Skip to main content

Aros mewnCymraeg

Nôl yn y ddinas o Gaerdydd

29 Ebrill 2013

Ymddiheuriadau lu am fod mor ara’n blogio dros yr wythnosa dwetha ‘ma.  Y rheswm am hyn ydi ei bod hi wedi bod yn gyfnod itha prysur o sgwennu traethoda.  A doni ddim chwaith  am sgwennu blog arall yn parablu am fy narganfyddiada’ I o geisio neud gwaith drwy yfad te gwyrdd  a gwrando ar gerddoriaeth radio 3.

Iawn, ymlaen rwan at y petha diddorol.  Dwi nôl yma yng Nghaerdydd ers pythefnos a mai di bod mor braf gweld pawb unwaith eto.  Oni’n meddwl hefyd y baswn I’n gadal I chi w’bod bod pawb yn tŷ ni sef yr wyth ohonan ni wedi penderfynu  bedyddio’r tŷ ; enw 5 Harriet bellach ydi Y Gwallgofdy.  Dwi ddim yn jocian.  Tydi’r tŷ ma ddim hannar call rhan fwyaf o’r amsar, ma pawb yn herian ei gilydd yn drawyddol ‘ma, dwi’n clywad Lowri’n hwfro i fyny grisia ar amsar hollol wallgo fel 3 o’r gloch yn y bora. Dwi ddim yn malu awyr chwaith wrth dd’eud fod 80% o’n sgyrsia ni yn tueddu I fod am fwyd.. ma “be ti’n fyta?” neu “ww sut ti”n coginio hwnna?” yn byncia llosg dyddiol bellach.  Ond I fod yn onast tydani byth yn diflasu ar y sgyrsia hollol  bwysig yma gan eu bod nhw’n aml iawn yn arwain at fwy o dynnu coes.

Mi ges I fy mhenblwydd ar y 24 o Ebrill ac felly mi aethon I fel tŷ am fwyd I’r Corner House. Mi oeddan ni gyd awydd noson fwy sidet na’r arfar gan ein bod ni wrthi’n brysur yn gwneud gwaith.  Er hynny ar ôl joio prif tri chwrs a photel o win, ymlaen â ni I Peppermint am goctels.  Ar nos ferchar, os ydach chi’n ennill gêm o “rock, paper, scissors” gyda’r dyn tu ôl I’r bar mi gewch chi goctel am ddim.  Mi enillish I do a mi oedd yn rhaid chwara mlaen mod I’n cal fy mhenblwydd… unrhyw beth I gael coctel am ddim. Yn y diwadd felly mi wnes I dalu am 2 fojito a chal 2 long island iced tea am ddim! Sgôr! Ymlaen â ni i Live Lounge am chydig wedyn, a be arall oni’n ddisgwl  ond penmaenmawr y diwrnod wedyn?!  Er hynny mi nes I lwyddo I godi’n fuan a sgwennu fy erthygl cyntaf I Tafod sef adran Gymraeg papur newydd y brifysgol sef y Gair Rhydd.  Sgwennu am gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol ac S4C o “Y Bont” wnes i.  Ma’n siwr I chi wylio’r rhaglen eich hun, rhyw fath o ddrama-ddogfen am brotest cyntaf y Gymraeg ar bont Trefechan.

Dwi newydd sylwi fod “tenovus goodnight walk” yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar Fai’r 11fed.  Taith gerdded o unai 5 I 10 milltir sy’n dechrau a diweddu o’r Stadiwm.  Mae’r daith yn dechra am 10 hefo adloniant a cherddoraeth ar y ffordd.  Dwi’n gobeithio cymryd rhan gan fod o at achos da a hefyd dwi heb wneud math o ymarfar corff ers oes.  Dwi’n gobeithio gwneud rhyw fath o ymarfar corff dros yr wythnosa nesa ‘ma gan mod I a’n ffrind Sara yn mynd I interrailio o amgylch Ewrop ddiwedd y tymor, dwi’m isho mynd hefo bol cwrw nagoes!  Y daith ar y funud ydi dechra yn Amsterdam, Berlin, Prag, Bwdapest, Croatia, Florence a  Rome…. DWI WIR METHU AROS A DYNA YDI’R YSGOGIAD I ORFFAN Y TRAETHODA ‘MA!