Skip to main content

ffrwdPost gwadd

Cadw Teuluoedd gyda’i gilydd: Walk With Me UK

20 Tachwedd 2024
Post gwadd gan Angelique sylfaenydd WalkwithMeUK CIC

Gwybodaeth am WalkwithMeUK

Gwasanaeth cymorth ac arweiniad arobryn yw WalkwithMeUK, sy’n anfeirniadol ac yn newid bywydau / achub bywydau. Yn y bôn, mae’n rhoi’r strategaethau a’r adnoddau gydol oes y mae eu hangen ar rieni, gofalwyr, a gwarcheidwaid i reoli’n ymarferol yr heriau sy’n eu hwynebu megis ymddygiad treisgar, ymddygiad ymosodol a llu o ymddygiadau eraill a welir yn aml ymhlith Plant a Phobl Ifanc (2 oed a hŷn), a hynny gan ddefnyddio’r dull Gwrthsefyll Di-Drais (NVR).

Themâu Cyffredin

Yn aml, mae pob un o’r uchod yn gysylltiedig â cham-drin rhieni gan blant, plant ag anhwylderau niwrowahanol e.e. ADHD, awtistiaeth, cael eu gwahardd o’r ysgol neu brofi unigedd yn yr ysgol, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau, camfanteisio’n droseddol ar blant a llawer mwy.

Canlyniadau

Wrth ddefnyddio’r dull NVR, rydych chi’n Lleihau Gwrthdaro, yn Adfer Cariad, Empathi a Pharch, ac yn cadw teuluoedd gyda’i gilydd – sydd yn ei dro yn galluogi ffordd o fyw/amgylchedd llai gwenwynig a mwy cytûn ac iach i fyw ynddo er mwyn torri’r cylch, at ddiben creu newid cadarnhaol cynaliadwy ac i gyfathrebu’n fwy effeithiol/cadarnhaol â gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr.

Gwasanaethau

Mae WalkwithMeUK CIC yn cynnig sesiynau grŵp, gweithdai rhoi gwybodaeth, eiriolaeth, cymorth 1:1, ymateb brys a chyfeirio at asiantaethau eraill.

Rydyn ni’n derbyn hunangyfeirio, a gall gweithwyr proffesiynol fod yn gyfeiriwr hefyd e.e. gwasanaeth gofal cymdeithasol, ysgolion, troseddau ieuenctid, ac ati.

Rydyn ni’n cynnal ymgynghoriadau 1:1
cyn dechrau’r rhaglen er mwyn cwrdd â chi, eich cyfarch, a rhoi’r cyfle ichi holi eich cwestiynau i ni.

Lleoliad

Mae WalkwithMeUK CIC wedi’u cofrestru yn Croydon Llundain, ac mae’n gwasanaethu Nationwide

Ôl-ofal

Unwaith y mis, mae WalkwithMeUK CIC yn cynnig llwyfan anfeirniadol sy’n para 1 awr ar-lein i rieni / gofalwyr graddedig gael y cyfle i ymlacio, cael cymorth, cefnogi ei gilydd ac ystyried a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol ar y teulu cyfan.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd bob mis, gan glywed tystebau newydd, profiadau gwahanol, ond hefyd hyntoedd tebyg.  Rwy wrth fy modd yn teimlo fy mod i’n cael fy nghynnwys, ac yn cael fy nghofleidio gan gariad ac empathi go iawn.  Mae gennyn ni rwydd hynt i fynegi ein hunain heb farnu.  Bu’r sesiwn hon yn un arbennig oherwydd ein bod i gyd wedi cysylltu ar lefel ddyfnach.  O’m hochr i, bues i’n gallu siarad yn agored, a chael rhyddhad rhag yr hyn oedd yn pwyso ar fy meddwl.  Buon ni’n chwerthin, yn crio ac yn chwerthin eto.  Yn arbennig, rwy’n mwynhau’r sesiwn fyfyrdod ar y diwedd, sy’n ein daearu ac yn peri inni ymlacio.  Nid grŵp yw hwn, ond TEULU, AC YN WIR, RYDYN NI’N CERDDED GYDA’N GILYDD”!!

Gwirfoddolwyr

Rhieni sy’n raddedigion i wirfoddoli’n hwyluswyr/llysgenhadon yn amodol ar argaeledd i rannu eu tystebau / mynd i arddangosfeydd

Dathliad

Bydd seremoni gyflwyno tystysgrifau Cyflawniad Rhieni a Gofalwr sy’n Raddedigion a phen-blwydd blynyddol yn cael eu cynnal ar-lein i wahoddedigion ymuno â ni i’w dathlu.

“Yn ddiolchgar o allu dod i’r digwyddiad, a chlywed y profiadau a’r adborth grymus gan raddedigion”