Skip to main content

Post gwadd

Plant sydd mewn perygl o gael eu dal mewn trosedd – pam na wnawn ni ddweud wrthyn nhw?

11 Ionawr 2024

Post gwadd gan Dr Kathy Hampson

Yng Nghymru a Lloegr, gall plant gael eu herlyn am eu gweithredoedd o 10 oed ymlaen (a elwir yn dod yn ‘droseddol gyfrifol’). Mae materion eraill yn codi gyda hyn (am fwy o drafod a pham bod galwadau cyson am gynyddu oedran, gweler trafodaeth Harriet Pierpoint), ond un o’r agweddau mwyaf gwarthus yw nad ydym yn dweud wrthynt yn aml!

Meddyliwch yn ôl i’r adeg pan oeddech chi yn yr ysgol gynradd (ble yr oeddech pan oeddech chi’n troi’n 10) – faint o addysg gyfreithiol gawsoch chi? Mae arolygon barn o fy myfyrwyr cyfiawnder ieuenctid wedi dangos na chafodd y rhan fwyaf ohonynt erioed unrhyw addysg gyfreithiol tra yn yr ysgol gynradd (ee, 83% ym modiwl 2022).

Mae’n ymddangos nad yw plant heddiw dal yn cael eu haddysgu am y newidiadau sy’n digwydd pan fyddant yn dod yn droseddol gyfrifol (a materion cysylltiedig fel eu hawliau mewn mannau cyfiawnder troseddol) ac eto mae ffigurau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 8000 o blant y flwyddyn yn cael eu llusgo o’r newydd i’r system cyfiawnder troseddol oherwydd rhywbeth y maent wedi’i wneud.

Prosiect ‘Addysg gyfreithiol mewn ysgolion cynradd’

Yn y prosiect hwn, roeddwn am ganfod yn fwy ffurfiol a oedd plant (yn benodol ar gyfer y prosiect hwn, yng Nghymru) yn cael unrhyw addysg gyfreithiol yn yr ysgol gynradd, ac os oeddent, beth oedd ei gynnwys.

Fe wnaethom greu holiadur, a ddosbarthwyd trwy’r Cyfarwyddwyr Addysg i bob ysgol gynradd yng Nghymru. Yn anffodus, roedd hyn yn cyd-daro â gweithredu diwydiannol (yn dal i fynd rhagddo ar adeg ysgrifennu) a oedd yn cynnwys peidio ag ymateb i arolygon allanol! Distrywiodd hyn y cyfraddau ymateb, gan arwain at 32 yn unig hyd yn hyn (rydym yn bwriadu ail-redeg yr arolwg unwaith y bydd gweithredu diwydiannol wedi dod i ben). Fodd bynnag, er gwaethaf y cafeatau nad yw’r gyfradd ymateb hon efallai wedi rhoi i ganlyniadau cynrychioliadol o holl ysgolion cynradd Cymru, mae rhai canlyniadau diddorol wedi dechrau dod i’r amlwg.

Canfuom fod hanner yr ysgolion yn darparu rhyw fath o fewnbwn cyfreithiol (felly, nid yw hanner yn gwneud hynny!), ond bod yr holl ddarpariaeth gan swyddogion heddlu cymunedol ysgolion trwy brosiect ‘SchoolBeat Cymru‘. Mae rhaglen ddatganedig SchoolBeat Cymru yn cynnwys defnyddio sylweddau (cyffuriau/alcohol), ymddygiad gwrthgymdeithasol (a phroblemau eraill), a diogelwch personol. Fodd bynnag, NID yw’n ymdrin ag unrhyw beth sy’n ymwneud â hawliau plant mewn mannau cyfiawnder troseddol, na’r hyn y mae cyfrifoldeb troseddol yn ei olygu mewn gwirionedd. Y prif gynnwys a addysgwyd trwy SchoolBeat Cymru (yn ôl yr athrawon a ymatebodd yn ein harolwg) oedd canlyniadau torri’r gyfraith, beth sy’n anghyfreithlon a pha oedran y mae plentyn yn dod yn droseddol gyfrifol. Dim ond hanner a nododd gynnwys yn ymwneud â’r hyn y mae cyfrifoldeb troseddol yn ei olygu, a dim ond un oedd yn cynnwys unrhyw beth ar hawliau plant yn y maes hwn. Mae’n ymddangos bod yr ysgolion hynny sy’n nodi’n benodol eu bod yn Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn addysgu plant am hawliau (yn ôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn), ond nid hawliau penodol mewn cyd-destun cyfreithiol neu droseddol (a nodwyd gan athrawon mewn ysgolion o’r fath fel bwlch) , a allai gwmpasu agweddau fel hawliau arestio neu stopio a chwilio. Mae hyn hefyd o fewn cyd-destun dim ond hanner yr ysgolion cynradd a ymatebodd gan gynnwys unrhyw beth ar hyn o gwbl!

 

Er y gallai SchoolBeat Cymru fod yn ymgais ganmoladwy gan yr heddlu i helpu plant i werthfawrogi eu cyfrifoldebau, mae’r ffaith ei fod yn anwybyddu hawliau plant o dan y gyfraith yn gyfangwbl yn ymddangos yn gamgymeriad truenus. Mae’r cynnwys yn sôn am agenda sy’n cael ei harwain gan yr heddlu ac mae’n ymddangos ei fod yn cael ei gymhwyso’n anghyson iawn, o ran cynnwys ac a yw’n cael ei gyflwyno o gwbl. Dywedodd athrawon yn yr ymchwil hwn ac yn flaenorol (gweler Stead et al., 2011), nad ydynt yn teimlo’n hyderus i gyflwyno’r math hwn o gynnwys, ac yn wir pam y dylent pan nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant (ni nododd rhai athrawon a ymatebodd yr oedran cywir y mae plant yn dod yn droseddol gyfrifol, gan ddangos y bwlch gwybodaeth hwn)? Cytunodd yr athrawon a ymatebodd yn unfrydol y dylid addysgu’r pethau hyn i blant, a chyn iddynt ddod yn droseddol gyfrifol, ond dywedodd llai na hanner fod unrhyw gynlluniau i wneud hynny. Rhan o’r anhawster yw cwricwlwm gorlawn sy’n achosi cwestiynau ynghylch a oes capasiti ar gyfer mwy. Fodd bynnag, roedd yn destun pryder bod athrawon a ymatebodd i’w gweld yn gweld y cynnwys hwn fel ymateb i broblemau (mae’r heddlu yn ‘cyffwrdd â’r pwnc pan fo’r angen wedi codi’), sy’n ffordd braidd yn adweithiol o weld gwybodaeth a dealltwriaeth (o’r gyfraith a hawliau cymesur), sydd yn sicr yn angen cyffredinol?

Yn amlwg, o fewn yr ymchwil hwn, mae angen inni gael darlun mwy cyflawn o’r sefyllfa ledled Cymru ac o ystyried mai un awdurdodaeth gyfreithiol yw Cymru a Lloegr ar hyn o bryd, yn ddelfrydol dylai ymchwiliadau ehangu i gwmpasu’r ddwy wlad (mae Lloegr y tu hwnt i gyrraedd SchoolBeat Cymru, sydd fel mae’r enw’n awgrymu, yn fenter Gymreig yn unig). Ond mae’n ymddangos bod y canfyddiadau cychwynnol hyn yn awgrymu, er bod yr heddlu wedi bod yn rhagweithiol yn y maes hwn, efallai nad nhw yw’r darparwyr gorau (er mai nhw yw’r unig ddarparwyr ar hyn o bryd), gyda bylchau mewn cynnwys yn codi ynghylch hawliau plant. Mae arnom angen ymagwedd at addysg gyfreithiol mewn ysgolion cynradd sy’n gweld hwn fel angen cyffredinol, y gellir ei gyflawni cyn i blant ddod yn droseddol gyfrifol, gan eu hysbysu nid yn unig o’u cyfrifoldebau ond hefyd eu hawliau mewn mannau cyfreithiol a throseddol. Mae gwneud dim llai yn golygu gadael plant heb ddigon o amddiffyniad ac yn or-gyfrifol.

Cyfeirnodau

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2023) Ystadegau Cyfiawnder Ieuenctid 2021/22. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar gael ar-lein yn https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1131414/Youth_Justice_Statistics_2021-22.pdf (cyrchwyd 12 Gorffennaf, 2023)

Pierpoint H. (2020) Age of Criminal Responsibility. Yr Academi Brydeinig. Ar gael ar-lein yn https://medium.com/reframing-childhood-past-and-present/age-of-criminal-responsibility-1e7714db9c1c (cyrchwyd 12 Gorffennaf, 2023)

Stead J., Lloyd G., Baird A., Brown J., Riddell S., Weedon E. a Laugharne J. (2011) Adroddiad Gwerthuso Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (AWSLCP). Ar gael ar-lein yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-08/110314-all-wales-school-liaison-core-programme-cy.pdf (cyrchwyd 12 Gorffennaf , 2023)

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig (1989) ar Hawliau’r Plentyn. Ar gael ar-lein yn https://www.ohchr.org/en/instruments-mechanisms/instruments/convention-rights-child (cyrchwyd 12 Gorffennaf, 2023)