Skip to main content

International Exchange

Québec: Teithio a Chludiant

17 May 2017

Bonjour o Québec,

C’est Elin! Blog mis Mawrth oedd hwn i fod ond rhaid imi gyfaddef, yr oedd mis Mawrth yn brysur iawn imi, a’r rheswm pennaf am hynny oedd oherwydd imi DEITHIO llawer! Felly maddeuwch imi, teitl y blog sydd wedi achosi imi fod yn hwyr yn ei ysgrifennu.

Dyma’r ffyrdd yr ydym ni’n teithio yn Québec :

  • Co-voiturage : os nad oes gennych chi gar, mi allwch ddefnyddio grwpiau Facebook/Amigo Express i ddod o hyn i lift. Nid yw fel arfer yn ddrud, a heb gar dyma’r unig ffordd rad o deithio.
  • Hedfan : y mae pellter yn rhywbeth y mae’n rhaid delio ag o yng Nghanada, y mae dinasoedd ac ardaloedd yn bell o’i gilydd. Y mae Toronto, er enghraifft , 10 awr i ffwrdd o Québec City. Felly y mae modd hedfan, ond mae hyn yn ddrud. Y mae modd hedfan adref yn rhatach na hedfan o ddinas i ddinas yma weithiau!
  • Bysys Cyhoeddus : ni ellir ond eu cael mewn dinasoedd fel Montréal lle y mae modd hefyd dal y metro.
  • Trên : Y mae dal trên yn bosibl. Fodd bynnag, ni ellir ond ei ddefnyddio i fynd o ddinas i ddinas. Yn debyg i Gymru, os nad ydych chi’n archebu tocyn wythnosau o flaen llaw, y mae’r pris yn rhy ddrud.
  • Taxi-Bws : Cyfuniad o fws a taxi y gellir ei ddarganfod mewn trefi. Y syniad yw eich bod yn galw’r gwasanaeth er mwyn archebu taxi, ond y mae’n rhatach oherwydd eich bod yn rhannu’r taxi ag eraill. Felly, er ei fod yn gyfleus, y mae hefyd yn niwsans gan fod rhaid mynd o amgylch y byd cyn cyrraedd pen eich taith.

 

….Felly, pam oeddwn i ‘n hwyr yn ‘sgwennu’r blog?  Wel, ym mis Ionawr mi wnes i brynu car oherwydd wedi darllen yr uchod, gallwch dybio bod bywyd reit anodd heb gar. Wedi edrych ar sawl gar, ffonio amryw arejis a bron a rhoi’r ffidl yn y to, mi ddes i o hyd i’m Honda Civic coch. Dyma rai o hanesion anturiaethau’r car bach :

  • `faire de la raquette’: Gyrru i Mont-Mégantic  er mwyn ‘faire de la raquette’ i gyrraedd copa’r mynydd. Yn anffodus, oherwydd yr eira a’r ffaith ei bod hi’n -25, doedd fawr ddim golygfa.
Mont-Mégantic
Mont-Mégantic
  • UDA : Mae fy nhref i 30 munud i ffwrdd o’r UDA, felly un prynhawn pan oeddwn i a’m ffrind yn gwneud fawr ddim mi benderfynasom ni i neidio yn y car a chroesi i Maine : anhygoel!

 

 

  • Parciau Cenedlaethol a Sgïo : edrychwch ar Parc national de la Jacques-Cartier, un o’m hoff lefydd yn y byd.
Parc national de la Jacques-Cartier
Parc national de la Jacques-Cartier
  • Rhyddid : gallu gyrru i unrhyw le fel y mynnoch, mynd i siopa bwyd ayyb heb i’r holl beth droi yn strach.

 

 

  • Pasg: Mi dreuliais i’r Pasg mewn chalet ar lan llyn heb fod yn bell o’r man sgïo enwog, Mont-Tremblant.

 

  • YR EIRA : un noson mi yrrais adref o Québec City i Saint-Georges pan oedd hi ‘n bwrw eira rhyw fymryn. Ond, wedi rhyw hanner awr o ddreifio, roedd yr eira ar y briffordd yn rhy drwchus a gorfodwyd imi stopio. Mi ges i fy nychryn i’r byd y noson honno gan fy mod i yn y car ar ben fy hun, a phan wnes i gymryd ‘sortie’ oddi ar y briffordd, yr oeddwn i bron methu dreifio’r car drwy’r eira. O’r holl brofiadau dwi wedi eu cael yma, y noson honno yw’r gwaethaf!

 

  • TRIP MIS MAWRTH : Mi fyddai’n cael rhyw syniadau weithiau, a dyma’r syniad mwyaf CRAZY dwi wedi ei gael ers bod yma. Yn wir, mor wirion nes fy mod yn cael fy adnabod yn fy ysgol fel Elin-trip-mis-Mawrth. Felly, ai ati i egluro. Yng nghanol mis Mawrth, mi gawsom ni semaine de rêlache fel rhyw hanner tymor. Wedi gorffen gwaith ar y nos Wener, mi wnes i a dau o’m ffrindiau neidio i mewn i’m car, ac off a ni. Ond i ble meddwch chi? Mi wnaethon ni yrru o Saint-Goerges i fyny i Québec; dal i yrru heibio Rivière-du-Loup a chroesi i New Brunswick; Nova Scotia; dal cwch o Nova Scotia a chroesi i Newfoundland; cyn gyrru ar hyn yr ynys i gyrraedd St. John’s; cyn gwneud yr un daith holl ffordd adref. 4,768km  a 10 diwrnod yn ddiweddarach, sawl stop yn Tim Hortons ac mi wnaethon ni ei gwneud hi yn ôl adref just cyn dechrau gwaith ar y dydd Mawrth wedyn. Wrth gwrs, mi wnaethon ni fynd dow dow a stopio mewn gwahanol ardaloedd er mwyn gweld mwy o’r provinces maitimes a threulio tridiau yn St. John’s.  Yn wir, yn St. John’s mi aethon ni i Cape Spear, y pwynt mwyaf dwyreiniol yng Ngogledd America.
y daith...
y daith…
  • OND BOBL, yr oedden ni dau ddiwrnod yn ychwanegol yn Newfoundland, oherwydd mi gawson ni storm eira yno, y storm waethaf ers 40 blynedd. Yr oedden ni’n gaeth mewn rhyw bentref bach yng nghanol yr ynys gan y gorfodwyd inni stopio oherwydd yr holl eira. Ond, yn ychwanegol at yr eira, cawson ni wyntoedd hyd at 180km yr awr, felly nid oedd ein cwch yn hwylio. Mi dreuliasom ni oriau yn Tim Hortons (fel McDonalds) yn dechrau drysu. Yn wir, nid oedd modd mynd ar yr autoroute gan fod gymaint o eira. Mi gyrhaeddon ni Nova Scotia ar y bore Llun, a gorfodwyd inni ddreifio 15 awr er mwyn cyrraedd adref cyn gwaith ddydd Mawrth. Trip bythgofiadwy!

 

Felly dyma ddiwedd y blog, ac mi wnâi eich gadael chi gydag un cyngor : Os ewch chi byth i Québec,  prynwch gar ond peidiwch byth a mentro allan mewn eira yng nghanol gaeaf!

 

Dyma rhai o ddywediadau québécois y defnyddiais yn ystod halibalŵ ein trip mis Mawrth :

  • Ben Voyons Donc!: What the heck?
  • C’est le fun : Mae hynny yn hwyl/da
  • Il fait frette : Mae hi’n freezing!

 Dwi’n caru’r iaith yma yn Québec. Os fynnwch gopi, yr wyf i a’m disgyblion wedi creu llyfr gyda llawer iawn o ddywediadau québécois wedi eu hegluro yn Saesneg!