Skip to main content

Cymraeg

Bywyd yn Llys Senghennydd.. / Senghennydd Court Life..

16 Mai 2014

Os ydych chi wedi darllen y bio wrth ochr fy nhudalen byddwch yn gwybod mae Myfyrwraig blwyddyn gyntaf ydw i  yng Nghaerdydd yn byw yn Llys Senghennydd. Mae byw yn breswylfa’r brifysgol yn un o’r penderfyniadau gorau y gwnewch chi, os mae gwneud cais i brifysgol yr ydych neu i’r rhai ohonoch sydd wedi aros yn neuadd breswylfa yn y brifysgol, fi’n siŵr y gwnewch chi gytuno gyda fi roedd e’n flwyddyn wych!

Y Manteision o fyw yn Neuadd Breswyl y Brifysgol.

O ydych yn darllen fy mlog yn aml, rydych yn gwybod fy mod i yn Fyfyrwraig blwyddyn gyntaf yma yng Nghaerdydd, ac yn joio byw yn Llys Senghennydd. Roeddwn i yn mor lwcus cael byw mewn flat Cymraeg, ac mae cael cymdeithasu gyda fy ffrindiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais fawr i mi.

Flat Ni– Byddwch yn gwneud ffrindiau am oes tra yn byw yn Neuadd Breswyl, byddwch yn siwr o gadw cysylltiad gyda. Gan fy mod i wedi cael fy nghodi  yn siarad cymraeg, dwi wedi bod digon lwcus i cael byw yn flat cymraeg yma yn Senghennydd. Dwi wedi gwneud ffrindiau da yma, ac mae dewis i fyw yn Llys Senghennydd wedi bod y dewis gorau dwi wedi gwneud.

Y Lanhawraig. Un peth dwi’n siwr iawn o weld eisiau blwyddyn nesaf wrth fyw yn dŷ, yw’r lanhawraig. Mae rhaid dweud bod dihuno ar fore dydd Mawrth i flat lan, gan gynnwys ystafell ymolchi a phopty syn sgleinio yn grêt ( gan fod ein flat ni ddim yn hoff iawn o sgrwbio’r popty!). Mae rhaid dweud rydw i yn ddiolchgar iawn i’r lanhawraig gan ei bod hi ddim yn gwneud llawer o sŵn wrth lanhau sy’n meddwl rhan fwyaf o’r amser dwi’n mwynhau cael y bore i ffwrdd a dal i fyny gyda bach o gwsg.

Cymdeithasu– Dwi’n mor falch nes i ddewis byw yn Llys Senghennydd, ac rydyn ni fel criw o ffrindiau triwyr amser yn treulio amser draw yn fflatiau ein gilydd yn cymdeithasu, coginio, neu baratoi i fynd allan, ac mae hyn yn rhywbeth byddai yn gweld eisiau am Lys Senghennydd. Er byddwn siwr o gymdeithasu gyda phawb blwyddyn nesa, mae’r ffaith ein bod ni i gyd mor agos i’n gilydd, a bod fin gallu bod yn flat ffrind mewn llai na 2 funud!

Noson Allan -I fi yn bersonol, mae Llys Senghennydd yn y lleoliad perffaith. Dwi heb fod yn nhacsi ers misoedd, mae’r ffaith fy mod i’n byw mor agos i’r dre yn wych. Mae popeth sydd angen ar fyfyriwr ar gael yma yn Llys Senghennydd yng nghanol y ddinas.Mae trefnu noson allan yma yn hawdd i bawb yn Llys Senghennydd, gan fod y bariau a chlybiau Caerdydd mor agos, allai fod ti fewn ‘Oceana’ mewn llai na 10 muned ( os mae’r ciwiau yn caniatáu hyn). Mae’r ffaith ein bod ni yn gallu cerdded i bob man yn meddwl dim tacsis (sy’n meddwl dim costiai ychwanegol i’r gost o fynd allan).

Felly os ydych chi yn fyfyriwr sy’n meddwl dod i Gaerdydd a ddim yn siwr am Neuadd Breswyl eto cofiwch edrych ar wefan y brifysgol. Neu os ydych yn fyfyriwr sydd wedi sefyll yn neuadd breswyl yn y brifysgol gobeithio bod fy mlog wedi eich atgoffa chi o’r amserodd da o’r flwyddyn gyntaf!