Skip to main content

Datblygu GyrfaGyrfaoedd AmrywiolHyrwyddo Datblygiad Proffesiynol

Blog: Rheoli eich Gyrfa Ymchwil

27 Mehefin 2024

Mae’n hawdd colli golwg ar reoli ein gyrfa, yn enwedig pan fo’r yrfa honno eisoes yn ein cadw mor brysur!  Gall fod yn anodd, os nad yn amhosibl, dod o hyd i’r amser sydd ei angen arnom i adolygu a myfyrio ar ble’r ydym ni a ble yr ydym am fod. Rydyn ni’n ymgolli cymaint yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd nes ein bod yn anghofio ein bod yn mynd i chwythu plwc os na fyddwn ni’n cymryd eiliad i gynllunio ymlaen llaw!

Mae rheoli gyrfa’n effeithiol yn cynnwys hunanfyfyrio ar eich taith gyrfa hyd yma a’r cyfeiriad yr hoffech chi fynd, ac efallai y bydd angen ichi wneud rhai penderfyniadau sy’n cael effaith ac a allai newid eich bywyd os ydych am newid y sefyllfa bresennol. Ond peidiwch â phoeni, os ydych chi’n meddwl amdano, mae hyn yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn ei wneud yn barod!  Sut wnaethoch chi gyrraedd lle rydych chi heddiw, yn y swydd hon, yn y Brifysgol hon, yn y ddinas hon? Fe wnaethoch chi wneud penderfyniadau. Efallai eu bod wedi bod yn benderfyniadau heriol iawn a’ch cadwodd yn effro yn y nos, neu efallai eu bod wedi teimlo fel nad oeddent yn benderfyniadau o gwbl, yn debycach i ddilyniant naturiol. Y naill ffordd neu’r llall, rydych chi ar hyn o bryd yn profi canlyniad y penderfyniadau hynny.

Beth sy’n gweithio orau i chi?

Mae yna nifer o ddulliau o reoli gyrfa yn y tymor byr a’r tymor hwy ac mae’n bwysig eich bod chi’n dod o hyd i’r rhai sy’n gweithio i chi. Isod mae cwpl o awgrymiadau ond nid yw hwn yn rhestr hollgynhwysfawr o bell ffordd; os nad yw’r enghreifftiau hyn yn addas i chi yna rwy’n eich annog i ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i rywbeth a fydd yn gweithio i chi. Ond pa bynnag ddulliau y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw, byddwch â meddwl agored a rhowch gyfle iddyn nhw!

Fframweithiau Rheoli Gyrfa

Mae’r rhain yn tueddu i fod yn eithaf llinol ac fel arfer yn cael eu llywio gan eich nodau a’ch dyheadau. Mae fframweithiau yn rhoi arweiniad ar sut i drefnu eich meddyliau am eich gyrfa ac yn eich galluogi i gynllunio’r hyn y gallai fod angen i chi ei wneud a phryd er mwyn eu gwireddu. I ddweud y gwir, er bod y rhan fwyaf o fframweithiau rheoli gyrfa yn seiliedig ar allbynnau ysgolheigaidd nid ydynt yn gymhleth fel arfer, ond gall y strwythur maen nhw’n ei ddarparu helpu i gynnal eich disgyblaeth a’ch penderfyniad o ran rheoli gyrfa a’ch cefnogi i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod.

Y fframwaith sy’n taro tant fwyaf gyda mi yw GROW, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Syr John Whitmore a’i gydweithwyr fel fframwaith ar gyfer sgyrsiau hyfforddi ond rwy’n meddwl ei fod yn gweithio cystal yn y sefyllfa hon hefyd (gallech ddadlau bod rheoli gyrfa yn fath o hunan-hyfforddi!) . Mae’n sefyll am Nod (Goal), Realiti (Reality), Opsiynau (Options), a Ffordd Ymlaen (Way-forward) a gellir ei gymhwyso i gynllunio tymor byr a hirdymor.

  • Nod yw’r weithred neu’r canlyniad yr ydych am ei gyflawni, a gallai’r rhain fod yn rhai tymor byr (nodau cysylltiedig â thasg, nodau perfformiad, nodau cynnydd) neu dymor hwy (nodau gyrfa yn y pen draw). Rhai o’r cwestiynau y gallech eu hystyried ar y cam hwn yw: Beth ydych chi am ei gyflawni? Beth yw eich diddordebau? Beth fydd yn rhoi boddhad a mwynhad swydd i chi? Os oedd unrhyw beth yn bosibl, sut fyddai hyn yn edrych ar eich cyfer chi?
  • Realiti yw pan fyddwch chi’n dod yn ôl i lawr o’r cymylau! Ar y cam hwn, rydych chi’n asesu eich sefyllfa bresennol o ran y camau a gymerwyd hyd yn hyn… felly ble ydych chi nawr a sut wnaethoch chi gyrraedd yno? Cwestiynau y gallech eu hystyried yw: Ble ydych chi o ran cyrraedd eich nod? Beth sy’n mynd yn dda? Beth allai fod yn mynd yn well? Beth/ble mae’r rhwystrau? Beth sydd angen ei newid?
  • Mae opsiynau yn cynnwys archwilio sut y gallwch symud o ble rydych chi (realiti) i ble rydych chi eisiau bod (nod). I wneud hyn, mae angen i chi wneud dadansoddiad bwlch rhwng y ddau gyflwr (a elwir weithiau yn Ddadansoddiad Anghenion Hyfforddi [TNA] neu Ddadansoddiad Anghenion Datblygu [DNA]). Pa wybodaeth, sgiliau, a/neu brofiad sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nod(au) a pha rai o’r rheini sydd gennych ar hyn o bryd? Sut gallwch chi fynd i’r afael â hynny? Mae cwestiynau y gallech eu hystyried yn cynnwys: Beth allwch chi ddechrau ei wneud i roi eich hun mewn sefyllfa well? Beth fyddai manteision ac anfanteision gwneud hynny? Beth fyddai’r goblygiadau? Beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n gwneud dim byd? Pa ysbrydoliaeth allwch chi ei gymryd gan eraill?
  •  Y ffordd ymlaen yn y bôn yw’r cynllun gweithredu sy’n deillio o’ch dadansoddiad bwlch. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud mewn gwirionedd i’ch helpu i gyrraedd eich nod a phryd? Mae gweithgaredd â phwrpas yn allweddol! Dylai eich cynllun fod yn bwrpasol i chi a dylai fanylu ar sut yr ydych yn mynd i gau unrhyw fylchau a nodwyd gennych, gan gynnwys sut yr ydych yn bwriadu dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi a datblygu angenrheidiol a chael mynediad iddynt. Er mwyn eich cadw ar y trywydd iawn, dylai eich cynllun gynnwys cerrig milltir CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol). Adolygwch eich cynllun yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben, a chynhaliwch gyfarfodydd rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell/mentor i drafod eich cynnydd (nid mewn ADP yn unig!). Mae’r cwestiynau hyn yn cynnwys: Beth ydych chi’n mynd i wneud? Beth yw eich amserlen? Sut byddwch chi’n cynnal momentwm? Faint o flaenoriaeth yw hyn? Beth allai fod yn rhwystr? A oes gennych gynllun wrth gefn?

Digwyddiad ar Hap Cynlluniedig (‘Planned Happenstance’)

Mae’r dull hwn o gynllunio gyrfa yn canolbwyntio ar fod yn agored (ac yn barod) i gyfleoedd sy’n codi. Mae digwyddiad ar hap cynlluniedig yn pwysleisio bod y dyfodol yn anrhagweladwy a bod gan y rhan fwyaf o bobl (ie, y RHAN FWYAF o bobl) yrfaoedd sydd wedi cymryd tro annisgwyl lle mae digwyddiadau a chyfleoedd annisgwyl wedi codi.

Y gwirionedd yw bod y dyfodol yn anrhagweladwy. Bydd pethau annisgwyl yn digwydd, megis peidio â chael swydd yr oeddech wir ei heisiau neu ofyn i chi ymuno â phrosiect a fydd yn ehangu eich maes ymchwil. Ond nid yw hyn yn golygu na allwch fod yn barod! Gellid gweld pob sefyllfa fel cyfle posib os yw’r unigolyn mewn sefyllfa i adnabod y cyfle hwnnw ac yna i gymryd y camau angenrheidiol i fanteisio arno.

Er mwyn defnyddio’r dull digwyddiadau ar hap cynlluniedig, mae angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o’r hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn yr ydych ei eisiau o’ch gyrfa, a deall y cryfderau a’r sgiliau sydd gennych eisoes a pha mor gyflogadwy y maent yn eich gwneud chi. Mae rhwydweithio yn sgil/gweithgaredd pwysig i’r rhai sy’n cymryd agwedd digwyddiadau ar hap cynlluniedig gan nad ydych byth yn gwybod o ble y daw eich cyfle nesaf…byddwch â meddwl agored! Ewch at unrhyw ddigwyddiadau ar hap cynlluniedig gyda meddwl agored a cheisiwch weld newid fel her gadarnhaol, nid rhwystr!

Wrth fabwysiadu’r dull hwn, mae’n aml yn ddefnyddiol edrych yn ôl ar eich gyrfa hyd yn hyn i weld lle y digwyddodd cynnydd ac anfanteision ac i fyfyrio ar yr hyn oedd yn rhan o gynllun a’r hyn nad oedd. Cymerwch olwg ar yr adnoddau hyn a ddatblygwyd gan Brifysgol Derby (a ariennir gan Research England a’r Swyddfa Myfyrwyr) sy’n adeiladu ar y gwaith gwreiddiol ar ‘Planned Happenstance’ gan Mitchell, Levin a Krumboltz. Efallai y byddwch yn gweld y gweminar hwn gan Sarah Williams yn ddefnyddiol hefyd.

Ble wyt ti eisiau bod?

Ystyriaeth bwysig wrth reoli eich gyrfa yn y tymor hwy yw penderfynu ble rydych am i’r yrfa honno ddatblygu. Rydych chi’n gweithio yn y byd academaidd ar hyn o bryd ond ai dyna lle rydych chi wir eisiau bod? Ai dyma’r amgylchedd sydd fwyaf addas i chi? Nid oes unrhyw atebion anghywir felly peidiwch â bod ofn gofyn y cwestiynau hyn (ac eraill) i chi’ch hun o bryd i’w gilydd.

Gyrfa academaidd

Yn y byd academaidd, mae rheoli gyrfa yn dechrau gyda sefydlu pa fath o academydd yr hoffech chi fod. Ydych chi eisiau gweithio ar eich ymchwil yn unig, neu a hoffech chi addysgu? Ydych chi eisiau bod yn bennaeth ar dîm mawr? Ydych chi’n teimlo’n gyfforddus mewn Prifysgol Grŵp Russell sy’n canolbwyntio ar ymchwil, neu a fyddai sefydliad ymchwil arbenigol yn fwy addas i chi? Sut fyddech chi’n teimlo am ddod yn arweinydd strategol o fewn y Brifysgol, cynrychioli’r gymuned academaidd ar bwyllgorau ac ati, neu efallai hyd yn oed rôl fel uwch reolwr? Mae’r cwestiynau’n ymddangos yn ddiddiwedd…

Mae gyrfa academaidd yng Nghaerdydd yn cynnig 3 llwybr gyrfa, sef Ymchwil, Addysgu ac Ymchwil, ac Addysgu ac Ysgolheictod, ac mae modd symud rhwng y llwybrau hynny. Mae Academydd Caerdydd yn manylu ar y disgwyliadau sy’n cwmpasu ein holl lwybrau academaidd ac yn dangos y sgiliau a’r meysydd gweithgaredd hynny y dylech ganolbwyntio ar eu datblygu, yn ogystal â’r meincnodau ar gyfer asesu staff academaidd fel rhan o’n cynllun dyrchafiadau academaidd. Er mwyn llwyddo o fewn unrhyw un o’r llwybrau mae’n arfer da edrych i’r dyfodol 1/5/10 mlynedd i mewn i’ch gyrfa a gwneud yn siŵr eich bod yn glir ynghylch ble mae angen i chi fod a beth sydd angen i chi fod yn ei wneud ar yr adegau hynny mewn perthynas â disgwyliadau’r Brifysgol. Bydd cael y nodau tymor hwy hynny yn eich helpu i gymryd camau priodol ar yr amser iawn i sicrhau eich bod yn gallu bodloni’r gofynion hynny pan fo’n bwysig.

Bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau’r sector ehangach a pholisïau addysg uwch, a deall y ffordd y mae gwaith prifysgolion yn cael ei fesur a’i asesu, gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac arolygon allweddol megis Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn eich helpu gyda’ch gwaith cynllunio, a bydd hefyd yn rhoi cyd-destun pwysig i chi ar gyfer eich rôl bresennol.  Mae bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ehangach hon, yr un mor bwysig ar gyfer datblygu yn eich gyrfa academaidd ag y mae bod yn ymwybodol o wybodaeth am ddatblygiadau ym maes eich disgyblaeth.

Darganfyddwch fwy am yr opsiynau rydyn ni’n eu cynnig ar gyfer dilyniant gyrfa i staff ymchwil a’r ffyrdd rydyn ni’n eich cefnogi chi i reoli eich gyrfa academaidd.

Opsiynau Gyrfa Ehangach

Bydd hwn yn bwnc ar gyfer blog yn y dyfodol felly dim ond ei grybwyll y byddaf yma, ond efallai y byddwch yn penderfynu nad yw gyrfa academaidd yn addas i chi. Gall fod llawer o resymau pam eich bod yn dod i’r casgliad hwn: efallai nad oeddech chi erioed wedi dymuno cael gyrfa academaidd yn y lle cyntaf ond wedi cael eich hannog i ddilyn y llwybr hwn, neu efallai eich bod wedi dadrithio â’r hyn y mae’n ei olygu i fod â rôl academaidd, neu efallai nad yw pethau wedi mynd y ffordd yr ydych wedi dymuno ac nad ydych wedi gallu adeiladu’r profiad holl bwysig hwnnw. Beth bynnag yw’r rheswm neu’r rhesymau, cofiwch eu bod i gyd yn ddilys ac nad oes dim o’i le ar wneud y dewis hwnnw! Yn wir, mae dilyn gyrfa ar draws sectorau (ac yn ôl eto) yn dod yn fwyfwy cyffredin, does ond rhaid edrych ar sgyrsiau academaidd ar ‘X’ i weld hynny.

Mae un o’r heriau wrth wneud y penderfyniad hwn, rwy’n meddwl, yn deillio o’r ffaith bod bron popeth ar gyfer gyrfa academaidd yn ymwneud â’r cymhwyster PhD. Cyfeirir atoch chi, fel unigolyn a chymuned, fel ‘postdocs’. Cyfeirir at eich swydd fel ‘postdoc’. Y tu allan i’r byd academaidd, mae’n ymddangos bod y pwyslais yn cael ei roi mwy ar y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu yn ystod PhD yn hytrach nag ar y cymhwyster ei hun. Nid yn aml y gwelwch ‘Ôl-ddoethurol’ mewn teitl swydd y tu allan i’r byd academaidd, hyd yn oed os yw PhD yn faen prawf hanfodol! Gall y neges bron yn isganfyddol hwn mai gyrfa academaidd yw’r hyn yr ydych i fod i’w wneud ar ôl PhD fod yn eithaf pwerus, ac felly pan fyddwn yn penderfynu mynd yn groes i’r llif hwnnw gallwn deimlo ein bod wedi methu neu ein bod wedi gwastraffu ein hamser, pan nad yw’r naill na’r llall yn wir. Os ydych chi’n ystyried gyrfa y tu allan i’r byd academaidd, boed mewn ymchwil ai peidio, peidiwch â theimlo’n ofn archwilio’r meddyliau hynny. Gall Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydda’r adnoddau Porth Ffyniant newydd eich helpu i ddechrau hyn.

Fel y dywedais, bydd hwn yn bwnc ar gyfer blog yn y dyfodol, ond yn y cyfamser gallwch ddarllen rhywbeth tebyg ar hyn gan ein cydweithwyr rhagorol ym Mhrifysgol Glasgow.

Gair i gloi

Mae cael gyrfa am oes yn golygu bod angen newid parhaus (wedi’r cyfan, newid yw un o’r unig bethau sy’n gyson mewn bywyd!). Mae mynd yn ôl i edrych ar eich dewisiadau o ran eich gyrfa yn ddull a fydd o ddefnydd ar unrhyw gam o’ch gyrfa. Gall ystyried sut mae pobl yn gwneud dewisiadau gyrfa yn gyffredinol a myfyrio ar eich agwedd naturiol eich hun at newid a dewis eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig i chi a beth, os o gwbl, a allai fod yn eich dal yn ôl.

Adnoddau ar gyfer Rheoli Gyrfa

Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr – Mae’r adnodd hwn wedi’i greu i ddarparu ystod o adnoddau dysgu gyrfa rhyngweithiol a diddorol ar gyfer Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ar Ddechrau eu Gyrfa, boed yn fyfyrwyr neu’n staff.

Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF) – Mae Vitae yn defnyddio’r RDF fel y pwynt cyfeirio ar gyfer eu holl gefnogaeth gyrfa ac mae ganddynt ystod o adnoddau i’ch helpu i ddeall a myfyrio ar eich gwerthoedd, cymhellion, arddulliau dysgu, a sgiliau. Mae llawer o wahanol lensys i’ch helpu i gael y gorau o’r RDF ( mae’r lens Cyflogadwyedd yn fan cychwyn da). Mae Vitae yn cynnig cymorth ychwanegol i’ch helpu i gynllunio a rheoli eich gyrfa, gydag adran gyfan o adnoddau ac ymarferion y gallwch eu defnyddio a’u gwneud ar eich cyflymder eich hun, ynghyd ag adroddiadau ar ‘Beth mae Ymchwilwyr yn ei wneud?‘ a ‘Straeon gyrfa ymchwilwyr‘, y ddau wedi’u diweddaru ddiwethaf yn 2022.

Prosper – Wedi’i leoli yn yr Academi, mae Prosper yn ddull newydd o ddatblygu gyrfa sy’n datgloi potensial ‘postdocs’ ffynnu mewn sawl llwybr gyrfa. Eu nod yn y pen draw yw agor y gronfa dalent enfawr sy’n bodoli o fewn y gymuned ymchwil ôl-ddoethurol, er budd y ‘postdocs’ eu hunain, rheolwyr ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach y DU.

Rhagolygon – Gall hyn fod o gymorth i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd a gallai’r adnoddau sydd ar gael dawelu eich meddwl bod cynllunio gyrfa yn broses barhaus a’i bod yn naturiol adolygu ac ailymweld â’ch nodau ac amcanion yn rheolaidd!