Skip to main content

Diweddariadau

Beth yw’r canlyniadau gwasanaeth ar gyfer plant sydd wedi’u hecsbloetio’n droseddol?

24 Chwefror 2023

Rydym wedi lansio prosiect ymchwil newydd i drin a thrafod y llwybrau atgyfeirio, y dulliau mae gwasanaethau yn defnyddio, ymyriadau a chanlyniadau addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a’r deilliannau troseddu ar gyfer plant sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol mewn dau awdurdod lleol. Nod y prosiect yw creu astudiaethau achos manwl o brofiadau bywyd pobl ifanc a ecsbloetiwyd yn droseddol o’r llwybrau gwasanaeth, y ddarpariaeth a’r deilliannau bum mlynedd cyn iddyn nhw dderbyn cael eu hatgyfeirio a hyd at ddwy flynedd wedi hynny. Mae gwaith blaenorol ar Ecsbloetio’n Droseddol ar Blant yn cyfrannu at gynnwys y prosiect hwn.

Bydd y prosiect hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r hyn a wyddom am y modd y daw plant sy’n cael eu hecsbloetio yn droseddol yn hysbys i wasanaethau, a pha lwybrau gwasanaeth sydd fwyaf effeithiol mewn perthynas â’u hamgylchiadau. Mae hyn yn cefnogi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n datgan y dylid cynnig y cymorth cywir ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Bydd cynllun yr astudiaeth achos dulliau cymysg yn galluogi adnabod llwybrau a chanlyniadau atgyfeirio a gwasanaeth ar lefel unigol a lefel grŵp. Yn ogystal, bydd y prosiect yn cynnig asesiad beirniadol o ddata’r gwasanaeth ac yn trafod i ba raddau y gellir eu defnyddio i adnabod plant sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol.

 


Sylwadau

Gadewch ateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u marcio *