O Ignite i PlaceNET: Creu Mannau ar gyfer Cydweithio
20 Chwefror 2026
Ysgrifennwyd Gan Dr Veronica Albarran Carrillo
Creu Cysylltiadau ar draws yr Amgylchedd Adeiledig
Ymunais i â Phrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2024 yn Gydymaith Ymchwil ar y prosiect Trawsnewid Cartrefi, sef prosiect wedi’i ariannu gan AHRC sy’n ystyried sut i gyd-ddylunio cartrefi a gafodd eu hadeiladu rhwng y ddau ryfel byd a’u gwneud nhw’n addas i genedlaethau’r dyfodol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn Adeilad Bute. Drws nesaf i’r adeilad yn Adeilad Morgannwg, mae Dr Kate O’Sullivan yn gweithio yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ar y prosiect BuildZero sydd wedi’i ariannu gan EPSRC. Mae’n ymchwilio’r llwybrau i drawsnewid adeiladau’r DU heb echdynnu deunyddiau, heb gynhyrchu carbon a heb gynhyrchu gwastraff.
Er bod ein prosiectau’n croestorri mewn sawl ffordd ac ein bod yn gweithio mewn adeiladau cyfagos, nid oedden ni wedi cwrdd tan i ni’n dau ymuno â Cynnau | Ignite, sef rhaglen arweinyddiaeth wedi’i hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome a’i chynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar rymuso staff i gyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol, gan drin a thrafod beth mae’n ei olygu yng nghyd-destun ein gwaith bob dydd ac o fewn yr amgylchedd ymchwil ehangach.
I lawer o bobl, y rhaglen Cynnau oedd y cyfle cyntaf i ni gwrdd â chydweithwyr o ysgolion eraill. Yn ystod sesiynau’r prosiect, cafodd Kate a finnau’r cyfle i gwrdd â nifer o ymchwiliwr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar yr amgylchedd adeiledig – o efeilliaid digidol yn yr Ysgol Peirianneg, i dechnolegau sy’n cefnogi ymarfer corff yn y cartref yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, i weithio gyda phlant i asesu ansawdd aer yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a mwy.
Thema a godwyd dro ar ôl tro yn ein trafodaethau oedd cyfleoedd cyfyngedig i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a staff ar gontractau cyfnod penodol i gysylltu, rhannu eu gwaith, a datblygu rhwydweithiau. Gyda phrosiectau ag amserlenni byr ac amcanion uchelgeisiol, mae’n gallu bod yn anodd datblygu perthnasau yn ein hysgolion ein hunain, heb sôn am y Brifysgol ehangach.
O’r syniad i’r fenter: PlaceNET

Pan gododd y cyfle i wneud cais am grant bach drwy’r rhaglen Cynnau, ac o ystyried ein cefndiroedd tebyg, penderfynodd Kate a finnau i gyflwyno cynnig ar y cyd am brosiect sy’n ei gwneud hi’n bosibl i gydweithio a grymuso ymchwilwyr tebyg i ni. Datblygodd y syniad cychwynnol i fod yn PlaceNET – sef menter o dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n galluogi staff ymchwil sy’n gweithio ar ddatblygu’r amgylchedd adeiledig mewn modd cynaliadwy o bob disgyblaeth i ddod at ei gilydd. Dyma gyfle gwych i roi egwyddorion Cynnau ar waith yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen, ac ar yr un pryd mynd i’r afael â her oedd yn teimlo’n bersonol ac a oedd yn berthnasol i lawer o’n cyfoedion.
O bensaernïaeth i ddaearyddiaeth a chynllunio, peirianneg, y gyfraith, seicoleg, a gwleidyddiaeth, mae PlaceNET yn ceisio meithrin cysylltiadau trawsddisgyblaethol, rhannu syniadau, ac ysgogi cyfleoedd ymchwil newydd.
Drwy gynnal gweithdai wyneb yn wyneb amser cinio rhwng mis Mai a mis Hydref, nod y rhwydwaith oedd i:
- Dod ag ymchwilwyr at ei gilydd ar draws disgyblaethau
- Creu cyfleoedd i rannu ymchwil a chyfnewid syniadau
- Datblygu cydweithrediadau sy’n cyfrannu at leoedd iachach, mwy cynaliadwy, a hyfyw
Yr hyn a gyflawnwyd gennym hyd yma

Ymhen chwech mis mae PlaceNET wedi cysylltu â 50 o ymchwilwyr ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyfrifiadureg, Busnes, Gofal Iechyd, Seicoleg, Peirianneg, Meddygaeth, WISERD, Daearyddiaeth a Chynllunio, ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Rydyn ni wedi cynnal chwe gweithdy, gyda 21 o ymchwilwyr yn cyflwyno eu gwaith ac wedi ysgogi trafodaethau bywiog a chysylltiadau newydd. Er bod codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion wedi bod yn her yn y dechrau, roedd cymorth swyddogion ymchwil lleol, gyda rhai ohonyn nhw’n gyd-aelodau o Cynnau, yn werthfawr iawn.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi rhoi cyfle i gydweithwyr gysylltu â phobl eraill o wahanol ddisgyblaethau a chamau gyrfa ar draws ysgolion. Mae’r brwdfrydedd rydyn ni wedi’i weld yn tynnu sylw at y ffaith bod galw mawr am gydweithio o dan arweiniad themâu – nid yn unig yn yr amgylchedd adeiledig ond ar draws cymuned ymchwil ehangach Prifysgol Caerdydd. Ynghyd â dysgu am ymchwil a diddordebau ein gilydd, dechreuon ni nodi lle’r oedd themâu’n croestorri a lle mae’n bosibl i gydweithio. Rodd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gyda llawer â diddordeb mewn parhau â’r rhwydwaith ar ôl y grant cychwynnol.
Mae gan PlaceNET dudalen LinkedIn bellach i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac i eirioli dros waith ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cyfeirlyfr o ymchwilwyr, a fydd yn cael ei gynnal ar y wefan sydd ar ddod ac a fydd yn bwynt canolog y rhwydwaith. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â PlaceNET, llenwch yr arolwg canlynol.
Edrych tua’r Dyfodol

Rydyn ni bellach yn ceisio sicrhau cyllid i lansio’r ail gam fydd yn canolbwyntio ar atgyfnerthu’r gymuned hon sy’n dod i’r amlwg ac i ymgorffori diwylliant o gydweithio, gwelededd a chydgefnogaeth. Yn y cam hwn, byddwn ni’n datblygu prosiectau ymchwil llai i ymdrin â diddordebau tebyg, i gefnogi twf prosiectau cydweithredol a cheisiadau am gyllid ar y cyd. Byddwn ni hefyd yn creu cynnwys digidol i dynnu sylw at ymchwil ein cydweithwyr – gan gynnwys podleidiad a blog PlaceNET. Drwy’r gweithgareddau hyn, byddwn ni’n parhau i feithrin cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a chryfhau cysylltiadau yn y gymuned – gan fynd i’r afael yn uniongyrchol â blaenoriaeth y Brifysgol, ‘Gadael y seilo’.
Mae PlaceNET yn dangos gwerth cydweithio i lywio diwylliant ymchwil cadarnhaol. Drwy greu cyfleoedd i gynnal trafodaethau agored a chwilfrydedd cyffredin, ein nod yw datblygu cymuned ryngddisgyblaethol sy’n fwy cysylltiedig. Mae wedi bod yn ysbrydoledig i weld ein cydweithwyr yn awyddus i barhau â’r trafodaethau hyn, gan ein hatgoffa ni bod newid sy’n para yn aml yn dechrau gyda rhywbeth sydd mor syml â dod â phobl at ei gilydd.
