Skip to main content

Adeiladau'r campws

Cyd-greu newidiadau sy’n cael effaith yn y byd go iawn

3 Ebrill 2025

Er mwyn i ymchwil academaidd sicrhau newid cadarnhaol, mae’n rhaid i atebion gael eu creu ar y cyd â defnyddwyr ymchwil er mwyn adlewyrchu safbwyntiau a blaenoriaethau amrywiol.Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n buddsoddi mewn prosiectau sy’n meithrin cydweithio agos ag ystod eang o ddefnyddwyr. Rydyn ni’n defnyddio cyllid cyflym a hyblyg i gymhwyso ein hymchwil a chydweithio â phartneriaid allanol mewn ffyrdd amrywiol ac arloesol.

Mae Cyfrifon Cyflymu Effaith Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn ffynhonnell gyllido graidd ar gyfer y gweithgareddau hyn, sy’n ein galluogi i gyd-greu atebion ar gyfer heriau’r oes.

Cyflymu effaith

Dyfarniadau strategol yw Cyfrifon Cyflymu Effaith UKRI. Eu nod yw gwella effaith ymchwil. Maen nhw’n cynnig cyllid i sefydliadau ymchwil ac yn eu galluogi i ddefnyddio’r cyllid yn greadigol ar gyfer gweithgareddau amrywiol a all wella manteision cymdeithasol ac economaidd eu hymchwil i’r eithaf.

Y sefydliad ymchwil sy’n gyfrifol am reoli ei Gyfrifon Cyflymu Effaith er mwyn cynllunio a chynnal gweithgareddau sy’n cyd-fynd â strategaethau a chyfleoedd y sefydliad, gyda’r nod o ychwanegu gwerth at gyllid presennol a manteisio ar gyfleoedd newydd neu annisgwyl i gael effaith.

Ers 2015, mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith sawl gwaith, gan arwain at y canlynol:

  • Dros 450 o brosiectau effaith
  • Dros 500 o bartneriaethau â phartneriaid a chymunedau anacademaidd
  • 40 o astudiaethau achos ar gyfer REF 2021

Yn rhan o’r cylch dyfarnu Cyfrifon Cyflymu Effaith diweddaraf, roedd Prifysgol Caerdydd ymhlith pum prifysgol yn unig yn y DU i sicrhau pob un o’r pum Cyfrif Cyflymu Effaith i’w hychwanegu at y Cyfrif Cyflymu Effaith sydd ganddi ar hyn o bryd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae ein Cyfrifon Cyflymu Effaith gwerth £6.2 miliwn yn cwmpasu cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).

Gwnaeth Prifysgol Caerdydd gysoni’r gwaith o ddyrannu’r cyllid, gan wneud hynny fesul tri cham. Roedd y ddau gam cyntaf yn rhedeg galwadau agored am gyllid. Roedd y gronfa Cychwynnydd yn cynnig arian cychwynnol i ddechrau prosiectau newydd ar y cyd, ac roedd y gronfa Cyflymydd yn cynnig arian ychwanegol i wella partneriaethau presennol a gwella canlyniadau prosiectau. Cafodd cyllid ei ddyrannu hefyd ar gyfer cyfleoedd i hyfforddi, digwyddiadau a gwaith i gefnogi partneriaethau.

Mae’r trydydd cam ar cam olaf yn cymryd dull mwy amrywiol, gan gynnig cynlluniau syn canolbwyntio ar leoliadau/secondiadau, mentrau strategol dan arweiniad ysgolion ac ehangu hen brosiectau IAA.

Y Gronfa Effaith Strategol

Mae Cronfa Effaith Strategol (SIF) Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) yn elfen graidd o’r trydydd cam ariannu hwn. Diben y gronfa hon yw cefnogi arloesi strategol, gan gynnig arian i gyflawni gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol o safon, a’n galluogi i ddefnyddio ein cryfderau ymchwil i ymateb i flaenoriaethau a chyfleoedd strategol allanol.

Yn sgil galwad am geisiadau ddiwedd 2024, mae £520,000 eisoes wedi’i ddyrannu i 45 prosiect ar y cyd â phartneriaid allanol. Mae’r prosiectau hyn yn cwmpasu nifer fawr o ddisgyblaethau, diwydiannau a sectorau academaidd, gan gynnwys archaeoleg, technoleg feddygol, addysg, data a deallusrwydd artiffisial, treftadaeth, amgylcheddau cynaliadwy, ffilm a darlledu, gweithgynhyrchu dur, cadwraeth, electrocemeg a’r biowyddorau.

Bydd y prosiectau tymor byr hyn, sydd i fod i gael eu cwblhau erbyn Medi 2025, yn gwella ein gallu i barhau i weithio ar y cyd â phartneriaid ar lefel strategol.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:

“Mae’r cynllun SIF wedi cynnig cyfle eithriadol i gymunedau arloesi ein Hysgolion hyrwyddo prosiectau strategol mewn ystod o feysydd a disgyblaethau ymysg rhwydweithiau eang o bartneriaid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld deilliannau prosiectau o’r fath, sy’n dyst i arloesedd a chreadigrwydd ein cydweithwyr”.

Cyfleoedd Cyfrif Cyflymu Effaith eraill

Elfen arall o’r trydydd cam ariannu yw Cronfa Ddilynol y Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA). Mae’r alwad am geisiadau wedi dod i ben a bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2025. Yr elfen olaf ywr Cynllun Cyfnewid Gwybodaeth, Lleoliadau a Secondiadau syn cefnogi lleoliadau syn dod i mewn neu allan gyda phartneriaid trosi. Mae’r cynllun hwn bellach ar agor i brosiectau BBSRC, EPSRC ac MRC yn unig. Rhagor o wybodaeth: Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni – Gweithio gyda ni – Prifysgol Caerdydd.

Ar 20 Mai, bydd y Cyfrif Cyflymu Effaith yn cynnal Arddangosfa Dengmlwyddiant i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith effaith eithriadol y mae’r IAA wedi’i gefnogi ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt. Gwahoddir unigolion hefyd i wneud cais neu enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau Effaith IAA. Dyma gyfle i gydnabod a gwobrwyo ymchwilwyr a thimau sydd wedi cael cefnogaeth gan arian Cyfrifon Cyflymu Effaith Ymchwil ac Arloesedd y DU Prifysgol Caerdydd i greu neu alluogi effaith eithriadol. Rhagor o wybodaeth, a sut i gofrestru: Digwyddiad Arddangos Penblwydd Deng Mlynedd IAA

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r cyfleoedd IAA hyn, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol drwy e-bostio impact-engagement@caerdydd.ac.uk.