Skip to main content

Adeiladau'r campws

Graddio i arloesi – yr allwedd i lwyddo gyda busnes newydd

18 Gorffennaf 2019

Dyw pob myfyriwr ddim yn graddio er mwyn dilyn gyrfa. Mae rhai’n sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae Prifysgol Caerdydd yn meithrin syniadau cynnar gan fyfyrwyr drwy ffrwd Menter Myfyrwyr sy’n cynnig cyngor a dealltwriaeth i helpu’r busnes i dyfu. Eleni mae tri o’r pedwar ar restr fer Gwobrau Busnesau Newydd Cymru wedi bod drwy gynllun Menter a Dechrau Busnes Caerdydd. Yma, Mohamed Binesmael sy’n egluro pam y sefydlodd Route Konnect – cwmni sy’n datblygu synwyryddion i ganfod a phrosesu gwybodaeth traffig mewn amser real – ac yn trafod pam mai peth prin yw llwyddiant dros nos.

‘Graddio! Dyna i chi ddiwrnod. Dechrau cyfnod newydd i chi! Bydd rhai yn dweud wrthych chi am fwynhau’r misoedd nesaf cyn lladdfa degawdau hir o “yrfa”.’ Ond pam fod rhaid i hyn fod yn lladdfa? Mewn gwirionedd, roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i am ddilyn y meddylfryd hwnnw.

Y drafodaeth arferol yn aml yw gyrfa lefel gradd neu astudiaethau academaidd pellach. Ond dau opsiwn arall na fyddwch efallai wedi’u hystyried yw datblygu busnes neu weithio’n llawrydd.

Fy Stori i

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf i wedi cael cyfle i droedio tri o’r llwybrau hyn. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn 2017, cefais gyfle i ddatblygu cysyniad mor bell â rownd derfynol Gwobrau STEM y Telegraph. Sbardunodd hynny fy niddordeb mewn troi’r cysyniad yn realiti.

Ar ôl graddio yn 2017, penderfynais barhau i astudio gan ddechrau ar PhD. Yn aml rydych chi’n clywed am bobl sy’n gadael i sefydlu busnes. Ar y pryd, allwn i ddim dychmygu y byddai hynny’n digwydd i fi. Roeddwn i’n teimlo y byddwn i’n parhau â’r PhD tan y diwedd.

Mewn ffordd cefais fy ngorfodi i ymgymryd â’r busnes llawn amser ar ôl parhau i ymgeisio i gystadlaethau a chyflymwyr wrth i fi ganolbwyntio ar y PhD yn 2018. Llywodraeth Dubai oedd yn digwydd trefnu un o’r cyflymwyr hyn, ac fe’n gwahoddwyd yno am ddau fis.

Wrth gwrs roedd hyn yn golygu bod gen i wrthdaro. Ac fe wynebwch chi’r penderfyniadau anodd hyn os ydych chi’n awyddus i ddilyn llwybr gwahanol. Diolch byth, roedd y brifysgol yn gefnogol iawn, a’r penderfyniad i mi yn y cyfarfod gyda’r goruchwyliwr oedd a fyddwn i’n oedi am dri mis neu am flwyddyn gyfan.

Dewisais i’r flwyddyn gyfan oherwydd fy mod yn awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle i’r eithaf. Rwyf i’n dal i fod yng nghanol y flwyddyn allan. Wrth gwrs, mae hyn ynddo’i hun yn peri anhawster ac yn ystod fy amser yn Dubai, fe ddes i weld manteision enfawr gweithio’n llawrydd.

Sut i’w Wneud yn Iawn

Gallwch grynhoi rhedeg busnes yn ddwy elfen allweddol. Mae angen i chi gael cwsmeriaid, ac mae angen i chi adeiladu cynnyrch hyfyw i’r cwsmeriaid hynny. Mae’r broses hon yn anodd a gall fod angen i chi newid eich dulliau a’ch tybiaethau sawl tro.

Y ffordd i brofi a ydych chi ar y llwybr iawn yw drwy ymgeisio’n barhaus mewn cystadlaethau a digwyddiadau bach, a chasglu adborth drwy’r amser.

Ond mae’r broses o arbrofi’n golygu nad ydych chi o reidrwydd yn gwneud arian o’r busnes eto. O leiaf dim byd sydd mor sefydlog â swydd ar lefel gradd neu ymchwil wedi’i gyllido. Gallai cronni cynilion cyn mentro gyda’r busnes, neu wneud ychydig o waith llawrydd helpu i ddarparu’r sicrwydd yna heb orfod ymrwymo i amserlen swydd gaeth.

Yr elfen allweddol gyda gwaith llawrydd yw canolbwyntio ar sgil y mae galw amdano yn y farchnad, ac rydych chi hefyd yn ei fwynhau. Yn bersonol rwyf i wrth fy modd yn gwneud cyflwyniadau ac ysgrifennu am dechnoleg. I chi, gallai fod yn ddylunio gwefannau, dylunio graffeg, ysgrifennu copi; boed ffuglen neu fel arall, neu hyd yn oed raglennu.

Fydd gwaith llawrydd ddim yn digwydd dros nos chwaith. Rhaid i chi adeiladu eich enw da a chreu portffolio o waith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn cyrsiau ar-lein hefyd oherwydd mae’n bosib nad yw eich sgiliau mor finiog ag oeddech chi’n ei feddwl!

Sylwadau i gloi

Mae meddu ar radd, gyda’r holl sgiliau trosglwyddadwy rydych chi wedi’u hennill, yn agor eich drysau led y pen. Yn yr oes hon, mae eich opsiynau wrth ddewis eich cam nesaf hefyd yn amrywiol.

Mae dymuno datblygu busnes i sicrhau buddsoddiad erbyn hyn yn golygu mwy na chael syniad yn unig. Mae angen i chi ei brofi, ac mae angen ennill cwsmeriaid drwy ddod â gwerth iddyn nhw gyda’u problemau a’u hanghenion.

Rwyf i’n dal i fod yn y broses honno, a bydd yn dipyn o amser cyn i’r “llwyddiant dros nos” yna ddigwydd. Y cwestiwn yw: Ai dyma’r llwybr cywir i chi hefyd?’

Bydd Route Konnect Mohammed Binesmael yn cystadlu ochr yn ochr ag Alpacr Daniel Swygart a sylfaenydd SmallSpark Joseph Ward yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru ar 20 Medi 2019.