Skip to main content

International Exchange

Québec: Diwrnodau Cenedlaethol

18 May 2017

Bonjour eto,

Y thema y tro hwn : diwrnodau cenedlaethol.  Rhaid egluro rhywbeth cyn mynd ati i sôn am y thema hon. Y mae Québec yn wahanol iawn i weddill Canada. Yn gyntaf, Ffrangeg yw iaith y dalaith. Yn ail, y mae eu hanes yn wahanol i weddill Canada sy’n golygu pan geir diwrnodau cenedlaethol, anaml iawn y mae Québec yn eu dathlu: fe’u gwelant yn unig fel diwrnodau ychwanegol o wyliau. Dyma’r diwrnodau cenedlaethol:

 

  • Action de grâce: Penwythnos diolchgarwch sydd eithaf pwysig yng ngweddill Canada, ond nid yw fawr ddim yma ond diwrnod ychwanegol o wyliau.

 

  • Halloween: er nad yw’n wyliau y mae pobl yma yn ei ddathlu. Bydd pobl yn gosod addurniadau Halloween am wythnosau cyn y diwrnod; yr oeddwn i wedi cael llond bol erbyn y diwedd.

 

  • Noël: Y meant yn hoff iawn o Nadolig yn Québec. Bydd pobl yn gosod addurniadau yn syth wedi Halloween. Yn wir, yr oedd gan bobl dal goed Nadolig yn eu tai tan ddiwedd mis Mawrth! Dros gyfnod y Nadolig, ni fydd ysgol a bydd pawb yn mynd adref i weld eu teuluoedd.

 

  • Jour de l’an: Tebyg iawn i’r hyn a gawn ni adref. Yn y dinasoedd y mae tân gwyllt ayyb. Dyma ichi gân y bydd pobl yn ei ganu yn Québec i ddathlu’r flwyddyn newydd. Un o’m hoff ganeuon yma! https://www.youtube.com/watch?v=qMc-6MVEHF8

 

  • Journée nationale des patriotes : Mai 25. Yn ddiddorol fe gafodd teitl y dathliad hwn ei newid yn 2003. Yn awr, ar y diwrnod hwn y mae Québec yn dathlu ei hunaniaeth. Cyn hynny, yr oedd y diwrnod hwn yn dathlu pen-blwydd y Frenhines Victoria fel y digwydda hyd heddiw yng ngweddill Canada.

 

  • Fete Nationale/Diwrnod Saint-Jean Baptise: Dyma ddiwrnod cenedlaethol Québec, Mehefin 24. Yn ôl y sôn, y mae llawer iawn o ddathlu yn ystod y diwrnod hwn, dyma wyliau mwyaf arwyddocaol Québec.

 

  • Fête du Canada: Gorffennaf 1. Y mae’r diwrnod hwn y dathlu creu cyfansoddiad Canada. Yn wir, y flwyddyn hon, y maent yn dathlu 150, ac felly y mae llawer o ddathlu wedi bod yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, yn Québec, nid oes fawr neb yn gweld hyn fel rhywbeth o bwys mawr.

 

Ar wahân i’r gwyliau cenedlaethol, nid yw’r ysgol yn cau am hanner tymor yn ystod yr Hydref. At hynny, pedwar diwrnod yn unig a geir yn ystod Pasg, nid bythefnos. Fodd bynnag, fe geir bron i ddeufis o wyliau ysgol yn ystod yr haf. Yn ddiddorol, fe geir Journées Pédagogiques (diwrnod hyfforddiant i athrawon) bron dwywaith bob mis, lwcus iawn!

Llawer o wyliau felly, er nad yw pawb bob tro yn dathlu…

Mae hunaniaeth yn Québec o ganlyniad yn rhywbeth eithaf cymhleth; hunaniaeth go wahanol i weddill Canada.  Yn wir, rhywbeth sydd wedi gwneud imi gwestiynu fy hunaniaeth fy hun fel Cymraes o Ogledd Cymru…

 download

Ambell ddywediad québécois:

  • Là-là: Right now
  • Drette là: Right there
  • Être fru: Blin

Dwi’n caru’r iaith yma yn Québec. Os fynnwch gopi, yr wyf i a’m disgyblion wedi creu llyfr gyda llawer iawn o ddywediadau québécois wedi eu hegluro yn Saesneg!