Skip to main content

International Exchange

Québec, am y tro olaf…

19 May 2017

Salut,

Dyma fy mlog olaf wrth imi ddod i ddiwedd fy nghyfnod fel monitrice d’anglais yn Polyvalente Saint-François, Beauceville (Québec). Fodd bynnag, mi fyddaf yn aros yma dros yr haf er mwyn teithio a pharhau i ymarfer fy Ffrangeg. Dwi’n caru Québec a dydw i ddim eisiau gadael!

Felly, cyn imi eich gadael chi, dyma grynodeb o bwysigrwydd fy mlwyddyn dramor yn bersonol ac i’m dyfodol…

 

Cynlluniau Gyrfa :

Fe ddes i yma i Québec er mwyn cymharu sefyllfa’r Ffrangeg fel iaith leiafrifol yng Nghanada gyda’r Gymraeg. Wedi treulio 9 mis fel monitrice mewn ysgol uwchradd Ffrangeg, yr wyf i wedi cael y cyfle i wneud y gymhariaeth hon. Yn ogystal â hyn, yn ystod y flwyddyn gorfodwyd imi ysgrifennu dau draethawd i’r Adran Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn trafod materion ieithyddol yn Québec. O ganlyniad, nid oes amheuaeth yr hoffwn i barhau gyda’m hymchwil ieithyddol gan ganolbwyntio ar strategaethau amddiffyn ieithoedd lleiafrifol. Fodd bynnag, y mae gen i syniad bach newydd am yrfa rŵan… Cyn dod i Québec, nid oeddwn i eisiau bod yn athrawes o gwbl. Ond, y mae bod yn monitrice d’anglais wedi gwneud imi sylweddoli fy mod i wrth fy modd yn cynnal gweithgareddau a bod yn ôl mewn ysgol….Cawn weld… y mae’n rhaid imi orffen fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol cyn gwneud dim!

 

Sgiliau :

Wrth gwrs, y sgil pennaf yr wyf wedi ei fagu yma yw’r ffaith fy mod i rŵan bron yn rhugl yn siarad Ffrangeg Québec, sydd wirioneddol yn wahanol i Ffrangeg Ffrainc.

Ond, y mae fy mlwyddyn dramor wedi bod o werth llawer mwy imi na gwella fy sgiliau ieithyddol yn unig. Yn wir, y sgil pwysicaf imi ei fagu ers bod yma yw delio â phethau yn annibynnol a hynny mewn iaith arall. Efallai nad yw talu taxes, prynu car, mynd a’r car i’r garej, mynd i weld doctor, gorfod mynd i’r ysbyty (mi gefais ear infection), prynu insurance, gyrru mewn tywydd ofnadwy ayyb ddim yn frawychus pan yr ydych adref gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Ond coeliwch chi fi, y mae’n dipyn o her ar eich pen eich hun mewn gwlad tramor…mewn iaith arall!

Sgil arall yr wyf i wirioneddol yn ei werthfawrogi rŵan yw fy ngallu i gymdeithasu. Yn wir, yr oeddwn i’n gallu cymdeithasu yn weddol cynt. Ond, y flwyddyn hon yr wyf i wedi dysgu sut i siarad mewn sefyllfa broffesiynol gyda’m cyd-weithwyr, gyda’m disgyblion a chyda bobl o bob oed yr wyf i wedi eu cyfarfod. Yn fwy nag unrhyw sgil arall, yr wyf i wirioneddol yn gwerthfawrogi fy hyder rŵan i allu siarad heb banicio. Ydw, dwi dal yn gwneud camgymeriadau pan siaradaf Ffrangeg, ond rŵan does dim ots gen i os wyf i’n gwneud camgymeriad neu’n gorfod defnyddio gair Saesneg achos mae gen i’r hyder i gario ‘mlaen! Dyna’r wers bennaf gyfeillion, peidiwch â rhoi’r ffidl yn y to, a fo ben bid bont!

 

Cyflogadwyedd: 

Heb amheuaeth, y mae’r flwyddyn hon wedi fy help i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, academaidd a chyflogadwyedd. Credaf y bydd dod adref wedi treulio blwyddyn yng Nghanada o werth mawr imi wrth ymgeisio am swyddi. Y mae hynny yn bennaf oherwydd fy ngallu yn awr i siarad tair iaith wrth ddelio â phethau yn annibynnol.

Os cewch chi gyfle i ddod i Québec, dowch, mi newidia eich persbectif ar lawer o bethau. Ond yn bwysicach, os cewch chi’r cyfle i fynd ar flwyddyn dramor, EWCH…cette expérience a changé ma vie!

St. John's, Newfoundland
St. John’s, Newfoundland

 

Ychydig mwy o ddywediadau québécois am y tro olaf :

  • C’est capoté: Mae’n amazing/ Mae’n afiach
  • Tsé: You know!
  • C’est tu correct?: Ydy hyn yn ok?

 

Dwi’n caru’r iaith yma yn Québec. Os fynnwch gopi, yr wyf i a’m disgyblion wedi creu llyfr gyda llawer iawn o ddywediadau québécois wedi eu hegluro yn Saesneg!

 

Salut, bye,

Elin