Rhoi dull cenhadaeth ar waith: ambell gipolwg gan Gymru
1 Hydref 2024Mae ethol Plaid Lafur Keir Starmer ym mis Gorffennaf wedi dod â ffocws o’r newydd ar y potensial i drefnu polisïau a gweithgareddau’r llywodraeth gan ystyried cenadaethau penodol. Yma, mae Yr Athro Rick Delbridge a Yr Athro Kevin Morgan, Cyd-Gynullwyr y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnig ambell gipolwg.
Canolbwyntio ar genhadaeth
Mae’r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ‘ganolbwyntio ar genhadaeth’ gyda gweithgarwch yn canolbwyntio ar bum maes: twf, y GIG, ynni glân, strydoedd mwy diogel a chyfleoedd. Bu rhai arwyddion cychwynnol am sut y bydd y llywodraeth yn cael ei threfnu i geisio cyflawni yn y meysydd hyn ond nid yw’r manylion wedi’u datgelu am beth a sut y bydd y llywodraeth sy’n canolbwyntio ar genhadaeth yn gwneud hynny.
Wedi dweud hynny, mae’r cysyniad o genadaethau wedi bod yn destun cryn drafod. Mae consensws bod cenadaethau yn seiliedig ar amcanion uchelgeisiol a all aflonyddu, yn gofyn am ddull hirdymor ac y mae modd ei addasu, yn manteisio ar ystod ryngddisgyblaethol o arbenigedd a bod angen eu gweithredu ym mhob rhan o’r llywodraeth, diwydiant a chymdeithas ddinesig. Ynddyn nhw eu hunain, mae’r nodweddion hyn yn cynrychioli gwahaniaeth sylweddol oddi wrth ddulliau confensiynol y llywodraeth. Fel y mae Sefydliad y Llywodraeth wedi’i nodi, ‘Gall datblygu polisïau traddodiadol gynnwys cynllunio polisi o ganol y llywodraeth yn llawn mewn adran unigol heb fawr ddim cyfranogiad ehangach gan lefelau eraill o’r llywodraeth neu randdeiliaid. Gall fod gwahaniad hefyd rhwng y rhai sy’n cynllunio polisi, a’r rhai sy’n gyfrifol am ei gyflawni’. A’r Blaid Lafur wedi’i hethol, mae diddordeb cynyddol bellach yn y modd y bydd yn rhoi ei hymrwymiad i genhadaeth ar waith.
Mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad y Llywodraeth a Nesta, caiff ei ddadlau y dylai’r cenadaethau hyn ffurfio ‘pwrpas eithaf y llywodraeth, a’r stori y mae’n bwriadu ei hadrodd erbyn diwedd y senedd’ ac ‘i lwyddo, bydd angen i’r llywodraeth fabwysiadu tair rôl allweddol: ysgogi arloesedd y gwasanaethau cyhoeddus, llunio marchnadoedd a defnyddio deallusrwydd cyfunol i wella’r broses o wneud penderfyniadau’.
Y cyntaf yw gwerth mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar leoedd wrth ddatblygu ‘micro-genadaethau’ ar raddfa lai. Er bod cenadaethau wedi’u llunio ar raddfa fawr yn gyffredinol ac yn rhai sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang, mae ein profiad gyda Chronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi dangos y gall llunwyr polisi ddefnyddio micro-genadaethau i fynd i’r afael â heriau sy’n ystyrlon i ardaloedd lleol a’u dinasyddion. Er mwyn gwneud hynny’n llwyddiannus, mae angen gwybodaeth leol i fynd i’r afael â heriau lleol. Trwy hynny, mae lle ar gyfer mwy o fewnbwn lleol yn cael ei greu a chefnogaeth yn cael ei hennyn ar gyfer gweithgareddau cenhadol. Gall hyn fod yn werthfawr wrth droi cenadaethau sy’n aflonyddol o haniaethol ond yn aneglur yn rhywbeth diriaethol ac ar raddfa hynod fanwl ar gyfer gweithredwyr lleol. Yna daw’r cwestiwn allweddol sef sut y gall gweithgaredd lleol seiliedig ar leoedd ei raddio.
Dull rhanbarthol
Mae’r drafodaeth ar y dull cenhadaeth wedi bod ar y lefel gysyniadol yn bennaf ac wedi canolbwyntio ar ei photensial rhethregol i raddau helaeth. Ond mae enghreifftiau lle mae’r dull hwn wedi’i roi ar waith ac mae’r gwersi y gallai gael eu dysgu wedi’u dogfennu. Mae un enghraifft o’r fath ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Cafodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei sefydlu mewn Bargen Ddinesig gwerth £1.28 biliwn yn 2013. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys deg partner awdurdod lleol ar draws De-ddwyrain Cymru. Ei amcanion yw’r rheiny sy’n gysylltiedig â holl fargeinion dinesig y DU – cynnydd GVA, buddsoddiad a swyddi ychwanegol – ond o’r cychwyn cyntaf, mae dull Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn wahanol, gan geisio cyfuno amcanion economaidd a chymdeithasol a chreu elfen ‘fytholwyrdd’ i’w fuddsoddiadau. Mae agwedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd at arloesi yn eang ei chwmpas, yn croesawu arloesedd cymdeithasol ac yn cydnabod y potensial yn y sector cyhoeddus a’r economi sylfaenol ehangach yn ogystal â mentrau mwy confensiynol mewn clystyrau sy’n cael eu harwain gan dechnoleg, yn fwyaf nodedig, lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Fel y dywedodd y Prif Weithredwr, Kellie Beirne, ‘Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rydyn ni’n buddsoddi yng ngallu’r sector cyhoeddus i greu/llunio marchnadoedd, bod yn gyd-fuddsoddwr a chymryd risgiau am wobr’. Yn hyn o beth, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi rhagfynegi’r dull sy’n cael ei hyrwyddo gan yr IfG a Nesta.
Mae Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR CF) yn bartneriaeth rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd aPhrifysgol Caerdydd i gynllunio a chyflawni dull cenhadaeth sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol. Roedd y Gronfa Her, a gafodd ei lansio yn 2020, yn arbrawf ar gymhwyso her neu ddull arloesi dan arweiniad cenhadaeth ar lefel ranbarthol. Mae’n tynnu ‘deiliaid heriau’ (y rheiny sydd â phroblem i’w datrys) y sector cyhoeddus ynghyd ag arloeswyr sydd â syniadau y gallai gael eu datblygu’n atebion.
Mae Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cefnogi wyth her, gan ddyfarnu dros £5.5 miliwn i’r rheiny sy’n ymwneud â’r heriau. Nid yw rhai heriau wedi dod i ben eto, ac mae disgwyl i fanteision gronni dros amser, felly mae hi’n dal yn gynnar o ran cofnodi canlyniadau. Fodd bynnag, o ystyried y Gronfa Her ynghyd â’i chwaer-raglen meithrin capasiti, Infuse, mae’r dystiolaeth sydd wedi cael ei chasglu hyd yma’n awgrymu bod dros 80 o swyddi wedi cael eu creu neu eu diogelu, dros £3 miliwn o fuddsoddiad y sector preifat a £2.4 miliwn o gyllid sector cyhoeddus wedi’i drosoli, ac mae dros £1M o werth ychwanegol wedi’i greu mewn 40 o gydweithrediadau newydd.
Fel y partneriaid academaidd sy’n gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarthol Caerdydd, rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i’r broses o gynllunio a chyflawni dull cenhadaeth ar y lefel ranbarthol hon ac mae nifer o ganfyddiadau allweddol a allai fod o werth wrth ystyried sut gall llywodraeth sy’n canolbwyntio ar genhadaeth gael ei gyflawni.
Dod yn bartner ar heriau
Mae ein profiadau wedi dangos y cyfraniad y gall prifysgolion ei wneud at gyflawni dull cenhadol, o ran yr arbenigedd y gall gael ei ddefnyddio mewn her yn ogystal ag yn weithredwyr cynnull yn y rhanbarth, gan hyrwyddo cydweithrediad a chynnig ‘mannau diogel’ i drafod ac arbrofi. Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaeth sylweddol rhwng cysyniadau confensiynol y brifysgol ac amcanion traddodiadol ar gyfer ymchwil a manteisio’n fasnachol. Serch hynny, mae gweithgarwch o’r fath yn ymddangos yn bwysig i fywiogrwydd hirdymor rhanbarth a byddai’n ymddangos yn gynyddol gyson â pholisïau Llywodraeth y DU ac Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Ar ben hynny, mae prifysgolion (a sefydliadau addysgol eraill) yn gydrannau allweddol o ecosystem arloesi mewn rhanbarth. Maen nhw’n cyfrannu at diroedd comin arloesi, er enghraifft, trwy ddatblygu sgiliau, ac at gapasiti amsugnol y rhanbarth. Er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau rhanbarthol, mae’n debygol y bydd angen i brifysgolion ddatblygu arferion newydd – a strwythurau sefydliadol newydd hyd yn oed – ar y cyd â’u dull traddodiadol o ymdrin â gwyddoniaeth ac addysg.
Gallwn ni hefyd wneud nifer o sylwadau gwybodus ynghylch manylion y broses o gyflawni heriau unigol. Yn gyntaf, wrth gydnabod natur arbrofol dull cenhadaeth a diffyg glasbrint sydd wedi cael ei brofi ar gyfer sut i ymdrin â heriau, un wers allweddol yw’r angen am amynedd, gwydnwch a dysgu o’r hyn na weithiodd cystal â’r hyn a wnaeth. Mae’r holl heriau llwyddiannus wedi dangos rheolaeth prosiect effeithiol gan ddeiliaid yr her a thrwy ddull partneriaeth rhyngddyn nhw a’r arloeswyr, gan weithio gyda thîm Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae capasiti o fewn sefydliad deilydd yr her wedi bod yn broblem gyson ac ni ddylai’r angen i fuddsoddi yn y capasiti i gyflawni gael ei ddiystyrru. Mae’r capasiti hwn hefyd yn allweddol wrth geisio sicrhau bod buddion parhaus yn cael eu gwireddu ac nad yw’r sgiliau a’r profiad sy’n cael eu hennill yn cael eu colli. Mae’r heriau mwyaf addawol yn ceisio canlyniadau cadarnhaol o hyd a gall fod yn anodd rhagweld ystod a hyd her. Mae parodrwydd i fod yn hyblyg ac awydd i arbrofi yn werthfawr wrth geisio sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Mae timau prosiect wedi dangos parodrwydd i fabwysiadu ymagwedd ‘darlun ehangach’ ac i chwilio am gyfleoedd pellach.
Cynnal dull arloesi a datblygiad economaidd sy’n tyfu ac yn graddio o’r hadau cychwynnol hyn yw’r nod hirdymor angenrheidiol ar gyfer y rhanbarth. Dyma fydd wirioneddol yn cynrychioli gwreiddio dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar genhadaeth. Bydd cydnabod cymhlethdodau a manylion penodol dull sy’n seiliedig ar leoedd sy’n teilwra gweithgareddau ac amcanion i anghenion a galluoedd lleol yn hanfodol wrth gyflawni llywodraeth sy’n canolbwyntio ar genhadaeth ledled y DU yn llwyddiannus. Efallai mai’r pwynt pwysicaf am ddull cenhadaeth sy’n seiliedig ar leoedd yw ei fod yn ein hatgoffa ni mai ymdrechion cymdeithasol ar y cyd ar ran yr holl randdeiliaid cymdeithasol yw arloesi a datblygu rhanbarthol, yn hytrach nag adran unigol o’r llywodraeth.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rick Delbridge ar DelbridgeR@caerdydd.ac.uk. Dyma ragor o fanylion am Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.