Skip to main content

Datblygu GyrfaGyrfaoedd AmrywiolHyrwyddo Datblygiad Proffesiynol

Datblygiad Proffesiynol Parhaus a’r ymrwymiad ‘10 Diwrnod’

23 Medi 2024

Yr Ymrwymiad 10 Diwrnod i DPP Staff Ymchwil

Mae Prifysgol Caerdydd, a hithau’n un o lofnodwyr y Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff ymchwil yn cymryd rhan mewn o leiaf 10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) pro rata bob blwyddyn. Mae bodloni’r ymrwymiad hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd rhyngoch chi (yr ymchwilydd), eich rheolwr(wyr) a’r sefydliad.

  • Ymrwymiad Sefydliadol – Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i staff ymchwil gymryd rhan mewn o leiaf 10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata y flwyddyn, gan gydnabod y bydd ymchwilwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn ystod eang o sectorau cyflogaeth.
  • Ymrwymiad y Rheolwyr – Byddwn yn cefnogi rheolwyr staff ymchwil yng Nghaerdydd i fodloni eu rhwymedigaeth i neilltuo isafswm o 10 diwrnod y flwyddyn pro rata er mwyn i ymchwilwyr ymgymryd â datblygiad proffesiynol, gan gefnogi ymchwilwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng cyflawni eu hymchwil a’u datblygiad proffesiynol eu hunain.
  • Ymrwymiad yr Ymchwilwyr – Er mwyn elwa’n llawn ar yr ymrwymiad sefydliadol, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud defnydd llawn o’r amser a neilltuir a manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir ichi ymgymryd ag ystod o weithgareddau datblygu. Mae’r Concordat yn gofyn bod yr holl staff ymchwil yn cymryd perchnogaeth ar eu gyrfa, gan adnabod y cyfleoedd i weithio tuag at eu hamcanion gyrfaol. I gefnogi hyn, anogir staff ymchwil i gynnal cynllun datblygu gyrfaol cyfoes a chreu portffolio o dystiolaeth sy’n dangos eu profiad y gellir wedyn ei ddefnyddio wedyn i gefnogi ceisiadau am swyddi.

Efallai y bydd datblygiad proffesiynol 10 diwrnod yn ymddangos yn llawer, ac efallai mai eich cwestiwn cyntaf fydd “Sut ar y ddaear bydda i’n mynd i allu gwneud hynny?”. Ond mae’n haws na’r hyn a dybiwch, yn enwedig unwaith y byddwch chi’n deall nad yw pob datblygiad yn seiliedig ar y dysgu cydamserol traddodiadol mewn ‘ystafell ddosbarth’! Mae’r adran nesaf yn ymchwilio ychydig yn ddyfnach i’r hyn yw ‘datblygiad’ go iawn a’n gobaith yw y bydd yn eich ysbrydoli i fod ychydig yn fwy creadigol wrth ymgymryd â’ch DPP.

Pa fathau o DPP sydd ar gael?

Isod ceir trosolwg o’r mathau o weithgarwch datblygu proffesiynol a fydd o fudd i chi’r ymchwilydd yn eich rôl bresennol ac i gyrraedd eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol. Ynghyd â’r adnoddau cynllunio DPP a grybwyllir yn y blog diwethaf (Gwyliwch y Bwlch! – asesu a mynd i’r afael â’ch anghenion datblygu), bydd y trosolwg hwn yn eich helpu i ddewis ystod amrywiol o weithgareddau i ddiwallu eich anghenion datblygu ac i feddwl sut y gallwch fanteisio’n llawn ar yr isafswm o 10 diwrnod a ddyrennir ichi bob blwyddyn i wneud datblygiad proffesiynol parhaus.

Dysgu Ffurfiol

Mae’n debyg mai dysgu ffurfiol yw’r math o weithgarwch datblygu mae pob un ohonon ni fwyaf cyfarwydd ag ef, a’r un sy’n gysylltiedig agosaf â’r term ‘hyfforddi a datblygu’. Fel arfer, bydd y rhain yn gyfleoedd diffiniedig i gael gwybodaeth a sgiliau newydd, gyda’r nod o feithrin capasiti at y gwaith dan sylw, yn ogystal â’ch rhagolygon cyflogi presennol ac yn y dyfodol. Yn gyffredinol, rydyn ni’n eu hystyried yn weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth dan arweiniad addysgwr/hyfforddwr neu dîm o hyfforddwyr.

Yn achos gweithgareddau dysgu ffurfiol, fel arfer byddech chi’n disgwyl gwybod pa rai yw’r canlyniadau neu’r amcanion dysgu cyn ichi gymryd rhan. Ymhlith y gweithgareddau yn y categori hwn hwyrach bydd cyrsiau byr “sut i” i helpu i ddatblygu sgil benodol, neu hwyrach eu bod yn rhaglenni gweithgarwch tymor hwy sy’n arwain at ddatblygu sgiliau meddal yn ehangach, megis arweinyddiaeth. Efallai yn rhan o hyn bydd dysgu wedi’i gyfarwyddo neu wedi’i hwyluso mewn grŵp a gyflwynir yn fyw (yn gydamserol) naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, neu hwyrach eu bod yn fodiwlau anghydamserol ‘hunanwasanaethu’ (ar-lein yn gyffredinol) ichi eu cwblhau wrth eich pwysau eich hun.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu ffurfiol i staff ymchwil:

Ymhlith y mathau eraill o hyfforddi a datblygu ffurfiol y mae:

  • hyfforddiant sgiliau ymchwil a rhaglenni achrededig
  • sesiynau briffio neu weithdai gan arbenigwyr/cyrff proffesiynol/Cymdeithasau Dysgedig ac ati.
  • gweminarau a/neu ymweliadau gan gyllidwyr
  • hyfforddiant gan olygyddion cyfnodolion/adolygwyr sy’n gymheiriaid

Dysgu anffurfiol

Er bod DPP yn gysylltiedig amlaf â mathau mwy ffurfiol o ddysgu, mae gweithgareddau dysgu anffurfiol, megis dysgu gan bobl eraill a dysgu drwy wneud, hefyd yn ddulliau datblygu pwysig. Y rhan orau yw eich bod yn debygol iawn o fod yn cymryd rhan mewn llawer o’r gweithgareddau hyn eisoes! Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi’n cael y budd mwyaf ganddyn nhw os na fyddwch chi’n cymryd yr amser i fyfyrio ar eu perthnasedd i ddatblygiad ymchwilydd neu fynegi eich barn am y rhain. Er enghraifft, hwyrach y bydd cyflwyno mewn cynhadledd fawr ac uchel ei bri yn rhoi’r cyfle ichi ymarfer eich sgiliau cyflwyno (dysgu drwy wneud), datblygu eich rhwydwaith (dysgu drwy wneud) a dysgu gan ymchwilwyr mwy profiadol (dysgu gan bobl eraill). At hynny, efallai y bydd myfyrio ar weithgareddau dysgu anffurfiol yn gyfle ichi ddod o hyd i ragor o fylchau yn eich gwybodaeth a’ch sgiliau, a thrwy hynny yn eich helpu i ganfod anghenion hyfforddiant a datblygu ychwanegol!

Dysgu anffurfiol: Dysgu gan bobl eraill

Bydd gweithio gyda phobl eraill a dysgu oddi wrthyn nhw’n rhoi persbectif newydd ichi, gan eich annog i ystyried ffyrdd gwahanol o weithio a meddwl a defnyddio’n rhain yn ehangach yn eich ymchwil a’ch gyrfa.

Manteisiwch ar y cyfleoedd i ryngweithio ag ystod o bobl, arsylwi’r hyn a wnân nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u hefelychu, gan gynnwys aelodau eraill o’r staff, uwch-aelodau a chydweithwyr mewn meysydd neu sectorau eraill, gyda’r nod o ehangu eich gorwelion mewn ffyrdd newydd. Os na fydd y cyfleoedd hynny’n ymddangos, ewch ati i’w creu! Hwyrach mai rhywbeth eithaf syml fydd hyn megis trefnu ymweliad ymchwil â grŵp mewn sefydliad arall, mynd i seminarau adrannol neu efallai cynhadledd fwy ei maint neu lunio prosiect ymchwil ar y cyd. Efallai y bydd ‘dysgu gan bobl eraill’ hefyd yn sail i drefniadau mwy ffurfiol, fel cynlluniau mentora a gweithgareddau rhwydweithio, ond y prif wahaniaeth rhwng hyn a dysgu ffurfiol yw bod dysgu gan bobl eraill yn brofiad mwy personol a phwrpasol ar y cyfan.

Ymhlith enghreifftiau ‘dysgu gan bobl eraill’ y mae:

  • cymryd rhan mewn mentora (does dim rhaid i hyn ddigwydd drwy gynllun mentora ffurfiol, ond bydd hyn weithiau’n haws os yw eich rhwydwaith ond megis dechrau)
  • hyfforddi 1 a 1 a chyngor unigol (e.e., ymgynghoriad gyrfaol)
  • dysgu cymheiriad i gymheiriad (e.e. cymryd rhan mewn clybiau cyfnodolion)
  • ymweld â chydweithwyr allanol
  • rhwydweithio
  • cymryd rhan mewn cynadleddau ymchwil a/neu ddysgu ac addysgu
  • cymryd rhan mewn cynlluniau symudedd
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau lles yn y gwaith

Dysgu anffurfiol: Dysgu drwy wneud

Efallai bod datblygu eich sgiliau ac ennill profiad yn sgil ‘dysgu drwy wneud’ yn rhywbeth bwriadol (e.e. cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, gan eich bod yn gwybod y bydd angen profiad o’r fath arnoch yn eich swydd nesaf neu hwyrach ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd ar hap (e.e. cymryd lle cydweithiwr prysur). Waeth pa un ydyw, yn aml dyma’r ffordd orau ichi ymgymryd a dysgu trochi ac, i lawer o bobl, y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cadw ac adalw’r hyn sy’n cael ei ddysgu. Os ydych chi’n awyddus i ymestyn eich hun yn eich swydd bresennol yna bachwch unrhyw gyfleoedd ‘ar y swydd’ a fydd yn eich galluogi i wneud tasgau a gweithgareddau newydd sydd y tu allan i’ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (a’r hyn sy’n gyfarwydd iawn ichi!), gyda’r nod o ehangu a datblygu eich gyrfa.

Ymhlith yr enghreifftiau o ‘ddysgu drwy wneud’ y mae:

  • trefnu a/neu siarad mewn seminarau a chynadleddau
  • cadeirio paneli
  • gwneud cais am gyllid (gan gynnwys cyllid annibynnol at ddibenion cymrodoriaeth)
  • addysgu, darlithio, arddangos ac asesu
  • cyfrannu at oruchwylio doethurol
  • ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, allgymorth ac ehangu cyfranogiad
  • ymgymryd â rolau gwasanaeth/arweinyddiaeth, e.e. pwyllgorau adrannol, cymdeithasau, ac ati.
  • meithrin partneriaethau a phrosiectau rhyngwladol a chyfrannu atyn nhw

Y negeseuon pwysicaf un…

  • Cymerwch eich amser i ddod o hyd i’r ystod o sgiliau, y rhinweddau, y mathau o ymddygiad a’r diddordebau sydd gennych eisoes, y rheini rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd, a’r rheini yr hoffech chi eu hennill.
  • Cymerwch ran ym mhob un o’r 3 math o ddysgu i ehangu eich datblygiad (peidiwch ag anghofio gofyn yn eich coleg, ysgol ac adran am gyfleoedd datblygu lleol!)
  • Myfyrio ar y gweithgareddau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y byddwch chi’n ymgymryd â nhw a’u cofnodi er mwyn gwerthfawrogi’n llawn eu perthnasedd i’ch datblygiad. Efallai na fyddwch chi’n cael y budd mwyaf ohonyn nhw fel arall!

Bydd offer fel Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae a Phorth Prosper yn ddefnyddiol i’ch helpu i ganfod a mynegi’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau y byddwch chi fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol.