Llywio Gyrfaoedd Ymchwil gyda Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae 2025
9 Rhagfyr 2025
Mewn oes lle mae ymchwil yn fwyfwy rhyngddisgyblaethol, cydweithiol, ac wedi’i hysgogi gan effaith, nid yw datblygiad proffesiynol ymchwilwyr erioed wedi bod yn bwysicach. Dyna lle mae Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr (RDF) Vitae 2025 yn dod i mewn. Mae’n fersiwn wedi’i hadnewyddu a’i hail-lunio o’r fframwaith gwreiddiol o 2010, sydd wedi’i greu i gefnogi ymchwilwyr wrth iddyn nhw lywio eu gyrfaoedd ag eglurder, pwrpas a’r gallu i addasu.
Beth yw RDF Vitae 2025?
Fframwaith yw RDF Vitae 2025 sy’n arwain y sector ac sy’n manylu ar wybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a gwerthoedd ymchwilwyr effeithiol. Wedi’i ddatblygu drwy ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid – gan gynnwys ymchwilwyr, prifysgolion, arianwyr a chyflogwyr – mae RDF 2025 yn dangos tirwedd esblygol ymchwil a’r rolau amrywiol y mae ymchwilwyr yn eu chwarae mewn cymdeithas.
Mae’r fframwaith wedi’i strwythuro o amgylch y tri maes crynodedig canlynol:
1 – Ymchwilydd – Gwerthoedd ac ymddygiadau personol a phroffesiynol.
2 – Ymchwil – Gwybodaeth a sgiliau i ymgymryd â gwaith ymchwil a’i gyflwyno.
3 – Cymunedau Ymchwil – Sgiliau i ymgysylltu, cydweithio a chyfrannu at amgylcheddau ymchwil ehangach.
Mae pob maes wedi’i rannu’n is-feysydd a disgrifyddion, sydd wedi’u rhannu ymhellach yn gyfnodau sy’n cynrychioli lefelau datblygiad cynyddol. Mae’r dull hwn, sy’n seiliedig ar gyfnodau, yn caniatáu i ymchwilwyr weld eu sefyllfa bresennol a sut olwg byddai ar dwf ym mhob maes.
Pam mae’r RDF yn bwysig Manteision Allweddol
Mae RDF 2025 yn cynnig llu o fuddion i ymchwilwyr ym mhob cyfnod gyrfa – o ymchwilwyr ôl-raddedig i uwch academyddion a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau sy’n gysylltiedig ag ymchwil.
1. Eglurder a Strwythur
Mae’r fframwaith yn cynnig iaith gyffredin ar gyfer datblygu ymchwil, gan ei gwneud yn haws canfod, mynegi a myfyrio ar sgiliau a chymwyseddau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn lleoliadau rhyngddisgyblaethol neu wrth bontio rhwng sectorau.
2. Hunanasesu a Myfyrio
Gall ymchwilwyr ddefnyddio’r RDF i feincnodi eu galluoedd presennol, canfod cryfderau, a nodi meysydd i’w gwella. Mae’r model cyfnodau yn annog ymarfer myfyriol ac yn cefnogi dysgu parhaus.
3. Cynllunio Gyrfaol
Boed yn anelu at swydd academaidd, rôl yn y diwydiant, neu swydd polisi, mae’r RDF yn helpu ymchwilwyr i gynllunio llwybrau gyrfaol a sicrhau bod gweithgareddau datblygu yn cyd-fynd â nodau hirdymor. Mae’n cefnogi dilyniant fertigol a symud ochrol ar draws sectorau.
4. Cymorth i Oruchwylwyr a Sefydliadau
Nid ar gyfer ymchwilwyr unigol yn unig y mae’r RDF. Mae’n offeryn gwerthfawr i oruchwylwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol, a chynghorwyr gyrfaoedd, gan eu helpu i arwain a chefnogi datblygiad ymchwilwyr mewn ffordd strwythuredig ac ystyrlon.
5. Cyd-fynd â Diwylliant Ymchwil
Mae’r fframwaith wedi’i ddiweddaru’n pwysleisio gwerthoedd megis uniondeb ymchwil, ymchwil agored, a chyfnewid gwybodaeth, gan gyd-fynd â mentrau ehangach i feithrin diwylliannau ymchwil iach a chynhwysol.
Defnyddio RDF at ddibenion Cynllunio Datblygiad Gyrfaol
Un o gymwysiadau mwyaf pwerus RDF 2025 yw cynllunio datblygiad gyrfaol. Dyma sut gall ymchwilwyr fanteisio i’r eithaf arno:
1. Dadansoddiad o Anghenion Datblygu
Mae offer fel Cynlluniwr y RDF a Dadansoddiad Anghenion Datblygu (DNA) yn helpu ymchwilwyr i asesu eu sgiliau presennol a chanfod bylchau. Mae’r myfyrio strwythuredig hwn yn galluogi datblygiad wedi’i dargedu ac yn osgoi’r dasg llethol o geisio mynd i’r afael â phopeth ar unwaith.
2. Creu Cynllun Datblygu Personol
Gan ddefnyddio disgrifiadau a chyfnodau’r RDF, gall ymchwilwyr greu cynllun datblygu personol sy’n cyd-fynd â’u dyheadau gyrfaol. Gallai hyn gynnwys mynd i weithdai, ceisio mentora neu ennill profiad mewn arweinyddiaeth neu ymgysylltu â’r cyhoedd.
3. Olrhain Cynnydd
Mae’r RDF yn annog ymchwilwyr i ddogfennu taith eu ddatblygu, sy’n ddefnyddiol at ddibenion gwerthusiadau, ceisiadau am gyllid a chyfweliadau. Mae’n helpu i ddangos cyflawniadau mewn ffordd sy’n berthnasol ar draws disgyblaethau a sectorau.
4. Integreiddio Sefydliadol
Mae llawer o brifysgolion a sefydliadau ymchwil yn amlinellu eu rhaglenni hyfforddi i’r RDF, gan ei gwneud hi’n haws i ymchwilwyr gael hyd i gyfleoedd perthnasol. Mae’r integreiddio hwn yn cefnogi dull cydlynol a strategol o ddatblygiad proffesiynol.
5. Paratoi at REF a thu hwnt
Defnyddir RDF 2025 hefyd i gefnogi cynllunio sefydliadol ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â phobl, diwylliant a’r amgylchedd. Mae’n cynnig strwythur i ddangos sut mae sefydliadau’n cefnogi datblygiad ymchwilwyr ac yn meithrin diwylliannau ymchwil cynhwysol.
Sylwadau i gloi
Mae Vitae RDF 2025 yn fwy na fframwaith – mae’n offeryn strategol i rymuso ymchwilwyr i gymryd yr awenau ar eu gyrfaoedd. Drwy gynnig eglurder, hyblygrwydd ac iaith a rennir, mae’n cefnogi unigolion a sefydliadau fel ei gilydd i adeiladu ecosystem ymchwil ffyniannus.
P’un a ydych chi newydd ddechrau eich PhD neu’n arwain tîm ymchwil, mae RDF 2025 yn eich gwahodd i fyfyrio, cynllunio a thyfu. Mewn byd lle mae ymchwil yn fwyfwy cymhleth a chydweithredol, mae’r fframwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ymchwilwyr nid yn unig yn barod i lwyddo ond hefyd wedi’u hysbrydoli i wneud cyfraniadau ystyrlon i gymdeithas.