{"id":812,"date":"2024-09-04T09:32:36","date_gmt":"2024-09-04T09:32:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=812"},"modified":"2025-01-03T16:00:27","modified_gmt":"2025-01-03T16:00:27","slug":"sbotolau-yag-son-am-bwysigrwydd-ein-lleisiau-ym-mhrifysgol-caeredin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/sbotolau-yag-son-am-bwysigrwydd-ein-lleisiau-ym-mhrifysgol-caeredin\/","title":{"rendered":"Sbotolau YAG: S\u00f4n am bwysigrwydd ein lleisiau ym Mhrifysgol Caeredin"},"content":{"rendered":"<p>Emma:<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"height: 334px;background-color: #ffffff;width: 250px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/GTMEExxW0AEhQm5.jpg\" alt=\"\" width=\"1536\" height=\"2048\" \/><\/p>\n<p>d Meddwl Ieuenctid Prifysgol\u00a0Caeredin. A minnau\u2019n Albanwr, mae ymddangosiad y peth mawr melyn rhyfedd yn yr awyr yn ystod yr haf yn gallu bod yn gynhyrfus, ond fe wnaethon ni ei gofleidio serch hynny.<\/p>\n<p>Roedd yr haul yn gwenu ar Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson wrth i Sami, Lily a minnau gyrraedd Caeredin i fynd i ddigwyddiad rhwydweithio Fforwm Iechy<\/p>\n<p>Gyda thaith gyflym mewn tacsi, fe wnaethon ni gyrraedd y ganolfan gynadledda ar waelod Arthur&#8217;s Seat, drws nesaf i Neuaddau Preswyl Pollock (lle roeddwn i&#8217;n byw pan roeddwn i\u2019n fyfyriwr amser maith yn \u00f4l!).\u00a0 Yn dilyn croeso cynnes hyfryd gan y trefnwyr (\u2018Wyt ti\u2019n hoffi cofleidio?\u2019 oedd y cwestiwn wrth i ni gerdded i mewn&#8230;ac mae\u2019r tair ohonon ni fel mae\u2019n digwydd!), fe wnaethon ni ymgartrefu am brynhawn o ddysgu a rhwydweithio.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Fforwm yn ei gamau cynnar iawn a nod y digwyddiad &#8211; oedd wedi ei gyd-gynllunio a&#8217;i arwain gan bobl ifanc &#8211; oedd deall ac atgyfnerthu sut a pham i gynnwys pobl ifanc mewn ymchwil iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Bydd ein YAG Wolfson yn dair blwydd oed ym mis Medi ac o\u2019r herwydd, roedden wrth ein bodd i gael gwahoddiad nid yn unig i fynd i\u2019r digwyddiad, ond i gyflwyno sgwrs yn amlinellu\u2019r hyn rydyn ni ein hunain wedi\u2019i ddysgu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Myfyriais ar fy nhaith fy hun yn Arweinydd PI yma yn y Ganolfan ac annog y safonwyr i:<\/p>\n<ul>\n<li>fod yn hyblyg ac atblygol<\/li>\n<li>amddiffyn y gr\u0175p, gan gofio ein dyletswydd gofal<\/li>\n<li>bod yn barod i gymryd seibiant o waith ymchwil i ddathlu sgiliau a chyflawniadau&#8217;r gr\u0175p<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel gydag unrhyw ddigwyddiad pan fo pobl ifanc yn cyd-arwain trafodaethau, roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig a phleserus ac roedden ni\u2019n falch iawn o fod yn rhan ohono. Dyma ddymuno pob lwc i\u2019r Fforwm ac edrychwn ni ymlaen at wylio sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Lily:<\/p>\n<p>Doeddwn i erioed wedi bod yn yr Alban o\u2019r blaen, felly roeddwn i\u2019n edrych ymlaen yn fawr i fynd i\u2019r digwyddiad hwn, nid yn unig i rannu fy myfyrdodau personol ar fforymau ieuenctid iechyd meddwl sy\u2019n llywio ymchwil, ond i archwilio dinas brydferth Caeredin!\u00a0 Cyn y digwyddiad, treuliais ddiwrnod yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol San Silyn, Cofeb Scott, Ffynnon Ross, a Vernell Viewpoint. Yn ystod amser cinio, cefais gyfarfod Zoom gydag Emma a Sami mewn Starbucks gyda golygfa syfrdanol o Gastell Caeredin a Gerddi Princes Street. Ar fy ffordd i\u2019r gwesty, crwydrais drwy Grassmarket, gan fwynhau\u2019r siopau annibynnol a\u2019r bensaern\u00efaeth hanesyddol wrth wrando ar s\u0175n Albanwyr yn chwarae pibgodau.<\/p>\n<p>Rwyf wedi bod yn aelod o YAG Wolfson ers bron i dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae ein gr\u0175p wedi esblygu a thyfu wrth i ni ddarganfod beth sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda a pha newidiadau rydyn ni am eu gwneud. Gyda\u2019n profiad gwerthfawr mewn golwg, rhannodd Sami a minnau sut y gallwn ni, yn bobl ifanc, ymwneud ag ymchwil iechyd meddwl a phwysigrwydd ein lleisiau wrth ddylanwadu ar gyfeiriad ac effaith ymchwil.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n teimlo ychydig yn nerfus i ddechrau, gan nad oeddwn i erioed wedi siarad mewn digwyddiad fel hwn o&#8217;r blaen. Fodd bynnag, fe wnaeth yr awyrgylch cefnogol a brwdfrydedd y bobl ifanc a&#8217;r ymchwilwyr fy ngrymuso a gwneud i mi deimlo fod pobl wir yn gwrando arnaf fi. Roeddwn i am bwysleisio pwysigrwydd cydnabod amser, arbenigedd ac ymdrechion gwerthfawr pobl ifanc sy\u2019n cyfrannu at ymchwil iechyd meddwl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw\u2019n teimlo fel &#8216;bocsys i\u2019w ticio&#8217; yn unig yn y broses ymchwil.<\/p>\n<p>Tynnais sylw hefyd at arwyddoc\u00e2d defnyddio cyfathrebu effeithiol ac iaith sy\u2019n barchus ac yn ddealladwy, fel bod trafodaethau\u2019n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb gyfrannu atyn nhw. Yn anad dim, pwysleisiodd Sami a minnau yr angen i greu amgylchedd diogel, cyfforddus sy&#8217;n meithrin cyd-werthfawrogiad a pharch rhwng pobl ifanc ac ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Gadewais y digwyddiad yn teimlo&#8217;n falch iawn o Sami a minnau am gynrychioli YAG Wolfson. Rwy&#8217;n meddwl ein bod ni wedi cynnig rhywfaint o awgrymiadau a syniadau defnyddiol. Cyn gadael Caeredin, aethon ni ar un daith gerdded arall a myfyrio ar y trafodaethau a&#8217;r cyflwyniadau niferus a gawson ni yn ystod y dydd. Buon ni\u2019n siarad am ba mor ddiddorol oedd gwrando ar safbwynt ymchwilwyr sydd hefyd yn gorfod ystyried yr agweddau logistaidd ar ffurfio fforwm iechyd meddwl ieuenctid.<\/p>\n<p>Roedd dod \u00e2 phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ynghyd yn y digwyddiad hwn wedi rhoi llawer o wybodaeth a dealltwriaeth amrywiol i ni, a gallai ein sgyrsiau fod wedi parhau am oriau. Byddwn wrth fy modd yn gweld digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Wolfson, yn canolbwyntio ar y cydweithio llwyddiannus rhwng pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid.<\/p>\n<p>Diolch i Emma a Lily am rannu eu hantur Albanaidd.<\/p>\n<p><em>Dysgwch ragor am ein gwaith <\/em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/ourwork\/publicinvolvement\"><em>Cynnwys y Cyhoeddyng <\/em><\/a><em>Nghanolfan Wolfson a&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/youth-advisory-group\">Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid<\/a>.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span style=\"color: #666699\"><strong>Lluniau camera Lily: :<\/strong><\/span><\/p>\n<figure id=\"post-764 media-764\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/Untitled-design.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Emma: d Meddwl Ieuenctid Prifysgol\u00a0Caeredin. A minnau\u2019n Albanwr, mae ymddangosiad y peth mawr melyn rhyfedd yn yr awyr yn ystod yr haf yn gallu bod yn gynhyrfus, ond fe wnaethon [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":766,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[],"class_list":["post-812","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/lessons-learned-from-a-young-disabled-musician-2.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/812","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=812"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/812\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":815,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/812\/revisions\/815"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/766"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=812"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=812"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=812"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}