Canllawiau cymunedol
Pob croeso i chi anfon sylwadau i’r blog hwn.
Byddwn yn derbyn unrhyw sylwadau rhesymol neu adeiladol sy’n cyfrannu at y drafodaeth.
Ni fydd y cyhoedd yn gallu gweld y sylwadau nes byddant wedi cael eu gwirio.
Nid oes angen cyflwyno cyfeiriadau ebost er mwyn gwneud sylwadau. Ni chaiff y cyfeiriadau eu cyhoeddi ar y blog na’u rhannu. Gall pwyllgor y blog eu defnyddio i gysylltu â’r sawl sydd wedi cyflwyno sylw.
Caiff sylwadau sy’n cynnwys iaith sarhaus neu amhriodol, neu a ystyrir fel rhai digywilydd ac sy’n peri tramgwydd, eu golygu neu eu dileu.
Ni fyddwn yn cyhoeddi sylwadau sy’n cynnwys ymosodiadau personol. Gellir dadlau neu gwestiynu cynnwys y blog, ond ni chaniateir ymosodiadau personol ar flogwyr neu bobl eraill sy’n cyflwyno sylwadau.
Ni chaniateir sylwadau sy’n cynnwys hysbysebion.
Dim enwau amhriodol a sarhaus gan ddefnyddwyr.
Gall sylw amherthnasol neu sy’n mynd i faes amhriodol, gael ei olygu neu ei ddileu.
Os na fydd eich sylw wedi ymddangos o fewn cyfnod rhesymol o amser, ac rydych yn gwybod nad ydych wedi torri’r polisi hwn, cysylltwch â ni.
Gall unrhyw un sy’n torri polisi hwn gael ei rwystro rhag gwneud sylwadau ar y blog hwn.
Mae tîm y blog yn cadw’r hawl i olygu, dileu, symud neu farcio fel sbam, unrhyw sylwadau neu bob un ohonynt. Mae ganddynt hefyd yr hawl i atal unrhyw unigolyn neu grŵp o bobl rhag gwneud sylwadau, neu ddefnyddio’r blog yn ei gyfanrwydd.