{"id":851,"date":"2025-02-05T10:58:46","date_gmt":"2025-02-05T10:58:46","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=851"},"modified":"2025-02-05T12:26:09","modified_gmt":"2025-02-05T12:26:09","slug":"llythrennedd-iechyd-meddwl-101-a-yw-hin-iawn-i-beidio-a-bod-yn-iawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/llythrennedd-iechyd-meddwl-101-a-yw-hin-iawn-i-beidio-a-bod-yn-iawn\/","title":{"rendered":"Llythrennedd iechyd meddwl 101: A yw hi\u2019n iawn i beidio \u00e2 bod yn iawn?"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae Kathleen Rachel, a aeth i Ysgol Haf 2024, yn trin a thrafod pwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl ac mae\u2019n esbonio beth mae deall ein lles meddyliol a\u2019i reoli yn ei olygu. <\/em><\/p>\n<p><em>Gan gyfeirio at ei phrofiadau yn tyfu yn Indonesia, lle nad oedd iechyd meddwl yn cael ei drafod yn aml, mae Kathleen yn defnyddio&#8217;r Pyramid Llythrennedd Iechyd Meddwl i egluro&#8217;r gwahaniaethau rhwng straen, heriau iechyd meddwl ac anhwylderau. <\/em><\/p>\n<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn canolbwyntio ar gael gwared ar stigma a meithrin ymwybyddiaeth, a\u2019i nod yw cynnig arweiniad ar sut i gofleidio a chynorthwyo iechyd meddwl mewn bywyd bob dydd.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Sgyrsiau am iechyd meddwl yn Indonesia<\/strong><\/p>\n<p>Ers pandemig COVID-19, mae&#8217;r ymadrodd \u201cMae&#8217;n iawn i beidio \u00e2 bod yn iawn\u201d wedi cael cryn sylw, yn rhannol oherwydd y ddrama o Corea \u2018It\u2019s okay not to be okay\u201d. A minnau\u2019n dod o Indonesia, lle nad yw materion iechyd meddwl yn cael sylw amlwg yn y cyfryngau, roedd gan y gyfres deledu hon arwyddoc\u00e2d diwylliannol yn ystod y cyfnod clo, gan sbarduno sgyrsiau mawr eu hangen am iechyd meddwl. Ond beth yw cofleidio &#8216;peidio \u00e2 bod yn iawn&#8217; mewn gwirionedd? Os yw&#8217;n dderbyniol profi emosiynau anodd, pam mae anhwylderau meddyliol hyd yn oed yn bodoli? Ac a oes achosion o &#8216;beidio \u00e2 bod yn iawn&#8217; y mae wir angen rhoi sylw iddynt ar unwaith?<\/p>\n<p>Er bod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl wedi cynyddu, nid tasg hawdd bob amser yw gwahaniaethu rhwng straen bob dydd a materion iechyd meddwl mwy difrifol. Ydyn ni mewn sefyllfa i ddeall iechyd meddwl? A yw bod yn iach yn feddyliol yn gyfystyr \u00e2 bod yn hapus neu beidio \u00e2 bod o dan straen? Nod y blog hwn yw mynd i&#8217;r afael \u00e2\u2019r cwestiynau hyn a rhoi dealltwriaeth o bwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Nid tasg hawdd yw bod yn eich arddegau! Mae\u2019n gyfnod o newidiadau sylweddol &#8211; corfforol, meddyliol a chymdeithasol &#8211; a gall y rhain ddylanwadu&#8217;n sylweddol ar iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl yn cwmpasu sut rydyn ni&#8217;n teimlo, yn meddwl ac yn cysylltu ag eraill. Nid yw iechyd meddwl da yn golygu bod yn hapus drwy\u2019r amser neu beidio \u00e2 bod o dan unrhyw straen; yn hytrach, mae&#8217;n ymwneud \u00e2 rheoli straen, gwireddu eich potensial, a chynnal perthnasoedd ystyrlon.<\/p>\n<p>Er enghraifft, ydych chi wedi teimlo&#8217;n drist ar \u00f4l methu prawf? Mae hynny&#8217;n normal. Ond sut allwn ni nodi\u2019r gwahaniaeth rhwng straen bob dydd ac anhwylder iechyd meddwl? Dyma lle mae <strong>Llythrennedd Iechyd Meddwl<\/strong> yn chwarae rhan hanfodol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cysyniad o Lythrennedd Iechyd Meddwl, a gyflwynwyd gan <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1192\/bjp.177.5.396\">Anthony F. Jorm yn 2000<\/a>, yn ymwneud \u00e2 deall heriau iechyd meddwl, eu rheoli a\u2019u hatal. Aeth <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1177\/0706743715616609\">Kutcher, Wei, a Coniglio (2016)<\/a> ymlaen i\u2019w ehangu wedi hynny yn bedair cydran allweddol:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cynnal iechyd meddwl<\/strong><\/li>\n<li><strong>Cydnabod anhwylderau\u2019r meddwl a mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw<\/strong><\/li>\n<li><strong>Cael gwared ar y stigma sy&#8217;n gysylltiedig ag iechyd meddwl<\/strong><\/li>\n<li><strong>Gofyn am gymorth pan fo angen<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae&#8217;r blog hwn yn canolbwyntio ar y cam cyntaf: deall y cyflyrau iechyd meddwl sydd gennych chi, a pham mae llythrennedd iechyd meddwl yn hanfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Deall cyflyrau iechyd meddwl: Pyramid Llythrennedd Iechyd Meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn meithrin llythrennedd iechyd meddwl, gallwn ddechrau drwy nodi ein cyflyrau iechyd meddwl a defnyddio iaith briodol i ddisgrifio ein hemosiynau, ein meddyliau a&#8217;n hymddygiadau. Mae Pyramid Llythrennedd Rhyng-Berthynas Iechyd Meddwl yn ein helpu i ddeall y cyflyrau hyn:<\/p>\n<figure id=\"post-845 media-845\" class=\"image align-center\">\n<figure id=\"post-854 media-854\" class=\"image align-center\">\n<figure id=\"post-855 media-855\" class=\"image align-center\">\n<figure id=\"post-856 media-856\" class=\"image align-center\">\n<figure id=\"post-854 media-854\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/02\/Mental-health-literacy-Pyramid-2.png\" alt=\"\" width=\"1155\" height=\"650\" \/><\/figure>\n<p><em><strong>Ffigur 1<\/strong>. Pyramid Rhyng-berthynas Cyflyrau Iechyd Meddwl\u00a0<\/em><\/p>\n<p><em>Ffynhonnell: www.mentalhealthliteracy.org\u00a0<\/em><\/figure>\n<\/figure>\n<\/figure>\n<\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Dim gofid, dim problem, dim anhwylder<\/strong>: Dyma\u2019r teimlad o fod \u00e2 chydbwysedd yn eich bywyd. Rydych yn fodlon, yn gynhyrchiol, ac yn mwynhau pethau arferol sy\u2019n digwydd bob dydd.<\/li>\n<li><strong>Trallod meddyliol<\/strong> Straen dros dro a achosir gan heriau dyddiol \u2013 fel pryder cyn sefyll prawf neu ddadl gyda ffrind. Er ei fod yn annymunol, mae&#8217;r straen hyn yn ein helpu i ddatblygu a meithrin gwydnwch.<\/li>\n<li><strong>Problemau iechyd meddwl<\/strong> Mae\u2019r heriau hyn yn fwy dwys na straen bob dydd, ac yn gallu deillio o ddigwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd fel colli rhywun annwyl neu swydd. Mewn sefyllfaoedd o&#8217;r fath, mae&#8217;n bwysig gofyn am gymorth gan unigolion yr ydych yn ymddiried ynddynt.<\/li>\n<li><strong>Anhwylderau meddyliol<\/strong>: Mae hyn yn cynnwys aflonyddwch clinigol o bwys o ran gwybyddiaeth, emosiwn neu ymddygiad, ac yn aml bydd angen diagnosis ac ymyrraeth broffesiynol ar eu cyfer. Mae anhwylderau meddyliol yn deillio o gyfuniad o ffactorau genetig, amgylcheddol a chymdeithasol.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Cael gwared ar y stigma\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Yn Indonesia, roedd sgyrsiau iechyd meddwl yn arfer bod yn brin ac roedd stigma\u2019n gysylltiedig \u00e2 nhw\u2019n aml. Newidiodd fy safbwynt wedi imi ddechrau astudio seicoleg a sylweddoli pa mor hanfodol yw&#8217;r trafodaethau hyn. Mae stigma \u2013 sef cymysgedd o ragfarn a gwahaniaethu &#8211; yn parhau i fod yn rhwystr byd-eang mewn perthynas \u00e2 gofal iechyd meddwl. Gall atal pobl rhag gofyn am gymorth, niweidio perthnasoedd, a chynnal camsyniadau, fel y gred bod pobl ag anhwylderau meddwl yn beryglus neu&#8217;n wan.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r stigma hwn yn effeithio ar bawb, gan gynnwys pobl ifanc, a allai fod yn cael eu bwlio neu eu cau allan yn gymdeithasol oherwydd eu brwydrau iechyd meddwl. Mae astudiaethau&#8217;n dangos nad yw 80% o bobl ifanc ag anhwylderau meddwl yn cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt (<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1542\/peds.2008-2598\">Merikangas et al., 2010<\/a>). Mae cynyddu llythrennedd iechyd meddwl yn un ffordd o frwydro yn erbyn stigma a chreu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>I grynhoi: pwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Mae llythrennedd iechyd meddwl yn cynnwys gwybod sut i gynnal iechyd meddwl, cydnabod anhwylderau meddwl a mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw, cael gwared ar stigma, a gofyn am gymorth pan fo angen. Drwy ddeall cyflyrau iechyd meddwl a&#8217;u dynameg, rydym yn normaleiddio\u2019r arfer o ofyn am gymorth ac yn meithrin cymdeithas dosturiol.<\/p>\n<p>Nid yw llythrennedd iechyd meddwl yn ymwneud \u00e2 hunanymwybyddiaeth yn unig; mae&#8217;n ymwneud \u00e2 grymuso cymunedau i gynorthwyo ei gilydd, lleihau stigma, a gwella lles yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;n gilydd, gadewch i ni barhau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo llythrennedd iechyd meddwl er mwyn creu dyfodol mwy disglair ac iachach.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Bywgraffiad yr awdur:<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-846 media-846\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 188px;height: 282px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/02\/Picture2.jpg\" alt=\"\" width=\"392\" height=\"588\" \/>Mae Kathleen yn ymchwilydd sydd \u00e2 gradd mewn astudiaethau macro-seicoleg. Ei nod yw hyrwyddo iechyd meddwl cyfannol yn Indonesia, yn enwedig iechyd meddwl diwylliannol, atal, a thriniaeth drwy ysgrifennu\u2019n annibynnol a phrosiectau ymchwil cydweithredol. Mynychodd Kathleen <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/training\/summer-school\">Ysgol Haf Canolfan Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid yn 2024<\/a>.Roedd ei phrosiectau diweddar yn trin a thrafod model iechyd meddwl gwarchodwyr cymunedol Indonesia, gwerthusiad o newid tasgau fel dull emig o hyrwyddo iechyd meddwl, ac ysgrifennu\u2019r modiwl am lythrennedd iechyd meddwl pobl ifanc.Mae Kathleen yn credu mewn &#8216;Mens Sana in Corpore Sano&#8217; sy&#8217;n golygu meddwl iach mewn corff iach. Mae&#8217;r ymadrodd yn awgrymu bod pob un ohonom yn haeddu cael meddwl iach mewn corff iach.<\/figure>\n<p>Diolch yn fawr i chi Kathleen am ysgrifennu&#8217;r blog hwn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Kathleen Rachel, a aeth i Ysgol Haf 2024, yn trin a thrafod pwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl ac mae\u2019n esbonio beth mae deall ein lles meddyliol [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":861,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,84],"tags":[],"class_list":["post-851","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/02\/blog-banners.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/851","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=851"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/851\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":859,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/851\/revisions\/859"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/861"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=851"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=851"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=851"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}