Symposiwm Coffa Peter Williams
17 Hydref 2018Mae pob un ohonom wedi ein cyffroi o glywed y newyddion fod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar gyfer adeilad newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Mae sawl aelod o’r tîm yn gysylltiedig â chau pen y mwdwl ynghylch dyluniad y labordai, y swyddfeydd a’r ddarlithfa. Ond wrth i ni aros i’r cyfleusterau newydd gyrraedd, mae gweithgarwch y Sefydliad yn parhau.
Yr wythnos hon, trefnwyd symposiwm wedi’i noddi ar y cyd gan Johnson Matthey a’r Sefydliad ar 3 Hydref i gofio Dr Peter Williams fu farw yn 2012.
Roedd Peter yn ymwneud â chatalysis o’i gyfnod yn dechrau fel gwyddonydd arwyneb yng Nghaerdydd, hyd at ei rôl yn rheolwr gweithgynhyrchu diwydiannol o gatalyddion masnachol gyda Johnson Matthey.
I anrhydeddu cysylltiadau Peter gyda Chaerdydd, a’i gymhelliant a’i angerdd dros y diwydiant, mae Johnson Matthey, yn garedig iawn, yn ariannu bwrsariaethau teithio bob blwyddyn i fyfyrwyr PhD Caerdydd fynd i gynhadledd o’u dewis.
Dyfarnwyd y wobr i ddau unigolyn eleni, Nia Richards a Susana Guadix Montero, myfyrwyr PhD yn eu blwyddyn olaf, a chafwyd cyflwyniadau gan y ddwy yn y symposiwm.
Defnyddiodd Nia Richards ei bwrsariaeth i fynd i TOCT8 (Cynhadledd Tokyo ar Wyddoniaeth a Thechnoleg Gatalytig Uwch) yn Japan ym mis Awst. Cyflwynodd ei gwaith ar natur yr haearn mewn catalyddion Fe-ZSM-5 a sut mae hyn yn effeithio ar weithgarwch dadelfeniad N2O – nwy tŷ gwydr hynod bwysig.
Defnyddiodd Susana ei bwrsariaeth i fynd i EuCheMS (Cyngres Gemegol Cymdeithas Gemeg Ewropeaidd yn Lerpwl) a rhoddodd gyflwyniad hyfryd ar holltiad catalytig o gysylltiadau C-C Rhyng-unedol mewn cyfansoddion Model Lignin – llwybr posibl i ddefnyddio biomas ar gyfer porthiant tanwydd a chemegau.
Ymunodd yr Athro Phil Davies o Gaerdydd gyda Nia a Susana wrth gyflwyno. Bu’n astudio gyda Peter yng Nghaerdydd yn ystod ei PhD a siaradodd am frwdfrydedd Peter dros wyddoniaeth ac ymchwil.
Cyfeiriodd hefyd at y thema o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gyda “Chau’r Cylch Clorin”.
Traddodwyd darlith Johnson Matthey gan yr Athro Monica Garcia a gyflwynodd Ymchwil a Datblygu yn JM, gyda sylw penodol ar gatalyddion synthesis methanol sydd wedi bod yn datblygu dros ddegawdau.
Un o nodweddion arbennig y symposiwm coffa oedd cyflwyniad gan yr Athro Keith Whiston o Invista a enillodd Wobr Diwydiant CCI 2017.
Mae wastad wedi bod cysylltiad cryf rhwng y Sefydliad a diwydiant; rhywbeth y bydd yr adeilad TRF yn ei hwyluso trwy gynnig cyfleusterau i ymgymryd ag ymchwil sy’n agosach o lawer at amodau diwydiannol.
Roedd sgwrs Keith yn adolygiad diddorol o ba mor wahanol yw catalysis diwydiannol i’r hyn sy’n digwydd yn y labordy. Bu hefyd yn gosod yr “Heriau a Chyfleoedd Mawr mewn Catalysis Betrogemegol” a rhoddodd amlinelliad o ymchwil y dyfodol.
Roedd yn brynhawn gwych gyda sgyrsiau o feysydd ymchwil gwahanol a chipolwg rhyfeddol ar etifeddiaeth Peter fel ymchwilydd, mentor, arweinydd a ffrind.