Mae’r cyfnod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn agosáu!
11 Ebrill 2025
Nid yw’r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn rhywbeth sy’n cyffroi pobl fel arfer, ond mae’r broses ei hun ac ychydig bach o ymdrech ymlaen llaw gennych chi’n eich helpu i sicrhau bod y flwyddyn o’ch blaen yn un lwyddiannus a chynhyrchiol!
Mae’n gyfle i chi ystyried eich cyflawniadau yn ystod y flwyddyn flaenorol, gosod nodau newydd a sicrhau bod y camau i’w cymryd i ddatblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol yn glir. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn broses frawychus i lawer o bobl. Nod y blog hwn yw egluro diben a manteision y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad, gan gynnwys arfer gorau, er mwyn eich helpu i elwa i’r eithaf ohoni.
Y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad – y ‘pwy’, y ‘pryd’, a’r ‘sut’
Nid ymarfer ticio blychau’n unig yw’r broses hon. Mae’n gyfle gwerthfawr i ymchwilwyr ystyried ac adolygu eu gwaith a’u datblygiad dros y flwyddyn flaenorol. Mae modd rhannu’r broses yn elfennau allweddol i’ch helpu i ddeall pwy ddylai gymryd rhan yn y broses, pryd mae cyfarfodydd Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn cael eu cynnal, a sut mae’r broses yn mynd rhagddi.
Pwy! – Dylai pob aelod o’r staff, waeth pa lwybr gyrfaol y mae’n ei ddilyn neu ble mae arni yn ei yrfa, gael ei wahodd i gyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad gyda’i reolwr llinell (neu adolygydd enwebedig), oni bai ei fod yn gweithio cyfnod prawf. Os felly, bydd angen dilyn proses wahanol. Bydd y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn berthnasol i’r rhai sy’n gweithio cyfnod prawf ar ôl iddyn nhw gwblhau eu cyfnod prawf.
Pryd! – Dylai cyfarfodydd Adolygu Datblygiad a Pherfformiad gael eu cynnal bob blwyddyn rhwng mis Chwefror a mis Mai. Os bydd aelod o’r staff wedi bod yn absennol am gyfnod sylweddol yn ystod y flwyddyn (e.e. absenoldeb rhiant, absenoldeb ymchwil ac ati), efallai na fydd angen iddo gymryd rhan ar yr adeg arferol. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai amcanion yr aelod o’r staff gael eu hadolygu ar ôl iddo ddychwelyd i’r gwaith.
Sut! – Mae angen llenwi ffurflen hunanfyfyriol a chael cyfarfod ar ôl hynny gyda’r adolygydd i drafod cynnwys y ffurflen honno …
Y FFURFLEN – Mae llenwi’r ffurflen yn rhan hanfodol o’r broses. Diben hynny yw eich helpu i ystyried eich cyfraniad dros y 12 mis diwethaf, trafod eich lles ac unrhyw beth arall a allai fod wedi cael effaith ar eich gwaith, ac ystyried sut rydych chi wedi datblygu’n broffesiynol a datblygu eich gyrfa. Bydd strwythur y ffurflen yn arwain y drafodaeth yn ystod y cyfarfod ac yn sicrhau bod pob pwnc perthnasol yn cael ei drafod.
Mae llenwi’r ffurflen yn feddylgar ac yn onest yn hollbwysig, gan y bydd yn dylanwadu ar deimlad a chyfeiriad cyffredinol y cyfarfod. Wrth wneud hynny, dylech chi ystyried cyfeirio at yr amcanion y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw yn ystod eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad diwethaf, y disgrifiad o’ch swydd a’r meini prawf ar gyfer Academydd Caerdydd a dyrchafiadau academaidd, gan gynnwys y Concordat Datblygu Ymchwilwyr. Gallwch chi ddod o hyd i’r ffurflen, gan gynnwys canllawiau pellach, ar y fewnrwyd yma. Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen i chi ei chyflwyno i’r adolygydd o leiaf wythnos cyn eich cyfarfod fel bod ganddo amser i’w darllen a’i hystyried.
Y CYFARFOD – Y cyfarfod sydd wrth wraidd y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad. Yn ystod y cyfarfod hwn, byddwch chi a’r adolygydd yn cael trafodaeth ddwyffordd ynghylch eich gwaith a’ch datblygiad dros y 12 mis diwethaf. Bydd yr adolygydd yn eich annog i rannu eich meddyliau a’ch adborth ar sail yr amcanion y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw’n flaenorol, cyn rhannu ei asesiad ei hun. Gyda’ch gilydd, byddwch chi’n gwerthuso eich cynnydd, yn cydnabod eich cyflawniadau ac yn ystyried eich sefyllfa bresennol yn y gwaith (gan gynnwys unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai fod wedi cael effaith arnoch chi). Mae unrhyw newidiadau mewn perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu hystyried drwy roi adborth i’ch helpu i ddeall beth rydych chi’n ei wneud yn dda neu beth y gallech chi ei wella. Bydd y cyfarfod hefyd yn rhoi cyfle i chi gynllunio a thrafod gweithgareddau yn y dyfodol ar gyfer datblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol yn unol â’ch dyheadau, gan gynnwys ystyried eich lles personol.
Dylech chi dreulio cyfran dda o’r cyfarfod yn canolbwyntio ar baratoi a chytuno ar amcanion SMART i lywio eich gwaith dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys dogfennu unrhyw nodau a allai fod gennych chi ar gyfer datblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrannu at y broses hon cymaint â phosib! Bydd amcanion cadarn ac ystyriol yn sicrhau eich bod chi a’ch rheolwr llinell yn deall beth a ddisgwylir gennych chi yn y gwaith.
Yn olaf, mae’n bwysig nodi nad rhywbeth sy’n digwydd unwaith y flwyddyn yw’r drafodaeth hon. Dylai eich cyfarfod arwain at drafodaethau dilynol drwy gydol y flwyddyn ynghylch cynnydd neu flaenoriaethau sy’n datblygu a newidiadau mewn amgylchiadau unigol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfarfod ar gael yma.
Elwa i’r eithaf o’r cyfarfod
Cyn y cyfarfod
- Ystyriwch eich cyflawniadau: Bydd aelod o’r staff sy’n gallu crynhoi ei gyflawniadau a thynnu sylw at faterion pwysig i’w trafod yn helpu’r adolygydd i roi adborth mwy ystyrlon a defnyddiol. Cymerwch amser i ystyried eich cyflawniadau, gan gynnwys nodi amcanion rydych chi wedi’u cyflawni a chyfraniadau sylweddol rydych chi wedi’u gwneud.
- Paratowch dystiolaeth: Casglwch dystiolaeth sy’n cefnogi eich cyflawniadau. Gallai tystiolaeth o’r fath gynnwys cyhoeddiad, cyflwyniad, cais am grant neu adborth cadarnhaol gan gydweithwyr.
- Nodwch heriau: Byddwch yn onest o ran unrhyw heriau rydych chi wedi’u hwynebu, ac ystyriwch sut y gallech chi fod wedi mynd i’r afael â nhw’n wahanol.
- Gosodwch nodau ar gyfer y dyfodol: Ystyriwch eich dyheadau gyrfaol a nodau realistig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Sicrhewch fod y nodau hyn yn bodloni meini prawf SMART. Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ystyried (e.e. ymchwil newydd, llwybr gyrfaol gwahanol)? Os felly, efallai y byddwch chi am ofyn cyngor yr adolygydd yn ystod y cyfarfod.
Yn ystod y cyfarfod
- Byddwch yn agored ac yn onest: Ewch ati i gael sgwrs agored a gonest gyda’r adolygydd. Manteisiwch ar y cyfle i drafod eich cyflawniadau, unrhyw gyfyngiadau neu broblemau ac unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol ers eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad diwethaf. Tynnwch sylw hefyd at unrhyw broblemau o ran eich llwyth gwaith y gallai fod angen cymorth arnoch chi i ymdrin â nhw. Dylech chi osod a chytuno ar amcanion realistig a SMART.
- Gwrandewch yn astud: Talwch sylw i adborth yr adolygydd. Gofynnwch am eglurhad os bydd angen. Ystyriwch hefyd eu hawgrymiadau’n feddylgar.
- Trafodwch eich datblygiad: Dylech chi ystyried effaith ac effeithiolrwydd gweithgareddau dysgu a datblygu a chynllunio gweithgareddau dysgu a datblygu yn y dyfodol, gan ystyried eich anghenion a’ch dyheadau gyrfaol. Peidiwch ag anghofio gwneud unrhyw hyfforddiant gorfodol. Byddwch yn barod i gytuno ar amserlen i wneud hyn.
- Trafodwch eich lles: Peidiwch ag ofni trafod eich lles ac unrhyw bryderon a allai fod gennych chi. Mae eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn gyfle gwych i godi unrhyw broblemau a cheisio cymorth os bydd angen.
Ar ôl y cyfarfod
- Ystyriwch yr adborth: Ystyriwch yr adborth a gawsoch chi yn ystod y cyfarfod yn ofalus. Ystyriwch sut y gall eich helpu i wella a datblygu.
- Cwblhewch y gwaith papur: Dylech chi gytuno ar yr amcanion ac ychwanegu unrhyw sylwadau yn adran 2.4 (‘Sylwadau’) o’r ffurflen. Ar ôl hynny, dylech chi lofnodi a dyddio’r ffurflen a’i dychwelyd at yr adolygydd. Cadwch gopi digidol neu gopi ar bapur i chi’ch hun er mwyn i chi allu cyfeirio ato yn y dyfodol.
- Paratowch gynllun gweithredu: Cymerwch unrhyw gamau gweithredu y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw yn y cyfarfod. Paratowch gynllun gweithredu clir i’ch helpu i gyflawni eich amcanion, gan nodi’r camau y mae angen i chi eu cymryd, yr adnoddau sydd eu hangen arnoch chi ac unrhyw heriau y gallech chi eu hwynebu.
- Cymerwch unrhyw gamau dilynol: Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’r adolygydd i drafod eich cynnydd a cheisio adborth ychwanegol os bydd angen.
Y Concordat Datblygu Ymchwilwyr:
Mae egwyddorion y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn cyd-fynd yn agos â rhai’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr, gan ei bod yn ceisio helpu ymchwilwyr i ddatblygu’n broffesiynol a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu. Mae’r broses hon yn galluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i’r Concordat drwy gefnogi gyrfaoedd a lles ymchwilwyr yn glir a meithrin amgylchedd sy’n annog adborth a thwf proffesiynol. Drwy gymryd rhan yn y broses, rydych chi’n cyfrannu at yr amcanion ehangach hyn ac yn cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
Mae disgwyl i ymchwilwyr gyfeirio at y Concordat Datblygu Ymchwilwyr yn rhan o’u hunanasesiad yn ystod y broses. Mae’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr yn nodi bod yn rhaid i ymchwilwyr, wrth gymryd rhan mewn adolygiadau datblygu gyrfa, wneud y canlynol:
- Cymryd cyfrifoldeb am eu gyrfaoedd a nodi cyfleoedd i weithio tuag at eu nodau gyrfaol, gan gynnwys ymgymryd ag o leiaf 10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn, pro-rata
- Cadw cynllun datblygu gyrfa proffesiynol a’i ddiweddaru’n rheolaidd, gan gynnwys datblygu portffolio o dystiolaeth sy’n dangos eu profiad, a all gael ei ddefnyddio i ategu ceisiadau am swyddi
- Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eu hunaniaeth ymchwil a sgiliau arwain ehangach, a manteisio ar gyfleoedd o’r fath
- Ystyried cyfleoedd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a’u profiad o’r system ymchwil ehangach drwy, er enghraifft, gyfnewid gwybodaeth, datblygu polisïau, ymgysylltu â’r cyhoedd a masnacheiddio
- Ystyried a pharatoi ar gyfer amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth mewn sectorau gwahanol drwy, er enghraifft, fanteisio ar fentoriaid, gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol, hyfforddiant a secondiadau
Bydd rheolwyr llinell ac adolygwyr eraill yn y Brifysgol yn gallu cael gwybodaeth am y Concordat Datblygu Ymchwilwyr a dolen i’r adran sy’n rhoi gwybodaeth am eu cyfrifoldebau.
Adnoddau ategol
- Gosod amcanion a rhoi adborth – eich helpu i ddeall pwysigrwydd gosod amcanion
- Academydd Caerdydd
- Rhaglen Ymchwilydd Caerdydd
- Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr
Canllawiau defnyddiol ar y fewnrwyd ar y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad
- Gwybodaeth am y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad
- Adolygu Datblygiad a Pherfformiad 2025
- Sut mae’r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn gweithio?
- Cael y gorau o’r cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad
- Cael y gorau o’r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad, i ymchwilwyr
- Canllawiau ar y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad i reolwyr