Mentora ym Mhrifysgol Caerdydd
15 Hydref 202427 Hydref 2024 (a phob blwyddyn!)
Pam Mentora?
Mae pobl yn aml yn gorfeddwl am fentora ond, yn ei ddiffiniad mwyaf sylfaenol, ystyr mentora yw perthynas gefnogol rhwng un person a pherson mwy profiadol arall. Fodd bynnag, gall fod yn offeryn anhygoel o bwerus o hyd ar gyfer ychwanegu eglurder a phwrpas at eich penderfyniadau, gan eich helpu i symud ymlaen yn un o feysydd penodol eich ymchwil neu’ch gyrfa ac, yn y pen draw, eich galluogi i gyrraedd eich potensial llawn. Gall mentora eich cefnogi gyda llawer o agweddau ar eich gyrfa ymchwil, megis ysgrifennu ceisiadau grant, datblygu arweinyddiaeth, dechrau addysgu, neu archwilio ymgysylltu â’r cyhoedd. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth!
6 Chamsyniad am Fentora
Mae mentora weithiau’n cael ei weld fel tasg yn hytrach nag ymdrech gadarnhaol, gefnogol. Rhywbeth beichus arall y mae’n rhaid i chi “ei wneud” fel academydd. Fodd bynnag, mae’r canfyddiad hwn yn aml yn ganlyniad i wybodaeth anghywir ac achlust anecdotaidd. Dyma 6 chamsyniad cyffredin am fentora yr ydym yn gobeithio eu chwalu!
1) Rhaid i chi ddefnyddio cynllun mentora ffurfiol
Mae cynlluniau mentora ffurfiol yn ddefnyddiol iawn os nad ydych yn siŵr sut i fynd ati i ddod o hyd i fentor, yn enwedig os yw cronfa’r mentoriaid sydd ar gael trwy’r cynllun yn ehangach nag y byddech fel arfer yn dod i gysylltiad â hi trwy eich rhwydweithiau eich hun. Fodd bynnag, gallwch hefyd drefnu eich mentor eich hun, ac ar unrhyw adeg sy’n gyfleus i chi. Nid oes angen i chi aros i gynlluniau ffurfiol ddechrau, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd unrhyw un i chwilio am fentor! Bydd rhai perthnasoedd mentora yn datblygu’n organig trwy rwydweithiau cymorth presennol heb i’r person sy’n cael ei fentora na’r mentor yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ei gilydd neu ffurfioli’r berthynas. Efallai eich bod yn cael eich mentora ar hyn o bryd heb sylweddoli hynny hyd yn oed!
2) Dim ond pan fyddwch chi’n cynllunio gyrfa y mae angen mentor arnoch chi
Mae mentora’n cael ei gysylltu’n gyffredin â chynllunio gyrfa, ac yn gwbl briodol felly gan y gall fod yn offeryn pwerus a all roi’r eglurder a’r hunanymwybyddiaeth sydd eu hangen arnoch wrth benderfynu beth rydych am ei wneud. Fodd bynnag, gall mentora hefyd fod yn amhrisiadwy ar gyfer dysgu sgiliau newydd, caffael gwybodaeth newydd, a magu hyder yn gyffredinol. Gallwch ddod o hyd i fentor am unrhyw reswm, gan ddibynnu ar eich anghenion datblygu ar y pryd. Gallai hyn olygu dysgu techneg labordy newydd, ysgrifennu cynnig cymrodoriaeth am y tro cyntaf, cymryd rôl arwain, dechrau ymgysylltu â’r cyhoedd am y tro cyntaf…mae’r rhestr yn mynd ymlaen! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bod yn glir i chi’ch hun ac i’ch mentor am ddiben y berthynas fentora fel y gall y ddau ohonoch gael y gorau ohoni.
3) Dim ond un mentor sy’n gallu bod gennych ar y tro
Nid oes unrhyw reolau ynghylch faint o fentoriaid sy’n gallu bod gennych neu hyd yn oed faint sy’n ddelfrydol, gall fod gennych gynifer ag y dymunwch. Mae’n dibynnu’n fawr iawn ar eich anghenion datblygiadol ar unrhyw adeg benodol…po fwyaf o anghenion sydd gennych, y mwyaf o fentoriaid y dylai fod gennych! Bydd mentoriaid gyda gwahanol gefndiroedd, sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau yn rhoi persbectif llawer ehangach i chi.
4) Dylai eich mentor fod yn rhywun uwch yn eich adran
Gall eich mentor fod yn unrhyw un. Nid oes angen iddynt ddod o’ch adran na’ch Ysgol, na hyd yn oed o’r sector Addysg Uwch (AU)! Yn wir, byddai rhai yn dadlau ei bod yn well nad ydynt er mwyn iddynt allu rhoi cymorth diduedd i chi. Defnyddiwch eich rhwydweithiau (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, fel LinkedIn a Twitter/X) i fwrw’ch rhwyd yn eang. Nid oes angen iddynt fod yn uwch na chi ychwaith. Mae tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y gall mentora cymheiriaid fod yr un mor effeithiol.
5) Unwaith y byddwch wedi sefydlu perthynas fentora, mae’n rhaid i chi barhau â hi hyd y diwedd
Er mwyn i fentora fod yn effeithiol, mae angen i’r berthynas rhyngoch chi a’ch mentor weithio. Weithiau, yn enwedig os ydych chi’n cael eich paru trwy gynllun mentora ffurfiol, efallai y byddwch chi’n teimlo nad ydych chi a’ch mentor yn bondio’n llwyr yn y ffordd rydych chi ei eisiau. Mae hyn yn hollol iawn; byddai’n afrealistig disgwyl i bob perthynas fentora fod yn bariad perffaith. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, byddwch yn gwrtais a dod â’r cytundeb i ben, yn hytrach nag aros iddi chwythu ei phlwc mewn ffordd druenus. Yn yr un modd, bydd hyd yn oed perthnasoedd mentora effeithiol yn dod i ben ar ryw adeg. Byddwch yn glir wrth sefydlu’r cytundeb mentora am eich disgwyliadau o ran hyd y mentora a beth fydd yn digwydd unwaith y byddwch wedi cyflawni eich nodau. A gadewch i’ch mentor wneud yr un peth!
6) Mae gan fentoriaid yr holl atebion
Nid yw mentor yno i roi’r atebion i gyd i chi. Yn hytrach, mae mentor yn cynnig ei amser a’i brofiad er mwyn eich helpu i sylweddoli’r atebion rydych chi’n eu ceisio ar eich pen eich hun ac i ddod i’ch casgliadau eich hun. Pan fyddwch chi’n cwrdd â’ch mentor, chi ddylai fod yn gwneud y rhan fwyaf o’r siarad! Ni fydd mentora yn darparu canlyniadau ar unwaith; mae’n broses y mae’n rhaid i chi weithio drwyddi. Bydd mentora yn rhoi’r amser a’r lle sydd eu hangen arnoch i fyfyrio ar eich sefyllfa bresennol ac ar ba lwybrau sydd ar gael i chi yn y dyfodol. Manteisiwch ar hynny … nid yw’n rhywbeth yr ydych am ei ruthro!
Mentora ym Mhrifysgol Caerdydd
Bydd yr alwad ar gyfer y Rhaglen Fentora Staff Academaidd ar gyfer staff Addysgu ac Ymchwil, Addysgu ac Ysgolheictod ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn agor ym mis Tachwedd a bydd y cynllun yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan fentoriaid a mentoreion.
Dyluniwyd y rhaglen i gysylltu cydweithwyr ymchwil ac academaidd â’i gilydd i greu partneriaethau mentora. Bydd yn eich helpu i lunio eich profiad eich hun – caiff mentoriaid eu paru’n ofalus ag unigolion addas, a bydd y ddau ohonynt yn cydweithio i benderfynu ar lwybr addas tuag at nod penodol. Gallwch gyfrannu at lwyddiant y rhaglen ac elwa ohoni, boed hynny fel mentor neu rywun sy’n cael ei fentora.
I gofrestru naill ai yn fentor neu’n fentorai, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ffurflen fer a fydd ar gael ar dudalen fewnrwyd y rhaglen fentora staff academaidd. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i’r Rhaglen Mentora Staff Academaidd neu cysylltwch â Mentoring@caerdydd.ac.uk.
Darllen Pellach
Os yw’r darn hwn ar fentora wedi’ch ysbrydoli, neu o leiaf wedi ennyn eich diddordeb, a’ch bod am gael gwybod mwy, gweler y pecyn cymorth mentora atodedig ac mae croeso i chi ddilyn y dolenni rydym wedi’u curadu ar eich cyfer isod. Ond peidiwch â stopio yno…mae cyfoeth o wybodaeth bellach ar gael ar y rhyngrwyd am fentora i chi ei harchwilio!
Pecyn Cymorth Mentora – Prifysgol Caerdydd
Mentoring and Coaching for Researchers – Vitae
Approaches to coaching and mentoring – Vitae
What is Mentoring? / Mentoring Resources – Sefydliad Datblygiad Academaidd Prifysgol Caeredin
People-Matched Mentoring gan Kay Guccione a Charlotte Bonner-Evans (trwy garedigrwydd Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol)
People-matched Mentoring – A Success Story gan yr Athro Claire Gorrara a Dr Sarah Inskip (trwy garedigrwydd Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol)
Interdisciplinary Mentoring gan Charlotte Bonner-Evans (Rheolwr Mentora a Chymunedol Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol)
Interdisciplinary Mentoring: Collaboration and Sharing Best Practice gan Clare Barrie (Swyddog Cyfathrebu, Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol
Structuring a mentoring agreement process, Ideas, Concerns and Expectations – gan Kay Guccione (trwy garedigrwydd Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol)
Developing Future Leaders: A Mentor-Mentee Discussion – Mewn sgwrs gyda’r Athro Bernie Morley a’r Athro Nathan Mayne (Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol)
The Power of Alumni Mentoring gan Dîm Cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd (byddwn yn archwilio cynllun tebyg ar gyfer staff ymchwil yn unig yn y dyfodol agos)