Dewch i gwrdd â’r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl
18 Chwefror 2019Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?
Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy’n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn wedi’i wneud yn yr ysgol meddygaeth, dyma’r tro cyntaf i mi gael y cyfle i ganolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl, sut yr oeddent yn effeithio ar broblemau meddygol eraill, a’u heffaith ar fywyd o ddydd i ddydd.
Pwy wnaeth, neu pwy sy’n eich ysbrydoli?
Rwyf wedi cael f’ysbrydoli gan nifer o bobl yn ystod fy ngyrfa. Mae hyn yn cynnwys rhai o’m cydweithwyr ar lefel uwch, ac effaith eu gwaith ymchwil ar eu maes dewisol. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael fy mentora gan bobl arbennig sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn eu gyrfaoedd dewisol, ac wedi bod mor hael â’u hamser a’u cefnogaeth i mi hefyd.
Ar beth ydych yn gweithio ar hyn o bryd?
Rydym yn cynnal nifer o astudiaethau yn ein grŵp, gan gynnwys symptomau clinigol, astudiaethau hanes naturiol, a gwaith labordy sy’n edrych ar sut mae mwtaniadau genynnol penodol yn effeithio ar y ffordd y mae celloedd nerfol yn gweithredu. Mae’r gwaith hwn yn gwbl gydgysylltiedig ac yn canolbwyntio ar fath penodol o anhwylder symud, o’r enw dystonia, a sut gallai newidiadau ar lefel celloedd effeithio ar symud a symptomau iechyd meddwl.
Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i’r gwrthwyneb?
Yn ffodus, rwy’n gallu cynnal ymchwil glinigol yn ogystal ag yn y labordy, a gadael i’r ddwy ffrwd atgyfnerthu ei gilydd. Mae cleifion wedi amlygu rhai sefyllfaoedd/symptomau clinigol sy’n effeithio’n sylweddol ar eu bywydau, neu sy’n anodd eu trin. Ar yr ochr glinigol, mae’r sefyllfaoedd/symptomau clinigol hyn yn llywio llawer o’n gwaith. Nod ein holl waith labordy yw deall y ffactorau sy’n achosi dystonia’n well. Gobeithiwn y gallwn ganfod neu ddatblygu triniaethau newydd a allai fynd ymlaen i dreialon clinigol.
Pa newidiadau ydych wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?
Yn bennaf, parodrwydd ymysg cleifion, eu perthnasau a staff clinigol i drafod iechyd meddwl. Yn y gorffennol, roedd y pwnc yn cael ei drafod yn anaml iawn mewn niwrowyddoniaeth a chlinigau, ond ar hyd hynt fy ngyrfa, mae’r pwnc wedi dod i’r fei ac mae bellach yn bwysig iawn. Rwyf wedi gweld newidiadau mewn agweddau tuag at driniaethau hefyd, ac mae manteision gwahanol fathau o therapi’n cael eu trafod yn fwy.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau allweddol ar gyfer iechyd meddwl?
Yn fy marn i, y brif her yw ceisio deall pam mae problemau ynghylch iechyd meddwl yn codi yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cysylltu ffactorau genynnol ac amgylcheddol. Bydd angen mynd ati wedyn i geisio datblygu systemau fel y gallwn ddeall ac arbrofi ar y mecanweithiau sy’n achosi problemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, yn ogystal â hyn, mae angen parhau i drafod materion iechyd meddwl a sut maent yn effeithio ar bobl ac ehangu’r gymuned sy’n rhan o’r drafodaeth.
Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?
Gwnewch yn siŵr fod eich maes dewisol yn eich cyffroi. Cyn belled â bod gennych ddiddordeb a chwilfrydedd go iawn am eich gwaith, bydd y rhain yn eich cynnal drwy hynt a helynt gwaith ymchwil. Yna, byddwch yn parhau i gyfrannu at helpu’r bobl a effeithir gan y cyflyrau hyn.