Skip to main content

Cyhoeddiadauffrwd

Rwy’n ceisio achub fy nheulu: Profiadau rhieni o gamfanteisio’n droseddol ar blant

17 Chwefror 2023

Maxwell, N. (2022). Rwy’n ceisio achub fy nheulu: Profiadau rhieni o gamfanteisio’n droseddol ar blant. Youth Justice.

Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau cyfweliadau gyda rhieni sydd â phrofiad byw o fagu plentyn sydd wedi profi camfanteisio troseddol.

Cefndir

Mae’r canfyddiadau’n deillio o brosiect ymchwil mwy a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ei nod yw gwella ymatebion gan wasanaethau ac yn y gymuned i blant sydd wedi profi camfanteisio troseddol sy’n gysylltiedig â delio cyffuriau.

Negeseuon allweddol

Roedd arwyddion rhybudd cynnar, megis newidiadau ymddygiad, ymddieithrio o’r ysgol a phlant yn diflannu’n aml yn cael eu rhesymoli mewn ymateb i amgylchiadau teuluol neu ddatblygiad arferol yn yr arddegau.

Roedd peidio â gwybod ble roedd y plentyn, achosion cynyddol o fynd ar goll, ac ymddieithrio oddi wrth y teulu wedi ysgogi rhieni i ofyn am help.

Amlygodd y canfyddiadau hyn fod angen cynnwys rhieni wrth ddatblygu ymatebion addas ar lefelau unigol, lleol a chenedlaethol.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r papur ymchwil llawn.


Sylwadau

Gadewch ateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u marcio *