Skip to main content

Caerdydd Creadigol

Degawd o arloesi creadigol: Sut mae Caerdydd Creadigol yn llunio dyfodol creadigol y rhanbarth

12 Mawrth 2026

Yn ddiweddar, mae Caerdydd Creadigol wedi dathlu deng mlynedd o gysylltu a hyrwyddo cymuned greadigol y rhanbarth, felly rydyn ni’n manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y syniadau, y partneriaethau a’r arloesi sydd wedi siapio’r daith hon hyd yn hyn. Yn rhan o Ganolfan yr Economi Greadigol, mae ein gwaith wedi’i seilio ar gydweithrediad rhwng ymchwilwyr, pobl greadigol a byd diwydiant. Gyda thema Caerdydd Creadigol mis Mawrth yn canolbwyntio ar ‘Hyrwyddo’ch hun a’ch gwaith’, mae’n teimlo’n amserol i dynnu sylw at sut mae ein gwaith wedi amlygu lleisiau, cefnogi arloesedd a chryfhau gwead creadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Fframweithiau arloesol i gynorthwyo clystyrau creadigol rhanbarthol  

Yn Caerdydd Creadigol, credwn fod sector creadigol cysylltiedig yn un sy’n fwy arloesol a gwydn. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi cynorthwyo prosiectau sy’n cysylltu ymchwilwyr, pobl greadigol a chymunedau i arbrofi, profi ac ailddychmygu beth sy’n bosibl yn economi greadigol de-ddwyrain Cymru.

Roedd Menter Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (CICH) (Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024) yn brosiect peilot gwerth £200,000 o dan arweiniad Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd drwy rwydwaith Caerdydd Creadigol. Roedd y prosiect, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.6 miliwn ledled y DU mewn prosiectau “Arddangoswr”. Cynlluniwyd y prosiect i edrych ar sut y gallai clystyrau creadigol presennol dyfu, denu buddsoddiad a chael effaith.

Drwy CICH, chwaraeodd Caerdydd Creadigol rôl allweddol wrth ehangu clwstwr creadigol Caerdydd drwy weithgaredd rhanbarthol ehangach. Gwnaethpwyd hyn drwy ddod â busnesau creadigol lleol, ymchwilwyr ac awdurdodau lleol ynghyd yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf i rannu’r hyn a ddysgir ac amlygu potensial y diwydiannau creadigol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Atgyfnerthodd y gwaith hwn statws a photensial Caerdydd a’r rhanbarth yn y dyfodol fel canolfan ar gyfer arloesedd creadigol yng Nghymru.

Cafodd y cynllun peilot gryn effaith, gan gynhyrchu refeniw newydd, swyddi a chysylltiadau creadigol ar draws y rhanbarth. Fel y myfyriodd Jess Mahoney, cyn-Bennaeth Caerdydd Creadigol, Prif Swyddog Gweithredol presennol Sefydliad Cyfarthfa ac awdur yr adroddiad, dangosodd y gwaith faint o botensial sydd y tu hwnt i’r brifddinas wrth gynorthwyo pobl a lleoedd creadigol mewn modd ystyrlon:

Wrth i glwstwr creadigol Caerdydd dyfu o ran maint ac enwogrwydd, daw’n gynyddol bwysig ein bod yn harneisio’r cyfoeth o dalent eginol ledled y rhanbarth ehangach i fanteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, cynnull cymunedau newydd a chreu lleoedd creadigol llewyrchus a chynrychioliadol newydd. Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn gam cyntaf tuag at gyflawni hyn.

I ddangos pa mor eang yw’r gwaith a’r cymunedau dan sylw, dyma rai o’r astudiaethau achos sydd wedi’u datblygu drwy’r rhaglen.

 

Cysylltu’r Dotiau a mapio’r ecosystem: Deall gwerth rhwydweithiau creadigol 

Roedd ein prosiect ymchwil Cysylltu’r Dotiau yn 2021 yn ceisio deall sut mae rhwydweithiau creadigol fel Caerdydd Creadigol yn cynhyrchu gwerth, yn economaidd ac yn gymdeithasol.  Gan ganolbwyntio ar gydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd, llunwyr polisïau a’r cyhoedd i greu newid (y model helics pedrwbl), datgelodd y canfyddiadau rôl rhwydweithiau creadigol, sy’n aml yn cael ei hanwybyddu, wrth gryfhau ecosystemau ac economïau lleol. Mewn hinsawdd economaidd heriol, helpodd y gwaith hwn i amlygu manteision diriaethol ac anniriaethol cydweithio creadigol, o wybodaeth ac adnoddau a rennir i arloesedd a lles. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Mae datblygu Atlas Economi Greadigol Cymru wedi bod yn garreg filltir bwysig arall o ran deall tirwedd greadigol Cymru. Gan adeiladu ar brototeip cynharach Clwstwr, datblygwyd yr Atlas ar ei newydd wedd gan Ganolfan yr Economi Greadigol gyda chymorth Cymru Greadigol a rhaglenni Clwstwr a Media Cymru.

Mae’r Atlas yn rhoi darlun daearyddol cynhwysfawr o ecosystem greadigol Cymru. Mae’n mapio naw sector creadigol, naw math o ofod creadigol, ac amrywiaeth o rwydweithiau ledled Cymru. Mae’r map rhyngweithiol yn caniatáu i ddefnyddwyr weld pa weithgareddau creadigol a gynhelir o lefel leol i lefel genedlaethol, gan olygu bod data ar gael i bawb ac yn datgelu prif leoliad egni creadigol. Mae ymchwilwyr yn disgrifio’r Atlas fel yr un mwyaf cynhwysfawr o’i fath yn y DU, ac yn offeryn a fydd yn parhau i esblygu wrth gael rhagor o ddata a dealltwriaeth.

Creu mannau a chyfleoedd i artistiaid 

Mae Caerdydd Creadigol wedi ymrwymo i greu cyfleoedd ystyrlon i’r gymuned greadigol dyfu. Mae llawer o’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl greadigol sydd wedi’u tangynrychioli a chreu mannau lle gall lleisiau newydd ffynnu. Trwy DIVERGE, gofod cydweithio a rhwydweithio ar gyfer pobl greadigol niwrowahanol, a’n partneriaeth â chwmni cynhyrchu celfyddydol Lone Worlds (a ddechreuodd gyda GORWEL ac sy’n parhau eleni gyda Cwîr: Cymuned Greadigol) rydyn ni wedi helpu i ddatblygu mannau cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth ledled y ddinas. Er bod DIVERGE yn cynnig amgylchedd pwrpasol i bobl greadigol niwrowahanol gysylltu, cydweithio a chreu, mae Cwîr yn adeiladu ar sylfeini GORWEL i gofleidio cymuned LHDTC+ ehangach drwy ddigwyddiadau, sesiynau rhannu sgiliau a gweithdai sy’n dathlu creadigrwydd cwîr ac sy’n meithrin cysylltiadau, dysgu a gwelededd.

Ochr yn ochr â’r prosiectau hyn, mae AMDANI, ein gweithdai ysgrifennu a gyflwynir ar y cyd â myfyrwyr o gwrs MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd, yn cynnig lle i awduron sy’n dod i’r amlwg arbrofi a magu hyder. Mae ein partneriaeth â Hypha Studios hefyd wedi trawsnewid dwy uned fanwerthu wag ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd yn fannau creadigol dros dro, dewiswyd Future Arts Collective Cymru a PWSH a Neurospicy Play Date i ddefnyddio’r unedau, gan gynnig lle ar gyfer cynhyrchu, arddangos ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Drwy Gwyrddio Cathays, gwnaethom edrych ar sut y gall ymarfer creadigol ysgogi ymwybyddiaeth a lles amgylcheddol, mewn partneriaeth â phrosiect Pharmabees Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd a gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Fe wnaethom gomisiynu saith artist i ddatblygu gwaith wedi’i ysbrydoli gan natur, peillio a chymuned, gan gyfrannu at y sgwrs ehangach am rôl y diwydiannau creadigol wrth adeiladu dyfodol gwyrddach a thecach.

Yn fwyaf diweddar, mae Caerdydd Creadigol wedi cyflwyno Fforwm Cymunedol newydd. Mae hyn yn cynnwys grŵp o bobl greadigol o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a fydd yn helpu i lunio’r hyn sydd nesaf i’r rhwydwaith. Bydd y fforwm yn chwarae rhan allweddol wrth ymhelaethu ar leisiau lleol, llywio ein rhaglenni a sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau’r gymuned greadigol.

Edrych tua’r dyfodol: Dyfodol cysylltiedig, creadigol 

Yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf o ddegawd cyntaf Caerdydd Creadigol yw pŵer cysylltiad. Y ffordd y mae syniadau’n tyfu pan fydd pobl (a chacen a chaffein) yn dod at ei gilydd i gydweithio, cwestiynu ac arbrofi. Fel rhan o Ganolfan yr Economi Greadigol o fewn Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC), rydyn ni wedi’n lleoli mewn ecosystem unigryw lle gall ymchwilwyr, partneriaid diwydiant ac ymarferwyr creadigol edrych ar bosibiliadau newydd ochr yn ochr. Mae’r amgylchedd hwn yn ein galluogi i barhau i hyrwyddo arloesedd ar draws y rhanbarth, cefnogi talent greadigol a llywio sgyrsiau am ddyfodol economi greadigol Cymru.

Wrth i ni gamu i’n pennod nesaf, rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau’r rhwydweithiau, y mannau a’r cyfleoedd sy’n helpu creadigrwydd i ffynnu ymhellach. Trwy ein Fforwm Cymunedol newydd, gan lansio prosiect newydd ‘Creadigrwydd yn Creu Cyfleoedd’ i gefnogi sgiliau busnes o fewn y gymuned greadigol, a’n prosiectau parhaus, rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu dyfodol creadigol sy’n gynhwysol, teg, gwyrdd, ac wedi’i wreiddio yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith.

Ysgrifennwyd gan John Evans, Caerdydd Creadigol (Digwyddiadau a Gweithrediadau)