{"id":828,"date":"2024-11-28T12:51:18","date_gmt":"2024-11-28T12:51:18","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=828"},"modified":"2025-01-03T16:00:53","modified_gmt":"2025-01-03T16:00:53","slug":"ddrych-ddrych-ar-y-wal-myfyrdod-ar-ddelwedd-y-corff-gan-jaden","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/ddrych-ddrych-ar-y-wal-myfyrdod-ar-ddelwedd-y-corff-gan-jaden\/","title":{"rendered":"&#8216;Ddrych, Ddrych ar y wal&#8217;: myfyrdod ar ddelwedd y corff gan Jaden"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae Jaden, merch 18 mlwydd oed sy\u2019n byw yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn ysgrifennu am ei thaith gyda delwedd y corff, pwnc sy\u2019n dylanwadu\u2019n fawr ar iechyd meddwl pobl ifanc. Mae\u2019n myfyrio ar ei chanfyddiadau esblygol o\u2019i chorff ac yn archwilio sut mae cyfryngau cymdeithasol wedi dylanwadu ar ei hymdeimlad o hunanwerth.<\/em><\/p>\n<p>Er na allaf gofio&#8217;r tro cyntaf i mi edrych yn y drych, rwy&#8217;n cofio&#8217;r tro cyntaf iddo olygu rhywbeth i mi. Nid dim ond cipolwg achlysurol oedd hi i wirio p\u2019un a oedd fy nghrys yn daclus neu olwg sydyn ar fy ngwallt. Hwn oedd y tro cyntaf i mi <em>wir <\/em>edrych yn y drych \u2014gwirio, archwilio, beirniadu.<\/p>\n<p>Ers hynny, dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi \u201cedrych\u201d mewn drych yn unig. Mae bob amser rhyw fath o graffu\u2019n cael ei wneud, hyd yn oed os mai llais bach iawn yng nghefn fy mhen yw hwn. Yn anffodus, mae llawer iawn ohonom ni\u2019n profi\u2019r llais hwnnw. Mae&#8217;r llais yn codi&#8217;n dawel, heb godi unrhyw glychau rhybudd. Bydd yn dechrau gyda chais syml i sugno eich stumog ychydig yn fwy. Hyd nes y bydd yn symud ymlaen i&#8217;r hyn na ellir ond ei alw&#8217;n gamdriniaeth ddi-baid &#8211; rhyw \u201crwyt ti&#8217;n hollol ffiaidd\u201d achlysurol, neu \u201cdyma beth rwyt ti\u2019n ei gael am gladdu gymaint o fwyd, y mochyn.\u201d Ac i hynny rwy&#8217;n dweud: &#8220;drych, drych, ar y wal &#8211; pam mai fi yw&#8217;r mwyaf diwerth ohonyn nhw i gyd?&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;n cyrraedd pwynt lle mae&#8217;n dod yn wanychol. Mae&#8217;r drych yn trawsnewid o arwyneb adlewyrchol syml i faes brwydr. Mae pob golwg yn dod yn wrthdaro, pob adlewyrchiad yn feirniadaeth. Rydych chi&#8217;n dechrau osgoi drychau, gan ofni ymosodiad anochel negyddiaeth. Mae&#8217;n treiddio i bob agwedd ar eich bywyd, yn cnoi eich hunan-barch ac yn ystumio&#8217;ch hunanddelwedd.<\/p>\n<p>Mae effaith y beirniad mewnol hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddrych yr ystafell ymolchi. Mae&#8217;n treiddio i mewn i ryngweithio cymdeithasol, gan ddylanwadu ar beth yw eich canfyddiad ohonoch chi eich hun mewn perthynas ag eraill. Rydych chi&#8217;n dechrau cymharu eich hun yn gyson, yn aml yn anffafriol, \u00e2&#8217;r rhai o&#8217;ch cwmpas. Rydych chi&#8217;n craffu ar luniau, yn dadansoddi pob diffyg, ac yn fuan, mae hyd yn oed y syniad o dynnu llun yn dod yn destun gorbryder.<\/p>\n<p>Yn yr oes ddigidol, lle mae cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cynyddu&#8217;r ansicrwydd hwn, gall y pwysau fod yn llethol. Mae ffrydiau wedi&#8217;u curadu sy&#8217;n llawn delweddau di-perffaith yn creu safon anghyraeddadwy o harddwch a llwyddiant. Mae&#8217;n teimlo fel bod pawb arall wedi gweithio\u2019r cyfan allan, tra&#8217;ch bod chi&#8217;n sownd yn ymgodymu \u00e2&#8217;ch adlewyrchiad eich hun. Po fwyaf y byddwch chi\u2019n sgrolio, po uchaf y daw&#8217;r llais beirniadol, gan fwydo oddi ar y rhith o berffeithrwydd sydd wedi&#8217;i lunio&#8217;n ofalus ar-lein.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, nid yw hyn yn anghyffredin, yn enwedig i bobl ifanc. Mae llawer yn ymgodymu \u00e2&#8217;u hunanddelwedd, yn aml yn dawel. Gall y daith i hunan-dderbyn a pherthynas iachach \u00e2 drychau\u2014a thrwy estyniad, \u00e2 chi eich hun\u2014 fod yn hir ac yn heriol, ond mae\u2019n bosibl. Mae&#8217;n dechrau gyda chamau bach: cydnabod yr hunan-siarad negyddol, cwestiynu ei ddilysrwydd, a&#8217;i ddisodli&#8217;n raddol \u00e2 meddyliau mwy caredig, mwy tosturiol.<\/p>\n<p>Mae adeiladu hunanddelwedd gadarnhaol yn gofyn am amynedd ac ymdrech. Mae&#8217;n golygu amgylchynu eich hun ag unigolion cefnogol, cymryd rhan mewn gweithgareddau sy&#8217;n rhoi hwb i&#8217;ch hyder, ac weithiau ceisio cymorth proffesiynol. Gall therapi fod yn arf gwerthfawr i ddatrys y credoau dwfn sy&#8217;n tanio&#8217;r llais beirniadol. Mae&#8217;n helpu i ddeall nad ffeithiau yw&#8217;r meddyliau hyn, a\u2019i bod hi\u2019n bosibl meithrin persbectif mwy cariadus a derbyniol tuag atoch chi eich hun.<\/p>\n<p>Ymhen amser, gall y drych ddod yn ffrind yn hytrach nag yn elyn. Gallwch ddysgu edrych ar eich adlewyrchiad heb farnu, i weld y person yn syllu&#8217;n \u00f4l arnoch chi fel rhywun sy&#8217;n haeddu cariad a pharch. Mae&#8217;n daith o hunan-ddarganfyddiad, o ddileu&#8217;r haenau o feirniadaeth i ddatgelu craidd o hunan-dderbyn. Wrth i chi gymryd pob cam ymlaen, mae llais hunanfeirniadaeth yn mynd yn dawelach, gan wneud lle i ddeialog fewnol fwy caredig a mwy tosturiol.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n edrych yn y drych heddiw ac mae&#8217;r llais yn dal i fod yno. Mae&#8217;n debyg na fydd byth yn gadael. Ond mae&#8217;n mynd yn dawelach. Gyda phob diwrnod sy\u2019n mynd heibio, mae ei ddylanwad arnaf yn lleihau. Mae&#8217;r un peth yn wir i chi.<\/p>\n<p>Oherwydd yn fuan byddwch chi&#8217;n dysgu dweud, &#8220;drych, drych, ar y wal &#8211; dwi&#8217;n ddigon, yn anad dim.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Bywgraffiad yr awdur:<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-657 media-657\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 216px;height: 216px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2023\/09\/Youth-mental-health-day-JAden-2023.png\" alt=\"\" width=\"1080\" height=\"1080\" \/>Helo, fy enw i yw Jaden! Dwi\u2019n 18 mlwydd oed ac yn wreiddiol o India ond wedi fy lleoli yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae fy iechyd meddwl yn rhywbeth dwi wedi cael trafferth ag ef ers amser maith, ac wrth i mi ddechrau codi\u2019n araf i\u2019m traed unwaith eto, dwi\u2019n hynod angerddol am ddefnyddio fy ngorffennol fel angor i helpu a chefnogi eraill sy\u2019n mynd trwy\u2019r un peth, gobeithio. Dwi\u2019n awdur uchelgeisiol a dwi\u2019n gobeithio gwneud gwahaniaeth yn y byd yma ryw ddydd. Dwi\u2019n caru darllen, ysgrifennu, chwarae\u2019r piano a\u2019m c\u0175n!<\/figure>\n<p>Diddordeb darllen mwy o fy ysgrifennu? Edrychwch ar <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-ieuenctid-2023-dewrder-gan-jaden\/\">y blog<\/a> hwn rydw i wedi&#8217;i ysgrifennu o&#8217;r blaen ar gyfer Canolfan Wolfson ar y testun Dewrder.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Eisiau ysgrifennu post ar gyfer blog Wolfson?<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd \u00e2 diddordeb mewn rhannu eu barn ar yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Hoffem yn arbennig rannu lleisiau ifanc yn siarad am eu profiadau gydag iechyd meddwl a phrosiectau arloesol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.<\/p>\n<p>Eisiau dysgu mwy? E-bostiwch\u00a0<a href=\"mailto:maximom@cardiff.ac.uk\">maximom@caerdydd.ac.uk<\/a>\u00a0gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi a pha bwnc yr hoffech ysgrifennu amdano.<\/p>\n<p>Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Jaden, merch 18 mlwydd oed sy\u2019n byw yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn ysgrifennu am ei thaith gyda delwedd y corff, pwnc sy\u2019n dylanwadu\u2019n fawr [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":823,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[],"class_list":["post-828","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/11\/blog-featured-images-6.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/828","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=828"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/828\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":832,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/828\/revisions\/832"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/823"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=828"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=828"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=828"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}