Mapio curiad creadigol Cymru: y daith tuag at Atlas Economi Greadigol Cymru
29 Ebrill 2026
Pan gychwynnom ni i “fapio” economi greadigol Cymru gyntaf, nid oedd un lle penodol i ddod o hyd i ddata. Gan fod y diwydiannau creadigol yn rhychwantu gwahanol godau dosbarthu, cwmnïau hybrid a gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau gyda chyfran uchel o hunangyflogaeth, nid oes un set ddata weinyddol sy’n dal y darlun cyfan ac mae hyd yn oed diffiniadau’n amrywio ar draws fframweithiau . Mae gan amrywiol sefydliadau setiau data gwerthfawr, ond mae pob un yn cwmpasu gwahanol ddarnau o’r ecosystem sydd angen eu pwytho at ei gilydd o hyd. Mae’r cymhlethdod hwn yn fater byd-eang, ac nid yn broblem yng Nghymru yn unig. Sbardunodd yr her honno daith aml-flwyddyn yng Nghanolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, un a ddechreuodd gyda’n gwaith mapio cynharaf ac sydd wedi datblygu i fod yn Atlas Economi Greadigol rhyngweithiol cenedlaethol Cymru heddiw .
Lle dechreuon ni
Ein man cychwyn oedd Caerdydd: Cyfalaf Creadigol – Mapio Economi Greadigol Caerdydd (2017) , yr ymgais gyntaf i fapio ôl troed creadigol y ddinas mewn ffordd systematig a hygyrch. Cefnogwyd yr adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ac roedd yn proffilio cwmnïau, gweithwyr llawrydd, a mannau poblogaidd, ac yn cadarnhau’r hyn a deimlai llawer: roedd creadigrwydd yn ganolog i’r economi leol, ond roedd tystiolaeth yn wasgaredig ac yn anodd gweithredu arni. Gosododd yr adroddiad hwnnw’r sylfeini methodolegol ar gyfer popeth a ddilynodd.
Prototeipio atlas yn Clwstwr
Daeth y cam nesaf ymlaen gyda Clwstwr (2018–2023) , y rhaglen Ymchwil a Datblygu a ariannwyd gan AHRC ar gyfer y sector sgrin yn Ne Cymru. O fewn Clwstwr fe wnaethom greu prototeip cyntaf o atlas cenedlaethol: map ar-lein a ddechreuodd haenu cwmnïau, mannau a phrosiectau i ddangos sut mae gweithgareddau’n clystyru ledled Cymru. Profodd y prototeip y cysyniad a datgelu lle roedd angen mwy o fanylder, gwell sylw, a golwg ehangach ar yr economi greadigol arnom.
O brototeip i blatfform hygyrch yn Media Cymru
Yn 2023 – 2024, fe wnaethom ehangu ac ail-greu’r offeryn – y tro hwn gan gynnwys mwy o ddata a mwy o nodweddion – gan weithio gyda Cymru Greadigol (Llywodraeth Cymru) ac o fewn rhaglen ymchwil, datblygu ac arloesi Media Cymru . Y canlyniad yw Atlas Economi Greadigol Cymru cyfredol, a reolir gan y Ganolfan. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer ymchwilwyr, llunwyr polisïau, busnesau a gweithwyr llawrydd fel ei gilydd – gan ddarparu adnodd i unrhyw un sydd angen darlun clir, hawdd ei lywio o ecosystem creadigol Cymru. Mae ymgysylltiad â’n hofferyn wedi bod yn gyson ac ar gais, ac rydym wedi rhannu’r Atlas mewn cynadleddau diwydiant ac academaidd lle mae wedi cael derbyniad cadarnhaol.
Beth mae’r Atlas yn gadael i chi ei wneud
Mae’r Atlas yn eich galluogi chi i archwilio naw sector creadigol a naw math o fannau creadigol, ochr yn ochr â rhwydweithiau/gweithwyr llawrydd, prosiectau arloesi a chyllido (Clwstwr a Media Cymru), a chyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Yn hollbwysig, gallwch chi edrych ar lefel genedlaethol, lefel cod post, neu lefel awdurdodau lleol i weld ble mae gweithgarwch yn canolbwyntio a ble gallai bylchau fodoli. Mae’n offeryn dadansoddol ac ymarferol: defnyddiwch ef i ddod o hyd i fannau cydweithio neu ymarfer, darganfod clystyrau, neu sganio’r broses o ddatblygu prosiectau ymchwil a datblygu.
Dechrau yma: Archwilio’r Atlas
O dan y cwfl, mae’r Atlas yn casglu setiau data lluosog. Mae mewnwelediadau ar lefel cwmnïau yn defnyddio ficroddata Bureau van Dijk / Tŷ’r Cwmnïau (trwy godau SIC), gyda’r opsiwn i weld diffiniadau sectorau gwahanol (DCMS, Cymru Greadigol, a Media Cymru) fel y gall defnyddwyr gymharu safbwyntiau. Y tu hwnt i fusnesau, mae setiau data yn cynnwys mannau Caerdydd Creadigol, aelodau Caerdydd Creadigol (optio i mewn), Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru (optio i mewn), prosiectau Clwstwr a Media Cymru, a hyfforddiant wedi’i fapio gan Brifysgol De Cymru. Drwy gyfuno setiau data cenedlaethol â phwyntiau data o ffynonellau lleol, mae’r Atlas yn cynnig darlun cyflawn o economi greadigol Cymru gan gofnodi nid yn unig y prif dueddiadau ond hefyd y mannau, y rhwydweithiau a’r gweithwyr llawrydd sydd fel arfer yn llithro drwy’r rhwyd yng nghyswllt ystadegau cenedlaethol. Rydym yn dogfennu ffynonellau’n agored ar dudalen Ffynonellau Data’r wefan. Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu amryw o nodweddion hygyrchedd, sy’n helpu pawb i gael mynediad at ein data.
Offeryn wedi’i siapio drwy ailadrodd (a defnyddwyr)
O’r diwrnod cyntaf, fe wnaethom greu’r Atlas fel adnodd byw. Mae’r rhyngwyneb yn cefnogi hidlyddion (e.e., sector, math o ofod, cyllidwr a blwyddyn prosiectau), a throshaenau i helpu i roi cyd-destun i weithgarwch creadigol. Daeth y nodweddion hyn i’r amlwg yn uniongyrchol o weithdai a phrofion defnyddwyr: roedd ymchwilwyr eisiau cwestiynu tueddiadau’r sector; gofynnodd awdurdodau lleol am haenau hyfforddiant a seilwaith; roedd angen ffordd syml ar weithwyr llawrydd i ddod o hyd i leoedd a rhwydweithiau.
Un o’r prif nodau yw torri seilos data a gwneud mewnwelediadau’n ddefnyddiadwy i gynulleidfa eang: o ddarpar fuddsoddwyr i bobl greadigol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd sy’n dewis ble i leoli eu hunain. Dyna hefyd pam mae’r Atlas ar gael i’r cyhoedd ac yn cael ei wella’n barhaus gyda mewnbwn gan bartneriaid.
Pam fod hyn yn bwysig nawr
Mae economi greadigol Cymru yn ddeinamig ac yn ddosbarthedig, gan gwmpasu micro-gwmnïau, gweithwyr llawrydd, a gwe o rhaglenni a mannau. Heb sylfaen dystiolaeth a rennir, mae’n anodd gweld clystyrau, nodi “mannau gwan” neu alinio buddsoddiad mewn sgiliau a seilwaith. Mae’r Atlas yn ymateb i’r angen hwnnw: mae’n amlygu ehangder gweithgaredd ac yn ei gwneud yn ymarferol – ar gyfer dylunio polisïau, datblygu rhanbarthol, penderfyniadau busnes, cynllunio sgiliau ac eiriolaeth dros y sector.
Beth nesaf a sut i gymryd rhan
Wrth i Gymru, y DU a, fwyfwy, partneriaid byd-eang adeiladu darlun cliriach o’r economi greadigol, mae un peth yn gyson: mae data gwell yn arwain at ganlyniadau gwell.
Mae ein gwahoddiad yn syml:
- llunwyr polisïau – defnyddiwch yr Atlas i dargedu buddsoddiad, profi rhagdybiaethau ac olrhain newid;
- ymchwilwyr a dadansoddwyr – dewch â’ch setiau data a’ch cwestiynau fel y gallwn barhau i hyrwyddo delweddu tryloyw, sy’n seiliedig ar le;
- ymarferwyr a chymunedau – dywedwch wrthym beth sydd ar goll a beth fyddai o gymorth i chi nesaf.
Bydd ein data Atlas yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol a than hynny rydym yn eich gwahodd i archwilio, beirniadu a chydweithio fel bod yr Atlas yn datblygu gyda (ac ar gyfer) y sector.
Os ydych chi am gyfrannu set ddata, tynnu sylw at hepgoriad, neu drafod haenau newydd, cysylltwch â’r tîm yn [email protected] .
