gyda Rwsia a Putin, fel i ni weld yn ddiweddar gyda’u hymdrechion milwrol ar y cyd. Does neb yn gwybod mewn gwirionedd sut bydd hyn i gyd yn datblygu, gan fod sawl amrywiad, ego a strategaeth wleidyddol ar waith.
Sut ydych chi’n gweld hyn yn effeithio ar wleidyddiaeth UDA?
Beth bynnag y dywed unrhyw un am Trump, gall hawlio buddugoliaeth yn sgîl y polisi hwn. Yn syml, mae wedi neidio ar gefn yr hyn oedd yn anochel; roedd proses o symud i ffwrdd o Tsieina ar droed beth bynnag. Mae Democratiaid lefel uchel hefyd yn cefnogi tariffau masnachu fel dull o adleoli a dychwelyd y broses gynhyrchu. Yn syml, roedd yr anghydbwysedd rhwng y gadwyn gyflenwi a’r galw gan ddefnyddwyr (mae siopwyr e-fasnach yn disgwyl cael eu cynnyrch ar unwaith) yn golygu nad oedd gweithgynhyrchwyr yn gallu cadw i fyny; roedd stocrestrau’n cynyddu a gyda’r cynnydd technolegol mewn gweithgynhyrchu, roedd cynhyrchu ar lefel leol, a dychwelyd prosesau i’r wlad eisoes yn mynd rhagddynt. Dim ond cyflymu ffenomenon sy’n bodoli eisoes fydd codi tariffau masnachu i’r graddau yr ydym yn eu gweld.
Y cwestiwn mawr, felly; beth fydd tynged cadwyni cyflenwi byd-eang?
Mae’r gadwyn gyflenwi estynedig, cymryd-gwneud-gwaredu sydd wedi bod yn brif fodel dros y degawdau diwethaf, o dan fygythiad. Ni fydd y cyfan yn newid dros nos, ond rydym yn sicr yn profi’r newid ar hyn o bryd. Mae cadwyni cyflenwi yn troi’n rhai lleol; fel y soniwyd yn gynharach, gostyngodd FDI yn sylweddol yn 2017, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, ac mae hynny’n arwyddocaol o’r ffaith fod globaleiddio’n arafu.
Mae cynnydd technolegol yn yr oes ddigidol yn helpu’r broses weithgynhyrchu i ymgynnull, ac amser i’r farchnad sy’n tyfu i fod yr elfen allweddol yng nghylch bywyd cynnyrch. Bydd llawer o gwmnïau eisoes yn ailystyried eu strategaethau gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi, a bydd y rhyfel masnachu’n yn pwysleisio hynny. Mae gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol wedi bod wrthi’n allanoli’r broses weithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi ers tro byd, felly bydd angen help arnynt i ailddylunio strategaethau newydd, a’u rhoi ar waith ar gyfer y naill a’r llall.
Gall adleoli adnoddau cynhyrchu mawr fod yn gostus, ond bydd technegau gweithgynhyrchu newydd yn help drwy ddiddymu hen ddulliau cynhyrchu. Yr hyn y byddwn yn ei weld yw twf yr adnodd aml-ddisgybledig, aml-ddefnydd. Micro-ffatrïoedd wedi’u cyfuno â dosbarthiad gerllaw mannau cyflenwi. Wrth ystyried natur e-fasnach a’r disgwyl sy’n cyd-fynd ag ef, mae symud gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi mor agos â phosibl at ddefnyddwyr yn gwneud cymaint o synnwyr. Mae’r broses o ddylunio cynnyrch yn datblygu i fod yn fwy modylaidd at ddibenion cydosod yn gyflym, ac ailddefnyddio, sy’n annog lleoleiddio. Ar ben hynny, bydd cyflenwyr newydd yn manteisio ar greu adnoddau er mwyn gwasanaethu’r gweithgynhyrchu sydd wedi dychwelyd. Bydd defnyddio ffynonellau lleol yn cael effaith bellach ar y cadwyni cyflenwi a welsom yn y gorffennol.
Y rhai fydd fwyaf ar ei hennill yn hyn i gyd fydd y sefydliadau a allai helpu i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen yn sgîl symud gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi. O wasanaethau cynghori sy’n helpu i ailddylunio gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi wedi’u dosbarthu, i wasanaethau digidol newydd a modelau dosbarthu hyblyg gerllaw mannau cyflenwi; y rhain yw’r cymwyseddau creiddiol sydd eu hangen er mwyn addasu i’r byd newydd. Dim ond symbol yw Mr Trump mewn gêm fyd-eang llawer mwy o faint. Dylem oll baratoi ar gyfer newid radical.