Ydych chi’n barod i ffynnu yn eich gyrfa drwy Prosper?
22 Hydref 2024
Mae Prosper yn ddull newydd o ddatblygu gyrfaol sy’n datgloi potensial ‘ymchwilwyr ôl-ddoethurol’ i ffynnu mewn nifer wahanol o lwybrau gyrfaol.
Dull newydd ac arloesol o ddatblygu gyrfaol i ymchwilwyr ôl-ddoethurol yw Prosper, sy’n datgloi eu potensial i ffynnu mewn nifer wahanol o lwybrau gyrfaol – yn y byd academaidd a thu hwnt iddo.
Porwch drwy’r Porth Prosper, sef platfform ar-lein sy’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, ac sy’n llawn dop o syniadau ac offer i ddatblygu eich hun a’ch gyrfa – mae wedi’i greu ar gyfer ymchwilwyr ôl-ddoethurol, ni waeth beth fo’u maes pwnc. Yn y Porth, gallwch chi wneud y canlynol:
- Ystyried – Nodwch eich cryfderau, eich sgiliau, eich gwerthoedd a’ch dyheadau o ran gyrfa.
- Archwilio – fe gewch chi gipolygon gwerthfawr gan amrywiaeth eang o gyflogwyr mewn gwahanol sectorau, a chael gwybod am gyfleoedd a llwybrau gyrfaol ar draws 12 clwstwr gyrfaol.
- Gweithredu – Rhowch fin ar eich sgiliau ymarferol i allu meithrin rhwydweithiau proffesiynol yn effeithiol, ymgymryd â chyfleoedd gwaith, a datblygu yn eich swydd gyfredol neu at y dyfodol.
Mae cofrestru am ddim ar y Porth yn gwbl ddewisol, ond bydd gwneud hynny’n datgloi’r teclyn ‘Career Development Navigator’. Mae’r teclyn hwn yn caniatáu ichi addasu’r adnoddau Prosper i gyd-fynd â’ch sefyllfa a’ch trywydd unigryw o ran gyrfa.
Mae Prosper hefyd yn cynnwys Rheolwyr Ymchwilwyr ar y Porth Prosper. Yno y ceir llu o adnoddau at ddefnydd prif ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau arwain, a meithrin gweithle cadarnhaol a chynhwysol. Gall rheolwyr hefyd gymryd rhan yn y Rhwydwaith Prosper i Brif Ymchwilwyr – sef fforwm traws-sefydliadol i Brif Ymchwilwyr allu cysylltu â’u cyfoedion a rhannu arferion gorau.