Skip to main content

Digwyddiadau

Rhoi tystiolaeth yn Senedd y DU

13 Mawrth 2023

Ar 1 Mawrth, cymerodd Nina Maxwell ran yn y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gamfanteisio’n Droseddol ar Blant a Throseddau Cyllyll i drafod y Bil Dioddefwyr, a hynny ar y cyd â chynrychiolwyr o Barnardo’s a Redthread.

Yn ystod y sesiwn hon, dan gadeiryddiaeth Florence Eshalomi AS a Taiwo Owatemi AS, cafwyd trafodaeth ar y pynciau canlynol:

  • Yr effaith y mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn ei chael ar blant ledled y wlad.
  • Yr hyn sydd angen ei wneud ymhellach i amddiffyn a chefnogi’r plant hynny sy’n dioddef camfanteisio troseddol.
  • Yr hyn y dylid ei flaenoriaethau ar gyfer y Bil Dioddefwyr, sy’n cynnwys camfanteisio’n droseddol ar blant.

Rhannodd Nina y canfyddiadau a ddaeth yn sgil ei hymchwil yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar lwybrau diogelu ar gyfer plant sy’n dioddef, gan gynnwys sut mae diffiniad statudol yng Nghymru yn arwain at ddealltwriaeth gyffredin o’r ymagwedd angenrheidiol at ddiogelu.

Nod y cyfarfod hwn oedd rhannu sesiwn friffio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a’r Gweinidog dros Ddioddefwyr a Dedfrydu, a byddai safbwyntiau pawb oedd yn bresennol yn ychwanegu at y ddadl Seneddol sydd i ddod ynghylch y Bil Dioddefwyr.