Cynrychiolwyr o Tsieina yn ymweld â’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
5 Tachwedd 2018Mae Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd wedi croesawu swyddogion o Lywodraeth Drefol Chongqing yn ne-orllewin Tsieina.
Daeth y grŵp o ddeg cynrychiolydd i ymweld â’r Brifysgol er mwyn dysgu mwy am y cyfleoedd busnes y mae Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru yn eu cynnig.
Llywodraeth Cymru a gynhaliodd yr ymweliad a ddaeth â Chyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Peter Smowton, ac Is-Faer Gweithredol Chongqing, Wu Cunrong, ynghyd i drafod syniadau.
Ymysg y cynrychiolwyr oedd llunwyr polisi allweddol fydd yn llywio datblygiad economi Chongqing yn y dyfodol, gan gynnwys arbenigwyr economeg ac ariannu.
“Rhoddodd yr ymweliad gyfle euraidd i ddangos prif gryfderau Cymru ac amlygu’r hyn yr hoffai Cymru ei wneud gyda Chongqing o ran cysylltu’n economaidd a chydweithio’n bellach,” meddai Charlotte Fundalski, Swyddog Ymweliadau a Phrotocol Rhyngwladol yn Swyddfa Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Cabinet.
Mewn darlith fer, amlinellodd yr Athro Smowton y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau sy’n gweithio gyda’r Sefydliad a CS Connected – sef y clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ehangach.
Esboniodd yr Athro Smowton sut mae’r Sefydliad yn ymrwymo i newid y meddylfryd academaidd i ganolbwyntio ar ymchwil y gellir ei gweithgynhyrchu. Mae’r Sefydliad yn pontio rhwng y labordy ymchwil a’r byd masnachol ar gyfer un o dechnolegau mwyaf defnyddiol y byd.
“Rydym yn gwneud hyn drwy ddod â byd diwydiant a’r byd academaidd agosach at ei gilydd,” meddai’r Athro Smowton. “Mae ymchwilwyr a staff y diwydiant wedi eu cyd-leoli yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Rydym yn cynnig gwasanaethau diwydiannol ar sail fasnachol, gyda chefnogaeth Fabrication Engineers.
“Mae hon yn Gyfleuster Mynediad Agored y telir i’w ddefnyddio. Rydym yn gweithio gydag academyddion a byd diwydiant er mwyn hybu mentrau bach o Lefel Parodrwydd Technoleg 1 i fentrau sy’n cynhyrchu ar raddfa fach. Y cwsmeriaid sy’n penderfynu.”
Yn y pen draw, bydd gan y Sefydliad gyfarpar 4”, 6” ac 8” (graddfa ddiwydiannol) a’r offer cysylltiedig. Bydd staff medrus gyda phrofiad diwydiannol yn gweithredu’r rhain.
Esboniodd sut mae gweithio gyda’r Sefydliad yn helpu mentrau i ddatblygu technegau gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Silicon (Si) integredig, lleihau costau a chynyddu cyfaint drwy ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu o Silicon i Led-ddargludyddion Cyfansawdd, fel ymarferoldeb ac uwchraddio.
“Roedd yn gyfle gwych i amlygu ein gwaith a’r cynllun i gyflwyno Cyfleuster Ymchwil Drosiadol ar Gampws Arloesedd Caerdydd, lle byddwn yn gallu datblygu, profi a rhagbrofi teclynnau fydd yn sbarduno technolegau yn yr 21ain ganrif.”
“Yn y pen draw, rydym eisiau i’r Sefydliad fod yn gyfleuster i gynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd cynaliadwy, lle mae ymchwil a byd diwydiant yn cydweithio’n agos gyda pheirianwyr proses medrus, a hynny yng nghalon y pumed clwstwr yn Ewrop ar gyfer lled-ddargludyddion – ond y cyntaf yn y byd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.”