Skip to main content

Current ProjectsEventsNewsWelsh History

Launch of the Cardiff Centre for Welsh History / Lansiad Canolfan Hanes Cymru Caerdydd

4 September 2024

Stephanie Ward, Rebecca Thomas, and Lloyd Bowen reflect on the launch of the new Cardiff Centre for Welsh History / Canolfan Hanes Cymru Caerdydd

The History Department at Cardiff University has long been an important hub for the study of Welsh history and for a time there was a separate Welsh History Department. Cardiff has witnessed a number of prominent Welsh historians pass through its corridors as both lecturers and students. These Welsh historians have not been content to only research into Wales’s rich history, they have also grappled with its very nature through provocative questions such as ‘When Was Wales?’ the title of a key history text written by onetime Cardiff lecturer Gwyn Alf Williams. Building on this legacy, Welsh history is an important part of our work a Cardiff and a popular choice for our dissertation students at undergraduate and postgraduate levels. Our expertise in Welsh history currently stretches from early medieval Wales to the twentieth century.

For a history department with such close connections to the field of Welsh history, and one which sits within the capital city of Wales, the founding this year of a new research centre to draw together expertise and to develop links with the wider community has been a very important development. The Cardiff Centre for Welsh History was launched on 28 June at an event which brought together colleagues, students, librarians, archivists, heritage professionals and representatives from Welsh government.

Behind the Cardiff Centre for Welsh History is a vibrant group of scholars who are committed to producing cutting-edge work into histories of Wales and the Welsh. The launch event showcased the breadth of interest in Welsh history with talks from academics and students across the university. Within the History Department research interests in Welsh history include Welsh identities in medieval Wales, political networks in early modern Wales, language and political radicalism in the eighteenth century and Welsh language socialism in the late nineteenth century. But, Welsh history at Cardiff is not only focused on questions of Welsh identities and Welsh politics. It also encompasses explorations of gender identity, environmental histories of Wales, and heritage. Welsh history also means looking beyond Wales, and diasporic communities (in America, Australia and China) have long been a key research interest within the Department.

Centre launch

Our interest in Welsh history spans well beyond historians of Wales. Archaeologists at Cardiff are researching conflict and co-existence in the medieval borderlands. while scholars in Religious Studies are exploring histories of Welsh Muslims. Work in in the Wales Governance Centre is closely concerned with histories of political nationalism, other scholars in the Business School examine Welsh economic history, and yet others in the School of Social Sciences explore the decolonization of Welsh history. Scholars across these different fields research Wales’s past because it enables them to address questions in the present about political life, legacies of Empire, and the shaping of contemporary British society.

Centre launch

Our postgraduate students form a diverse community of scholars working across these different fields. The launch of the Centre provided an opportunity for them to share their research, covering a wide range of areas from the National Museums of Wales and historic films to male voice choirs, port cities, and political women and family life.

One of the major ambitions for the Cardiff Centre for Welsh History is to develop connections with organisations beyond the University. Historians of nineteenth- and twentieth-century Wales have long believed in the power of history to connect people to their own heritage. In Cardiff, historians working across all time periods have a deep commitment to both sharing their expertise and co-producing research with communities and public bodies. Welsh historians advise Welsh Government on curriculum reform, offer talks to local history societies, work with museums, appear in landmark documentaries, and write historical novels. The Centre will provide a focus for such activities.

At the launch event academics, students and those working in the archives and heritage sectors debated the role of universities in working with the public. This led to a conversation about the position of Welsh history in public life and how students and academics should share their research findings through different mediums. National histories can easily be claimed for political ends, and the challenge for historians and heritage professionals is to keep producing quality research that shows the richness and diversity of Welsh history. We hope that the Cardiff Centre for Welsh History through its research, its work with external partners and its community of postgraduate students will be a key part of this evolving conversation.

For further information about the Cardiff Centre for Welsh History please visit here.

Lansiad Canolfan Hanes Cymru Caerdydd

Mae gan Adran Hanes Prifysgol Caerdydd hanes hir fel canolfan bwysig ar gyfer ymchwilio i hanes Cymru. Ac yn wir, am gyfnod bu adran arbennig Hanes Cymru. Rydym wedi tystio nifer o haneswyr blaenllaw Cymru yn troedio ein coridorau – yn ddarlithwyr ac yn fyfyrwyr. Yn ogystal ag ymchwilio i hanes cyfoethog Cymru, mae sawl un o’r haneswyr hyn wedi ymgiprys â natur yr hanes hwnnw trwy holi cwestiynau pryfoclyd megis ‘When was Wales?’ (chwedl Gwyn Alf Williams, un o’n cyn-ddarlithwyr). Yn adeiladu ar yr etifeddiaeth hwn, mae hanes Cymru yn parhau yn rhan bwysig o’n gwaith yng Nghaerdydd, ac yn ddewis poblogaidd ar gyfer traethodau hir ein myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig.

I adran hanes sydd â chysylltiadau mor agos â maes hanes Cymru, ac un sydd wedi ei lleoli ym mhrif ddinas y wlad, datblygiad pwysig eleni oedd sefydlu canolfan ymchwil newydd i feithrin arbenigedd a datblygu cysylltiadau gyda’r gymuned ehangach. Lansiwyd Canolfan Hanes Cymru ar 28 Mehefin mewn digwyddiad a fynychwyd gan gydweithwyr, myfyrwyr, llyfrgellwyr, archifwyr, arbenigwyr ym maes treftadaeth, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

Wrth wraidd Canolfan Hanes Cymru Caerdydd mae grŵp bywiog o ysgolheigion sy’n ymroddedig i ymchwil newydd a chwyldroadol i hanesion Cymru a’r Cymry. Llwyddodd y digwyddiad lansio i arddangos ystod y diddordeb yn hanes Cymru, gyda sgyrsiau gan academyddion a myfyrwyr adrannau amrywiol ar draws y brifysgol. Yn yr adran hanes, mae ein diddordebau ymchwil yn cynnwys hunaniaethau yn yr Oesoedd Canol, rhwydweithiau gwleidyddol yn y cyfnod modern cynnar, iaith a radicaliaeth gwleidyddol yn y ddeunawfed ganrif a sosialaeth Gymraeg ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ogystal â chodi cwestiynau ynghylch hunaniaeth a gwleidyddiaeth y Cymry, mae gan ein haneswyr ddiddordeb mewn hanes rhywedd, hanesion amgylcheddol, a threftadaeth. Golyga hanes Cymru hefyd edrych y tu hwnt i’r wlad ei hun, ac mae diddordeb hir gan yr adran mewn cymunedau Cymraeg a Chymreig yn America, Awstralia a China.

Centre launch

Ymestynna ddiddordeb mewn hanes Cymru yng Nghaerdydd tu hwnt i’r adran hanes. Ymchwilia archaeolegwyr i wrthdaro a chyd-fyw yn y Mers, tra bod ysgolheigion Astudiaethau Crefyddol yn archwilio hanesion Moslemiaid yng Nghymru. Mae gwaith yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru yn ymwneud â hanesion cenedlaetholdeb gwleidyddol, wrth i ysgolheigion yn yr Ysgol Fusnes ymchwilio i hanes economaidd Cymru. Draw yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mae ddatgoloneiddio hanes Cymru yn ddiddordeb arbennig. Mae ysgolheigion yn y meysydd amrywiol hyn yn ymchwilio i orffennol Cymru oherwydd ei bod yn eu caniatáu i ateb cwestiynau’r presennol am fywyd gwleidyddol, etifeddiaeth Ymerodraeth, a siapio cymdeithas gyfoes ym Mhrydain.

Centre launch

 

Mae ein myfyrwyr ôl-radd yn ffurfio cymuned amrywiol o ysgolheigion yn gweithio ar draws y meysydd hyn. Yn ystod lansiad y Ganolfan, roedd cyfle iddynt rannu eu hymchwil. Roedd pynciau yn cynnwys Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, ffilmiau hanesyddol, corau meibion, dinasoedd porthladd, menywod gwleidyddol a bywyd teuluol.

Un o brif uchelgeisiau Canolfan Hanes Cymru yw i ddatblygu cysylltiadau gyda sefydliadau tu hwnt i’r brifysgol. Mae haneswyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed wedi hir gredu yng ngallu hanes i gysylltu pobl â’u treftadaeth. Yng Nghaerdydd, mae gan haneswyr sy’n gweithio ar draws pob cyfnod ymrwymiad cryf i rannu eu harbenigedd a chyd-greu ymchwil gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus. Mae haneswyr Cymru yn cynghori Llywodraeth Cymru ar diwygiadau i’r cwricwlwm, yn cynnig sgyrsiau i gymdeithasu hanes lleol, yn gweithio gydag amgueddfeydd, yn ymddangos mewn rhaglenni dogfen pwysig, ac yn ysgrifennu nofelau hanesyddol. Bydd y Ganolfan yn cynnig canolbwynt i’r weithgarwch hon.

Yn ystod y digwyddiad lansio, cafwyd drafodaeth frwd (ymysg academyddion, myfyrwyr, archifwyr ac arbenigwyr treftadaeth) ynghylch rôl prifysgolion wrth weithio gyda’r cyhoedd. Arweiniodd hyn at sgwrs am le hanes Cymru ym mywyd cyhoeddus a sut y gallai myfyrwyr ac academyddion fynd ati i rannu eu hymchwil trwy gyfryngau gwahanol. Hawdd yw hawlio hanesion cenedlaethol at ddibenion gwleidyddol, a’r her i haneswyr ac arbenigwyr treftadaeth yw i barhau i gynhyrchu ymchwil o safion uchel sy’n dangos cyfoeth ac amrywiaeth hanes Cymru. Yr ydym yn gobeithio y bydd Canolfan Hanes Cymru, trwy ei ymchwil, ei gwaith gyda phartneriaid allanol a thrwy ei chymuned o fyfyrwyr ôl-radd, yn parhau yn rhan bwysig o’r sgwrs hon.

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am Ganolfan Hanes Cymru yma.