‘Hot Chicks’ drama newydd am gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru
14 Mawrth 2025Gan Nina Waxwell
Cefais gyfle i fynd i ymarfer agored a chynnig arbenigedd o fy ymchwil ar gyfer y ddrama newydd sbon, Hot Chicks.
Mae Hot Chicks yn ddrama gythryblus sy’n gomedi dywyll ac yn portreadu realiti camfanteisio ar blant yng Nghymru. Ysgrifennwyd y ddrama gan Rebecca Jade Hammond ac mae’n adlewyrchu realiti camfanteisio troseddol gan ei bod yn defnyddio gwybodaeth a phrofiadau:
- CMET: Cyd-destunol, Coll, wedi’u Hecsbloetio a’u Masnachu – diogelu plant a phobl ifanc yn Abertawe rhag niwed y tu allan i’r teulu
- SAFE: Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio yng Nghaerdydd
- YMCA
Daeth Rebecca yn ymwybodol o gamfanteisio troseddol ar blant yn ystod y pandemig COVID. Yn fwy diweddar, nododd gynnydd yn nifer y merched sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol:
“Mae fy ymchwil ar y prosiect hwn dros y pum mlynedd diwethaf wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o’r materion cymdeithasol-wleidyddol sy’n ymwneud â’r argyfwng camfanteisio’n droseddol ar blant (yn enwedig yng Nghymru) a’r angen am weithrediad, cyllid ac amddiffyniadau hanfodol i atal pobl ifanc rhag cael eu denu at y rhwydweithiau cyffuriau hyn. Unwaith y byddwch chi wedi’ch trwytho yn y sefydliadau hyn sydd bron fel cyltiau, mae’n anodd iawn cael y nerth i adael oherwydd yr ofn o roi eich teulu neu eich hun mewn perygl. Mae Hot Chicks yn ddrama am y merched ifanc hynny sy’n syrthio drwy rwyd addysg a chymdeithas, yn angof ac yn chwilio am gefnogaeth deuluol a diogelwch.”
Mae’r ddrama wedi’i datblygu gan Theatr y Sherman yng Nghaerdydd a grŵp creadigol Grand Ambition o Abertawe.
Dywedodd Richard Mylan o Grand Ambition wrthyn ni:
“Sefydlon ni Grand Ambition gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe dair blynedd yn ôl … Mae’n bwysig i ni adrodd straeon pobl sydd ar y cyrion, a chynrychioli lleisiau sy’n cael eu clywed yn llai aml ar ein llwyfannau. Mae gallu ymuno â Theatr y Sherman i adrodd stori bwerus, gyda sgript fachog Rebecca Hammond yn gyfle gwych”
Ar y cyd â’r ddrama, mae’r tîm yn creu adnodd addysgol diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth barhaus Cyngor Abertawe. Mae’r ddrama hefyd yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Loteri Cod Post y Bobl/Ymddiriedolaeth God Post Gymunedol.
Bydd Hot Chicks yn cael ei dangos rhwng 21 Mawrth a 5 Ebrill yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd a rhwng 16 a 25 Ebrill 2025 yn Theatr y Grand Abertawe.