Skip to main content

Cymraeg

Wythnos y Glas – Prifysgol Caerdydd!

14 Tachwedd 2013

Semester 1, wythnos 5.
Dyma fi nôl am flwyddyn arall yn barod i’ch syrffedu chi hefo’n siarad pwll y môr a gwamalu am fywyd sdiwdant. Ymddiheuriada am fod yn ara yn ail gychwyn blogio ond dyna o’dd y canllawia ges i gan y bobl bwysig sy’n trefnu’r blog ‘ma. I’r rhai ohonoch chi sydd wedi dechra’ch blwyddyn gynta yma yn y brifddinas- croeso a dwi’n siwr eich bod chi wedi hen ymgartrefu erbyn hyn. I’r rhai ohonoch sy’n y chwechad ac yn paratoi datganiad personol I’ch prifysgol delfrydol erbyn hyn y gobaith ydi y bydd y blog ‘ma yn rhoi darlun cliriach a llawar mwy crwn I chi na rhyw daflenni sych UCAS sy’n gofyn am radd I’w llenwi nhw o be di be a dalld y dalldings yma yng Nghaerdydd.
Wythnos y glas: Dyma’r flwyddyn i chi sydd yn y flwyddyn gynta allu cyfiawnhau mynd allan, meddwi, cysgu, codi, teli, siarad,buta, cwyno, meddwi, cysgu,buta,teli ,allan, meddwi……… Well I mi beidio peintio pawb â’r un brwsh a mashwr bod ‘na rai ohonoch chi sydd chydig mwy soffistigedig na’r “fresher” arferol, ond pan fyddwch chi yn y flwyddyn gynta, manteisiwch ar y cyfla o’r amsar i gymdeithasu, gneud ffrindia a cha’l lot o hwyl ar yr un pryd, dyma di’r amsar I’w wneud o’n iawn. A dwi’n fodlon betio y byddwch I’n parhau I fod yn ffrindia efo’r bobl yna ydach chi wedi mwydro eu penna nhw ar noson allan yn wythnos y glas trwy gydol y’ch cyfnod chi yn y coleg. Peidiwch chwaith, â chael y’ch dychryn gan y darlun meddwol hwnnw dachi yn ei gael o wythnos y glas gan y rwtsh sy’n cael eu cyhoeddi yn y cyfrynga. Gwnewch be ‘dach I awydd (o fewn rheswm wrth gwrs!), ac yn sicr mi fydd ‘na bobl fydd isho gneud ‘run petha â chi. Os mai rêf , dawnsio neu fodcas rhad ar loriau clybiau nos Oceana neu Walkabotut sy’n mynd a’ch pryd chi mwynhewch, neu os ‘dach i fel fi, yn hogan pub a seidar da, ma ‘na ddigon o lefydd ar gael, triwch Dempseys sy’n byrlymu fo cymdeithas Gymraeg gref. Hefyd, ma’ na lefydd gwych i wrando ar gerddoriaeth fyw fel Live Lounge, neu os ‘dach i wir yn berson miwsig ac yn mwynhau nosweithiau electronic, funk neu DnB – ma’n rhaid i chi fynd i Glwb Ifor Bach a The Moon Club ar stryd Wombany. Os nad oes na’r un o’r llefydd dwi di nodi uchod yn apelio, peidiwch â phoeni chwaith- ma na lwyth o gymdeithasa gwahanol y medrwch I fod yn rhan ohonyn nhw er mwyn mwynhau eich hunain – o gymdeithas kayakio i hwylio, o gymdeithas ffilm i gymdeithas jazz ac o gymdeithas eich plaid gwleidyddol i gymdeithas siarad Sbaeneg. ‘Dachi’n siŵr o ffindio rwbath i’ch siwtio chi.
Be ‘dwi ‘di bod yn ‘neud….
Ar ôl anhrefn Wythnos y Glas, setlo nôl yn y tŷ, dadbacio, coginio, rhewi pryda, clirio, gwario, gwario a gwario…. buan iawn y daeth noson yr anfarwol Grôl Teulu- crôl cyntaf calendr y GymGym (y Gymdeithas Gymraeg). Yr unig noson, dybiwn i, sy’n gwisgo henaint ar bobl 20/21 oed trwy eu gwneud nhw’n neiniau a theidiau ar fyfyrwyr y flwyddyn gynta, sôn am eich gwneud chi isio crio! Ma’r digwyddiad yma yn un mawr ar galendr y Gym Gym, ac os nad ydach chi’n byw mewn fflat Gymraeg ac yn awyddus I ddod I nabod myfyrwyr Cymraeg y brifddinas- ‘da chi dewch, llwyth o hwyl, crôl o amgylch tafarndai Caerdydd a’n hoff ddarn i –diweddu’n Clwb Ifor Bach a joio bloeddio tiwns Cymraeg.
Gŵyl Sŵn:
Bob blwyddyn, ma Caerdydd yn hollol swnllyd diolch i ŵyl Sŵn, gŵyl gerddoriaeth Caerdydd a ddechreuwyd gan neb llai na’r DJ Huw Stephens. Am gerddoriaeth gan artistiaid hen a newydd, amrywiol eu genre o bob cwr o Brydain a gweddill y byd, tydi Sŵn ddim yn ŵyl I’w fethu. I’r noswaith yn Gwdihw es i, lle cafwyd gwledd gan Osian Howells, Sen Segur a’r uchafbwynt I mi- Cowbois Rhos Botwnnog. Faswn I wedi bod wrth fy modd cael gweld Kizzy Crawford yn O’Neill’s ar y nos wener, dwi’n meddwl ei bod hi’n lais hollol ffres a chyffrous yn y Sîn ar hyn o bryd, ond mi fydd na dro arall. Runig beth dwi’n teimlo am Sŵn ydi ei bod hi’n ŵyl mor wych ond nad ydyn nhw yn cynnig gostyngiada I fyfyrwyr. £10 dalish I nos sadwrn, ond mi fyddai talu £10 I bob noson o’r ŵyl di tyrchu mhocad i nes creu twll ynddo fo. Plis drefnwyr Sŵn- gwnewch o’n rhatach i bobl fel fi!
Darlithoedd a gwaith
Bellach, ma llusgo fy hun o’r gwely I ddarlithoedd 9yb ar ôl cawod-sydyn- a na-does-na -ddim –amsar- i -frecwast yn ddefod arferol. Dwi ddim yn meddwl y gwna I fyth ddod dros y profiad o’r lladdfa 4 darlith 8yb oedd gen i wrth astudio’r gyfraith y flwyddyn gynta’. Nodyn I ddarlithwyr a’r rheiny sy’n creu amserlen: tydi’r ffaith eich bod chi yno’n gorfforol ddim yn golygu eich bod chi yno’n feddyliol ! Dwi’n dymuno pob lwc a llwyddiant i chi os ydach chi ddigon anlwcus I gal darlith 8yblincinbora – mi fyddwch angan o. Gan mod I yn y drydedd rwan , ma pawb yn brysur yn ymchwilio i’w traethodau ymchwil – sydd ddim mor ddrwg â hynny o gwbl gan eich bod chi’n cael dewis maes o’ch diddordab chi yn llwyr. Ma’ amser yn mynd rhy gyflym, os ffeindiwch i berson sy’n gallu stopio amser am ‘chydig, plis dywedwch wrtha i!!
Erbyn y blog nesa, mi fydda i wedi bod yn Aberystwyth gogyfer gig Rhyngol prifysgolion Cymru, fe gewch yr hanes.