Llenwi’r Bylchau! – Mynd i’r afael â’ch anghenion datblygu
23 Medi 2024Wrth ichi gynllunio eich gyrfa academaidd lwyddiannus, ddylech chi byth ddiystyru defnyddioldeb deall yr hyn nad ydych chi’n ei wybod, neu’r hyn na allwch chi ei wneud hyd yn hyn!
Mewn blog blaenorol (Rheoli eich Gyrfa Ymchwil [LINK]), buon ni’n trafod sut y gall fframweithiau rheoli gyrfa, megis GROW, eich cynorthwyo i gymharu’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch er mwyn cyflawni NODAU gyrfaol yn y dyfodol â’r rheini sydd gennych ar hyn o bryd yn eich REALITI presennol, a thrwy hynny eich helpu i wybod a oes bylchau yno. Bydd y gweithgarwch hwn, sef ‘Dadansoddiad o’r Anghenion Hyfforddi’ (DAH) neu ‘Ddadansoddiad Anghenion Datblygu’ (DAD), yn eich galluogi i adnabod eich OPSIYNAU datblygu er mwyn llenwi’r bylchau hynny a DATBLYGU eich gyrfa.
A chithau’n ymchwilydd yng Nghaerdydd sy’n edrych ymlaen at yrfa academaidd, dylech chi fod yn ymwybodol o’r disgwyliadau yn eich rôl bresennol a’r rolau rydych chi’n anelu atynt yn y dyfodol yn y cyd-destun academaidd a amlinellir yn Nisgwyliadau Perfformiad Academydd Caerdydd a’r Colegau cysylltiedig. Gall y disgwyliadau hyn, ynghyd â meini prawf Cynllun Dyrchafiadau Academaidd y Brifysgol, gefnogi eich datblygiad gyrfaol drwy roi syniad clir ichi o’r lefel y dylech chi fod arni ar hyd pob cam o’r ysgol yrfaol academaidd a’r gweithgareddau sy’n gymesur â phob un o’r rolau hynny. Bydd cael yr wybodaeth hon yn eich helpu i osod y nodau y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn naill ai gweithio tuag at ddatblygu eich rôl bresennol i fanteisio ar eich perfformiad, neu baratoi ar gyfer eich rôl nesaf drwy ehangu eich profiad a’ch enw da, gan sicrhau y gallwch gyrraedd pob un o’r meincnodau angenrheidiol o ran cymwyseddau pan ddaw’r amser.
Sut i lenwi bylchau
Felly, beth wnewch chi os bydd eich DAH/DAD yn datgelu bylchau yn eich gwybodaeth a’ch set sgiliau? Yn gyntaf, peidiwch â mynd i banig! Mae’n digwydd i bawb! Cofiwch ei fod yn gynnar o hyd yn eich gyrfa a does neb yn disgwyl ichi wybod popeth. Fodd bynnag, dylech chi fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael a’r bylchau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw, yn enwedig y rheini sy’n bwysig ichi yn eich swydd bresennol. Gallwch chi wneud hyn yn effeithiol yn sgil Datblygiad Proffesiynol Parhaus, neu DPP.
Diben y DPP yw cynnal a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i berfformio mewn cyd-destun proffesiynol, a hynny mewn ffordd fwriadol. Hwyrach y bydd hyn yn golygu meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau sydd gennych chi eisoes er mwyn gwella’ch perfformiad, datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau cyfredol er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer rôl ehangach neu ddyrchafiad posibl, neu gael gwybodaeth a sgiliau cwbl newydd at ddibenion newid rôl (boed hynny yn y byd academaidd neu mewn sector gwahanol yn gyfan gwbl).
Dylai’r DPP fod yn strategol yn hytrach nag yn un ad hoc. Peth rhwydd iawn yw cofrestru ar gyfer rhywbeth, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn y swydd ers amser maith a’ch bod o’r farn eich bod eisoes wedi gwneud popeth perthnasol sydd ar gael (ac os yw hynny’n wir yn eich achos chi, yn y blog nesaf byddwn ni’n edrych ar ystyr ‘datblygiad’ go iawn fel y gallwch chi fod yn fwy creadigol o ran yr hyn rydych chi’n ei wneud). Fel y soniwyd mewn blog blaenorol, anelwch at weithgaredd â phwrpas o ran y DPP. Dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi ymateb i anghenion sydyn, cyfleoedd neu chwilfrydedd, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu amser ar gyfer y pethau hollbwysig os yw eich adnoddau’n rhai cyfyngedig.
Bydd ceisio cyngor ac adborth gan ffynonellau dibynadwy, fel eich rheolwr llinell neu eich mentor, yn eich helpu i ddechrau ar eich DPP a/neu eich cadw ar y trywydd iawn. Bydd y rhain yn sicrhau bod eich asesiad o’ch gwybodaeth a’ch sgiliau yn fanwl gywir, bod eich dyheadau yn rhai realistig ac yn gyraeddadwy, a’ch bod yn parhau i ganolbwyntio ar eich nod. Ac wrth gwrs, cewch hefyd ofyn am arweiniad gan y tîm Datblygu Ymchwilwyr am y cyfleoedd datblygu sydd ar gael ichi, felly cysylltwch â ni os bydd angen!
Cynllunio eich DPP
Dylai eich DPP fod yn hunangyfeiriedig yn bennaf, a dylai cynllun eich DPP fod yn bwrpasol ac yn benodol i chi a’ch sefyllfa. Wrth gynllunio eich DPP, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys mecanwaith adolygu fel y gallwch chi olrhain eich cynnydd ar hyd eich cynllun a sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn addas i’r diben o hyd o ran eich anghenion cyfnewidiol. Felly mae’n bwysig eich bod bob amser yn cynnwys digon o amser i fyfyrio ar ôl gwneud eich DPP (Beth ddysgoch chi? Sut gallwch chi ei ddefnyddio’n ehangach? A yw wedi dangos unrhyw fylchau eraill?), a chadwch gofnod ysgrifenedig o’r holl gamau yn y DPP yn ogystal â’r dysgu sy’n digwydd ynddo. Mae’n syndod pa mor gyflym y gallwn ni golli golwg ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud!
Mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o adnoddau a fframweithiau i helpu i gynllunio eich DPP, yn ogystal â chyfoeth o adnoddau allanol sydd ar gael ichi.
Adnoddau a fframweithiau mewnol i’ch helpu i gynllunio’ch DPP
- Mae gan Dyfodol Myfyrwyr+ Prifysgol Caerdydd adnoddau gwych ar gyfer cynllunio gyrfaol, asesu eich sgiliau, a CVs a chyfweliadau. Mae’r tudalennau yn benodol ar gyfer myfyrwyr, ond maen nhw’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn berthnasol i ymchwilwyr ac academyddion hefyd. Cofiwch nad oes modd i staff gyrchu rhai o’r adnoddau a’r gwasanaethau (e.e. y gwasanaeth cyngor ar yrfaoedd).
- Rhaglen Mentora Staff Academaidd – Anelir y rhaglen mentora staff academaidd at y rheini sy’n dymuno canolbwyntio ar ddatblygiad gyrfaol a/neu bersonol. Gallwch chi gynnig eich hun yn fentor neu’n fentorai, neu’r ddau! Fel arfer, bydd y cynllun fel arfer yn anfon gwybodaeth yn yr Hydref felly cadwch lygad ar Viva Engage a Blas am ragor o wybodaeth.
- Adolygiad Datblygu Perfformiad (ADP) – Cyfle mwy ffurfiol yw eich ADP ichi fyfyrio ar eich cyfraniad a’ch datblygiad yn ystod y 12 mis diwethaf, ar eich rôl yn eich tîm a’ch adran, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Dylai cyfarfod yr ADP fod yn rhan o sgyrsiau parhaus, a bydd eich adolygwr yn eich annog i roi eich barn ar eich perfformiad yn unol â’r amcanion a osodwyd, yn ogystal ag unrhyw feysydd i’w gwella. I gael gwybodaeth am sut i gael y gorau o’r ADP, ewch i’n tudalen ar y fewnrwyd.
Adnoddau allanol i’ch helpu i gynllunio eich DPP
Os hoffech chi gael cymorth manylach o ran eich anghenion a chynllunio’ch datblygiad, efallai y bydd o gymorth ichi ystyried y canlynol:
- Prosper – Dull newydd o ddatblygu gyrfaol sy’n datgloi potensial ‘ymchwilwyr ôl-ddoethurol’ i ffynnu mewn nifer wahanol o lwybrau gyrfaol yw Prosper. Y nod yn y pen draw yw agor y gronfa dalent enfawr sy’n bodoli ymhlith ymchwilwyr ôl-ddoethurol y Brifysgol, a hynny er budd yr ymchwilwyr ôl-ddoethurol eu hunain, rheolwyr ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach y DU.
- Cwrs mwy cynhwysfawr Vitae ar-lein ar gynllunio datblygiad proffesiynol i ymchwilwyr. Yn y cwrs hwn, sy’n rhad ac am ddim i aelodau Vitae (mae gan Brifysgol Caerdydd aelodaeth sefydliadol, ond bydd gofyn ichi greu eich cyfrif rhad ac am ddim eich hun), ceir 5 modiwl a gallwch chi wneud y cwrs wrth eich pwysau eich hun.
- Mae Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae yn disgrifio’r wybodaeth, yr arferion a’r priodoleddau sydd gan ymchwilwyr llwyddiannus. Dyma adnodd cynhwysfawr y gellir ei ddefnyddio’n rhan o adolygiad ysgafn neu ei gellir ei astudio’n fanwl. Mae Vitae yn defnyddio’r Fframwaith yn gyfeirbwynt i lywio’r holl gymorth gyrfaol ac mae ystod o adnoddau yn eu lle i’ch helpu i ddeall a myfyrio ar eich gwerthoedd, yr hyn sy’n eich cymell, eich arddulliau dysgu a’ch sgiliau.
- Mae Reflective Practice Toolkit Prifysgol Caergrawnt yn ganllaw ymarferol i feddwl am eich gwaith mewn ffordd fwy myfyriol yn ogystal â bod yn gymorth defnyddiol at ddibenion dysgu parhaus.
Gair i gloi
A ninnau wedi llofnodi’r Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod staff ymchwil yn cymryd rhan mewn o leiaf 10 diwrnod o DPP, pro rata bob blwyddyn. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i roi cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i staff ymchwil gymryd rhan mewn DPP, tra y bydd rheolwyr staff ymchwil yn cefnogi ymchwilwyr i gydbwyso ffrwyth eu hymchwil â’u datblygiad proffesiynol. Efallai eich bod yn meddwl mai llawer iawn yw hyn oll, felly yn y blog nesaf byddwn ni’n edrych ar opsiynau DPP ychydig yn fwy ac y bydd, gobeithio, yn rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth o ran y cyfleoedd i fanteisio arnyn nhw!