Skip to main content

Uncategorized

Cefnogaeth i blant sydd â phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern

26 Ebrill 2024

Post Gwadd gan Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil, SBARC, Prifysgol Caerdydd

Mae caethwasiaeth fodern plant yn gymhleth, yn aml yn gudd, ac yn tarfu’n eithafol ar ddiogelwch plant a’u hawliau.  Mae caethwasiaeth fodern yn derm ymbarél ar gyfer pob math o gaethwasiaeth, masnachu pobl ac ecsbloetio sy’n digwydd heddiw, ac mewn perthynas â phlant, mae’n cynnwys cam-fanteisio’n rhywiol a throseddol, cynaeafu organau, llafur gorfodol a chaethwasanaeth ddomestig.

Caiff plant y nodir eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern posibl yng Nghymru a Lloegr eu hatgyfeirio gan ‘ymatebwyr cyntaf’ (er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu) at system o’r enw’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).  Yna bydd llawer o’r plant hyn yn cael cymorth uniongyrchol un i un drwy Wasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol (ICTG) Barnardo’s neu’n elwa’n anuniongyrchol wrth i’r Gwasanaeth weithio fel rhan o ddull amlasiantaethol.

Ar hyn o bryd ceir bwlch tystiolaeth mewn perthynas â phrofiadau plant o’r gefnogaeth y maent wedi’i derbyn a’u barn am hynny, y manteision a’r cyfyngiadau arnynt ac ar eu bywydau a sut y gallai ddiwallu eu hanghenion yn fwyaf effeithiol. Er eu bod yn canolbwyntio ar eiriolaeth a rhoi llais i blant, mae gwerthusiadau allanol o’r Gwasanaeth ICTG naill ai heb ymgysylltu’n eang â’r plant eu hunain a/neu wedi gwneud hynny drwy ddulliau mwy traddodiadol fel cyfweliadau.  Mae’r dulliau hyn yn anaddas i blant bregus sydd wedi profi trawma ac o ganlyniad mae iddynt gyfyngiadau sylweddol.

Yn gynharach eleni, cefais fy nghomisiynu i ymgymryd ag ymchwil ar y cymorth sydd ar gael i blant â phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern fel rhan o Gymrodoriaeth naw mis a ariennir gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern (M SPEC).  Diben yr ymchwil oedd edych ar y canlyniadau tymor hirach o ran diogelu, amddiffyn, llesiant ac adferiad i blant sy’n derbyn cymorth gan Wasanaeth ICTG Barnardo’s. Gofynnwyd i mi ddefnyddio methodoleg arloesol a chyfranogol i gasglu data yn ddiogel ac ystyrlon gan y plant eu hunain, yn ogystal â galluogi cyfranogiad pobl ifanc yn y broses ymchwil ei hun.  Yn hyn o beth, nod yr ymchwil oedd mynd i’r afael â’r bwlch tystiolaeth a nodwyd, er mwyn cael sylfeini cryf yn canolbwyntio ar blant ac atebolrwydd pwrpasol i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.

Un fethodoleg a ystyriwyd gen i a allai fod yn benthyg ei hun i’r astudiaeth hon gyda’r grŵp hwn o blant a phobl ifanc yw ‘Methodoleg-Q’.  Mae Methodoleg-Q (a elwir weithiau’n ‘Q’), yn ymagwedd weithredol, gyfranogol sy’n gofyn am ddidoli a blaenoriaethu set o ddatganiadau ar fater penodol, a gallai fod â manteision posibl ar gyfer ymchwil gyda phlant sy’n goroesi caethwasiaeth fodern sydd â phrofiad o drawma ac sydd angen teimlo eu bod mewn rheolaeth.  Dangoswyd bod y dull hwn yn arwain at greu patrymau, meysydd gwahaniaeth a chonsensws ar faes ffocws neu thema benodol. Mae Q yn arloesol yn y cyd-destun hwn gyda’r grŵp targed felly rwyf am weld a allai yn wir fod yn hygyrch ac yn briodol ar gyfer ymgysylltu â’r plant a’r bobl ifanc hyn.

Yn ogystal, rwyf i am ymchwilio a fyddai modd defnyddio Q mewn ffordd fyddai’n golygu bod pobl ifanc â phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern yn gallu cymryd rhan yn y broses ymchwil ei hun. Er enghraifft, drwy roi cyngor ar gynllun y datganiadau a’u gwneud yn hygyrch i blant a phobl ifanc eraill, yn ogystal â chreu allbwn addas i berson ifanc sy’n rhannu canlyniadau’r ymchwil gyda’u cyfoedion. Byddaf yn edrych ar hyn yn fy ymchwil.

Byddaf hefyd yn tynnu ar y Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol sef set o ddatganiadau canlyniad sy’n seiliedig ar hawliau plant. Fe’i cynrychiolir yn weledol fel ‘blodyn’ gyda gwahanol ganlyniadau ar bob ‘petal’. Gallai nifer ohonynt fod yn berthnasol i’r Gwasanaeth ICTG. Fe’i datblygwyd gyda phobl ifanc nad ydynt o’r DU gyda phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern gan yr Athro Patricia Hynes ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn 2022. Mae’r Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol yn fan cychwyn cryf ar gyfer trafod gyda grŵp ymgynghorol o bobl ifanc ac ar gyfer archwilio canlyniadau’r Gwasanaeth ICTG gyda phlant.

Bellach ym mis Medi 2023, gyda chymeradwyaeth foesegol wedi’i sicrhau, rwy’n gweithio gyda Barnardo’s i recriwtio grŵp o bobl ifanc i ymgymryd â’r rôl ymgynghori ymchwil, a chynhelir y sesiwn ryngweithiol gyntaf gyda’r grŵp yn ddiweddarach y mis hwn.  Trwy ‘her’ grŵp bydd y bobl ifanc hyn yn bwydo’n ôl ar berthnasedd a mynegiant datganiadau’r Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol ac yn eu treialu ar ran eu cyfoedion.  Yna bydd ymarferwyr o bob rhan o’r gwasanaeth yn cynorthwyo plant unigol i gymryd rhan yn yr ymchwil ei hun, gydag o leiaf ddeg ar hugain o weithgareddau didoli un i un yn cael eu cynnal dros fis Awst a mis Medi, rhai wyneb yn wyneb a rhai ar-lein.  Bydd dadansoddiad o ddata’r gweithgareddau ymchwil hyn yn ogystal â data arall sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth ICTG a’r canlyniadau ar gyfer plant yn digwydd ym mis Medi a Hydref gydag allbynnau terfynol yr ymchwil wedi’u hysgrifennu erbyn diwedd eleni.   Yna bydd y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd yn gynnar yn 2024.

Ar y pwynt hwn, gan adeiladu ar yr ymchwil gyda phlant a phobl ifanc a’r bartneriaeth sefydledig gyda Barnardo’s ac MSPEC, y gobaith yw y bydd modd cataleiddio barn y plant er mwyn cyflymu effaith yr ymchwil ar draws meysydd ymarfer, proffesiynol a pholisi.  Byddaf hefyd yn gallu myfyrio ar yr ymchwil, ar fanteision a heriau Q fel methodoleg yn y maes a ph’un a oedd yn wir yn fy ngalluogi i ymgysylltu â phlant sydd â phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern mewn ffordd ddiogel, ystyrlon, yn seiliedig ar drawma.

Darganfod mwy

CYFEIRNODAU

Ellingsen, I.T., Størksen, I., a Stephens, P. (2010) Q methodology in social work research. International Journal of Social Research Methodology, 13:5, 395-409.

Goodwin, J. a Tiderington, E. (2022). Building trauma-informed research competencies in social work education, Social Work Education, 41:2, 143-156.

Hynes, P., Connolly, H., a Duran, L. (2022). Creating Stable Futures: Human Trafficking, Participation and Outcomes for Children. Final Report. Sheffield Hallam University.

Kohli, R., Hynes, P., Connolly, H., Thurnham, A., Westlake, D., a D’Arcy, K. (2015). Evaluation of Independent Child Trafficking Advocates trial.  Final Report.  University of Bedfordshire.

Kohli, R., Connolly, H., Stott, H., Roe, S., Prince, S., Long, J., Gordon-Ramsey, S. (2019). An evaluation of Independent Child Trafficking Guardians – early adopter sites. Final report. Research report 111, edn, London: Y Swyddfa Gartref

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cyhoeddwyd 29 Mawrth 2022. Home – Office for National Statistics (ons.gov.uk). Statistical Bulletin. Child victims of modern slavery in the UK: Mawrth 2022

Thorsen, A., a Størksen, I. (2010. Ethical, methodological, and practical reflections when using Q methodology in research with young children. Operant Subjectivity 33.1/2.

Van Biileveld, G., Dedding, C. a Bunders-Aelen, J. (2013) Children’s and young people’s participation within child welfare and child protection services: a state-of-the-art review, Child and Family Social Work

Watts, S. a Stenner, P. (2012) Doing Q methodological research: theory, method and interpretation. Sage: Llundain.