{"id":841,"date":"2024-10-15T11:14:48","date_gmt":"2024-10-15T11:14:48","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=841"},"modified":"2025-01-15T11:14:48","modified_gmt":"2025-01-15T11:14:48","slug":"lechyd-meddwl-ieuenctid-ar-cyfryngau-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/lechyd-meddwl-ieuenctid-ar-cyfryngau-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Lechyd meddwl ieuenctid a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p>Yn y blog hwn, rydyn ni\u2019n myfyrio ar weminar <em>Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol<\/em>, a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid. Daeth y digwyddiad \u00e2 phobl ifanc ac ymchwilwyr ynghyd i archwilio sut mae&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl\u2014y pethau cadarnhaol a&#8217;r heriau fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Gyda mewnwelediadau gan y Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid (YAG) ac ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, darparodd y weminar lwyfan agored i drafod y pynciau pwysig hyn.<\/p>\n<p>Byddwn ni hefyd yn ateb rhai o&#8217;r cwestiynau nad oedd gyda ni amser i\u2019w hateb yn ystod y sesiwn fyw ac yn rhannu myfyrdodau gan ein haelodau YAG, Mo ac Alexandra, a wnaeth y digwyddiad mor arbennig.<\/p>\n<p><strong>Cymryd rhan yn y weminar\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mo: <\/strong>Roedd y weminar yn un o fy mhrofiadau cyntaf o gymryd rhan mewn agwedd o&#8217;r Ganolfan y tu allan i&#8217;n sesiynau misol, ond dylwn i fod wedi cymryd y naid honno&#8217;n gynharach! A bod yn onest, roeddwn i\u2019n nerfus iawn am siarad \u00e2 phobl nad oeddwn i\u2019n eu hadnabod a\u2019r ffaith ei fod yn cael ei ffrydio\u2019n fyw, ond doedd dim angen poeni; roedd yn debyg iawn i ddiwyg ein sesiynau misol arferol. Fy hoff ran o&#8217;r weminar oedd y ffaith bod lle i archwilio pwnc mor eang, a gweld pawb yn rhyngweithio ag adran benodol ohoni a oedd o ddiddordeb iddyn nhw a\/neu&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phrofiad personol roedden nhw wedi\u2019i gael.<\/p>\n<p>Rwy\u2019 mor falch fy mod wedi cymryd rhan, gan fy mod i\u2019n teimlo ein bod ni fel gr\u0175p wedi dod at ein gilydd i ddarparu ystod eang o safbwyntiau a phersbectifau ar iechyd meddwl ieuenctid a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol, sef union nod cynnal y weminar yn y b\u00f4n. Ar nodyn personol, roedd cymryd rhan yn y weminar yn caniat\u00e1u i fi godi mwy o ymwybyddiaeth am ddiwrnod iechyd meddwl ieuenctid a thynnu sylw at y camau rydyn ni wedi&#8217;u cymryd i symud ymlaen ond hefyd at y camau nesaf posibl i barhau i helpu pobl ifanc.<\/p>\n<p><strong>Dysgu sgiliau newydd\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Alexandra: <\/strong>Fel unrhyw beth yn gysylltiedig \u00e2 Chanolfan Wolfson, ces i amser gwych yn trafod ystod eang o safbwyntiau gydag ymchwilwyr a phobl ifanc eraill. Rwy&#8217;n ddiolchgar am y cyfle i wella fy nghyflogadwyedd trwy gael profiad o gynnal gweminarau ac ysgrifennu blogiau. Diolch i bawb a ddaeth draw ac a gynigiodd gwestiynau mor ddiddorol<u>.<\/u><\/p>\n<hr \/>\n<p>Mae&#8217;n wych gweld bod ein haelodau YAG wedi mwynhau&#8217;r weminar ac yn teimlo bod y profiad mor werth chweil. Roedd eu cyfranogiad nid yn unig wedi helpu i lunio&#8217;r digwyddiad ond tynnodd sylw hefyd at werth lleisiau pobl ifanc mewn trafodaethau am iechyd meddwl. Rydyn ni&#8217;n gyffrous am y potensial i weld mwy o gydweithio fel hyn yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at y llu o gyfleoedd eraill lle gallwn ni gydweithio i greu newid ystyrlon.<\/p>\n<p><strong>Ateb eich cwestiynau\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Nawr, wrth i ni fynd ati i ateb rhai o&#8217;r cwestiynau nad oedd gyda ni amser i&#8217;w hateb yn ystod y weminar, mae Mo ac Alexandra yn rhannu eu meddyliau a&#8217;u mewnwelediadau ar y pynciau pwysig hyn.<\/p>\n<p><strong>Sut gall llwyfannau\u2019r cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chefnogaeth iechyd meddwl?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mo:<\/strong> Rwy&#8217;n credu mai&#8217;r brif ffordd y gall y cyfryngau cymdeithasol hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl yw trwy ymdrechu i sicrhau cynnwys dilys. Mae&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu ar sail yr awydd i gael cysylltiad dilys ac i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld. Mae gormod o&#8217;r cynnwys rydyn ni\u2019n ei weld yn methu \u00e2 chynrychioli realiti ond rydyn ni wedi&#8217;n hamgylchynu cymaint ganddo fel na allwn ni weld y gwahaniaeth weithiau rhwng gwirionedd ac anwiredd.<\/p>\n<p>Felly, trwy ddechrau o\u2019r dechrau a chreu cynnwys cynrychioliadol a chyfannol dilys, rwy&#8217;n credu y bydd pobl ifanc yn teimlo&#8217;n fwy bodlon eu byd a\u2019u bod yn cael eu gweld. Rhaid i ran o&#8217;r dilysrwydd hwn gynnwys rhoi gwelededd i brofiadau bywyd.<\/p>\n<p>Er ein bod ni i gyd yn unigryw a bod taith iechyd meddwl pob person ifanc yn bersonol iawn, rwy&#8217;n gwybod o fy mhrofiad i bod cynnwys sy&#8217;n adlewyrchu realiti ac sy&#8217;n cael ei greu gan bobl mewn sefyllfa debyg yn gwneud i mi deimlo fy mod i\u2019n cael fy ngweld a&#8217;m clywed.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>O ystyried bod y cyfryngau cymdeithasol yn eich amlygu i wahanol bobl o bob cwr o&#8217;r byd a&#8217;u diwylliannau, a\u2019u ffyrdd o feddwl a\u2019u harferion, ydych chi&#8217;n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu lefel eich ymwybyddiaeth fyd-eang? Ydych chi&#8217;n meddwl bod hyn yn gadarnhaol neu&#8217;n negyddol?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mo:<\/strong> Rwy&#8217;n credu bod y cwestiwn a yw\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at ymwybyddiaeth fyd-eang yn gallu dibynnu ar sut rydych chi&#8217;n defnyddio&#8217;r cyfryngau cymdeithasol. I fi fel myfyriwr ieithoedd tramor, rwy&#8217;n aml yn cael cynnwys mewn iaith arall neu gynnwys sy&#8217;n seiliedig ar agwedd ar wleidyddiaeth a diwylliant tramor neu fyd-eang. Yn yr ystyr yma, mae\u2019n gallu bod yn offeryn addysg a chynyddu lefelau ymwybyddiaeth fyd-eang.<\/p>\n<p>Mae fformat gweledol y cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud yn ffenestr naturiol iawn i ffyrdd eraill o fyw gan hwyluso cyfnewid diwylliannau a dealltwriaeth. Mae\u2019n gallu bod yn gadarnhaol mewn sawl ffordd, yn enwedig o ystyried ein bod ni\u2019n byw mewn byd sy&#8217;n dod yn fwyfwy fewnddrychol.<\/p>\n<p>Ar yr ochr negyddol, fodd bynnag, rwy\u2019n credu ei bod yn deg dweud y gall gyfrannu at ystrydebau am wledydd a chymunedau oherwydd, yn aml, mae&#8217;r cynnwys rydyn ni&#8217;n dod ar ei draws yn cael ei fyrhau a&#8217;i felysu ac felly nid yw bob amser yn gynrychiolaeth wir neu lawn o realiti.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, rwy&#8217;n credu bod y cyfan yn ymwneud \u00e2 sut rydych chi&#8217;n mynd ati: mae\u2019n gallu bod yn sbardun i ddarganfod neu ymchwilio mwy, ond mae\u2019n rhaid cadw meddwl agored.<\/p>\n<p><strong>Alexandra: <\/strong>Elfen gadarnhaol o&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yw&#8217;r ffaith y gall pobl ddod i gysylltiad \u00e2 phobl eraill a diwylliannau eraill na fydden nhw efallai&#8217;n cwrdd \u00e2 nhw a rhyngweithio \u00e2 nhw bob dydd, gan helpu i leihau &#8216;aralleiddio&#8217;.<\/p>\n<p>Ond, mae&#8217;r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi golwg 24\/7 mewn amser real ar ddigwyddiadau byd-eang cyfredol, yn aml gyda manylder mawr, a gall hyn beri cryn ofid, ynghyd \u00e2&#8217;r ffaith nad yw&#8217;n amlygiad ar wah\u00e2n fel y newyddion gyda&#8217;r nos neu erthygl mewn papur newydd. Mae&#8217;n dod yn anodd iawn diffodd eich meddwl rhagddo, oherwydd natur gynhenid y cyfryngau cymdeithasol a&#8217;r math o ddigwyddiadau mae pobl yn eu gweld.<\/p>\n<p>Er y gall hyn fod yn negyddol, yn enwedig i bobl ifanc, mae&#8217;n rhoi golwg ddatganoledig, fwy democrataidd i faterion cyfoes heb y gogwydd ychwanegol gan y cyfryngau traddodiadol (unwaith eto, mae perygl o ogwydd o hyd oherwydd bod cynnwys yn dod yn uniongyrchol gan bobl ac felly&#8217;n cael ei siapio gan eu profiad bywyd, yn ogystal \u00e2&#8217;r algorithm).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Pa r\u00f4l rydych chi&#8217;n meddwl mae&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae wrth lywio hunan-barch a delwedd corff pobl ifanc?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mo:<\/strong> Gan mai sylfaen y cyfryngau cymdeithasol yw cysylltu eraill, pobl yn teimlo\u2019u bod yn cael eu gweld a&#8217;u cynrychioli yn y byd, nid yw&#8217;n syndod ein bod ni, dros amser, yn teimlo bod yn rhaid i ni fodelu ein hunain ar y cynnwys rydyn ni&#8217;n rhyngweithio ag ef.<\/p>\n<p>At ei gilydd, rwy&#8217;n credu bod cydnabyddiaeth wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf bod yna lawer o agweddau anwir i&#8217;r hyn rydyn ni\u2019n ei weld ar-lein gyda dylanwadwyr a chrewyr yn dod yn fwy ymwybodol o&#8217;r ffaith bod llawer o bobl ifanc yn enwedig yn ceisio modelu eu hunain ar yr hyn maen nhw&#8217;n ei weld.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae llawer i&#8217;w wneud o hyd yn y cyswllt yma, o ran ceisio amddiffyn pobl ifanc nad ydyn nhw\u2019n gallu deall yr anwiredd yn llawn sy\u2019n codi o agweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd o ran gwrando ar bobl h\u0177n sydd wedi cael profiadau ehangach o&#8217;r cyfryngau cymdeithasol tra\u2019u bod yn ifanc, a dysgu oddi wrthynt.<\/p>\n<p><strong>Alexandra: <\/strong>Rwy&#8217;n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf o ran delwedd corff sydd ag anhwylder penodol, bwyta a hunan-niweidio. Daw hynny yn sgil lefel uwch o ymwybyddiaeth o&#8217;r niwed posibl, yn ogystal \u00e2 chwmn\u00efau cyfryngau cymdeithasol yn cyfyngu ar rai hashnodau ac ati.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019r ffaith bod pobl ifanc yn gyson yn gweld lluniau gydag onglau clyfar, ystumiau, hidlwyr a golygu yn aml heb ddatgeliad yn gallu ac yn gwneud niwed i ddelwedd y corff (e.e. pendroni pam nad yw&#8217;ch gwasg yn edrych fel hynny). Yn ogystal, mae sylwadau gwenwynig a throliau sy\u2019n targedu&#8217;r sawl sy\u2019n postio, a gall pobl ifanc fewnoli hynny, yn enwedig os ydy\u2019r sylwadau\u2019n targedu nodwedd sydd hefyd yn nodwedd i\u2019r person ifanc.<\/p>\n<p>Dyw hyn ddim yn dilorni o gwbl ar y gwaith mae aelodau o&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud i normaleiddio cyrff dynol, eu hamrywiaeth ac unrhyw gyflyrau, ond yn yr un modd mae troliau yn rhan o sylwadau&#8217;r postiadau hyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Rwy&#8217;n rhedeg fforwm iechyd meddwl ieuenctid yn Berkshire. Rydyn ni wedi siarad am addysgu &#8216;dysgu sut i hyfforddi eich algorithm&#8217; yn y cyfryngau cymdeithasol. Felly mae gennych fwy o reolaeth dros y math o bostiadau rydych chi&#8217;n eu gweld. Beth yw barn y bobl ifanc am hyn?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Alexandra: <\/strong>Bydd mwy o ymwybyddiaeth o sut mae algorithmau&#8217;n gweithio bob amser yn beth da, ynghyd \u00e2&#8217;r wybodaeth o sut i gynyddu&#8217;r pethau rydych chi am eu gweld a lleihau pethau nad ydych chi am eu gweld (am ba bynnag reswm). Un peth i fod yn ymwybodol ohono yw sut mae gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio a&#8217;r ffaith bod pethau fel strwythur algorithm yn newidiol iawn, ond mae rhoi&#8217;r offer i bobl ifanc gael mwy o alluogedd a rheolaeth dros y cyfryngau maen nhw&#8217;n eu defnyddio yn gwneud mwy o les nag o ddrwg. Ac un peth i\u2019w rybuddio\u2019n arbennig rhagddo yw&#8217;r ffaith y gallai hyn ei gwneud hi&#8217;n haws i ddwys\u00e1u ymhellach y &#8216;siambr adleisio&#8217; sy&#8217;n bresennol ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p><strong>Mwy o sgyrsiau i ddod\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Roedd gweminar <em>Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol<\/em> yn llwyddiant ysgubol a ysgogodd sgyrsiau pwysig iawn am r\u00f4l y cyfryngau cymdeithasol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.<\/p>\n<p>O rannu straeon personol i gynnig cyngor ymarferol, helpodd pawb a ymunodd i greu darlun o&#8217;r heriau a&#8217;r cyfleoedd a ddaw yn sgil y cyfryngau cymdeithasol. Dysgon ni fod y cyfryngau cymdeithasol, o\u2019u defnyddio gyda phwyll, yn gallu bod yn offeryn ar gyfer codi ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chreu ymdeimlad o gymuned.<\/p>\n<p>Ond mae hefyd yn amlwg bod angen i ni barhau i siarad am y pwysau y gallant eu rhoi ar bobl ifanc, yn enwedig o ran materion fel delwedd y corff a hunan-barch.<\/p>\n<p>Megis dechrau yw digwyddiadau fel hyn, ac rydyn ni\u2019n gyffrous i barhau \u00e2&#8217;r sgwrs mewn gweminarau yn y dyfodol, gan obeithio y gallwn ysbrydoli mwy o drafodaethau agored a chreu lle i leisiau pobl ifanc gael eu clywed.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr iawn i Mo ac Alexandra am eu cyfraniadau i&#8217;r blog hwn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wnaethoch chi golli\u2019r digwyddiad? Gallwch chi <a href=\"https:\/\/youtu.be\/xU0AjyO2VOM?si=C9AtbX3cQSEKNt14\">wylio\u2019r recordiad<\/a> ar ein sianel YouTube.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/subscribe-to-our-newsletter\">Cofrestrwch i&#8217;n rhestr bostio<\/a> i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a&#8217;r cyfleoedd sydd ar ddod.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, rydyn ni\u2019n myfyrio ar weminar Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol, a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid. Daeth y digwyddiad [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":836,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[],"class_list":["post-841","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2025\/01\/Untitled-design-12.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/841","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=841"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/841\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":843,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/841\/revisions\/843"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/836"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=841"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=841"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=841"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}