{"id":810,"date":"2025-03-20T10:00:50","date_gmt":"2025-03-20T10:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=810"},"modified":"2025-03-06T15:22:53","modified_gmt":"2025-03-06T15:22:53","slug":"gwersi-byd-eang-effaith-leol-cymhwysor-hyn-a-ddysgais-i-yn-ystod-ysgol-haf-wolfson-i-fy-ymchwil-yn-indonesia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/gwersi-byd-eang-effaith-leol-cymhwysor-hyn-a-ddysgais-i-yn-ystod-ysgol-haf-wolfson-i-fy-ymchwil-yn-indonesia\/","title":{"rendered":"Gwersi byd-eang, effaith leol: cymhwyso&#8217;r hyn a ddysgais i yn ystod Ysgol Haf Wolfson i fy ymchwil yn Indonesia"},"content":{"rendered":"<p>Fy enw i yw Wiwit Puspitasari Dewi. Rydw i\u2019n ddarlithydd yn y Gyfadran Seicoleg yn Universitas Pelita Harapan ac yn seicolegydd clinigol sydd \u00e2 diddordeb mewn iechyd meddwl pobl ifanc yn Indonesia. Ar hyn o bryd, rydw i\u2019n paratoi i barhau \u00e2 fy astudiaethau ar gyfer gradd doethur, felly edrychais ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc i gael y newyddion diweddaraf am yr ymchwil gyfredol ar bobl ifanc.<\/p>\n<p>Pan sylweddolais fod Ysgol Haf Canolfan Wolfson yn cael ei gynnal ar-lein yn 2024, roeddwn i\u2019n awyddus i wneud cais. Gan fy mod yn byw ymhell o Gaerdydd, roeddwn i\u2019n gwybod y byddai hwn yn gyfle gwych i fi ymgysylltu ag arbenigwyr amrywiol o sefydliadau dibynadwy ym maes ymchwil iechyd meddwl, a gwella fy ngwybodaeth am sut galla i helpu pobl ifanc trwy ymchwil.<\/p>\n<p>Oherwydd y gwahaniaeth amser rhwng y DU ac Indonesia, cynhaliwyd rhai o\u2019r sesiynau yn ystod fy oriau gwaith a chymudo. Fodd bynnag, roeddwn i\u2019n dal i allu ymuno \u00e2&#8217;r sesiynau gan ei fod yn hawdd ymuno \u00e2\u2019r platfform ar-lein dros y ff\u00f4n. Roedd Canolfan Wolfson hefyd wedi cyflwyno dolen i Padlet, a oedd yn diweddaru\u2019r adnoddau a&#8217;r sleidiau gan y siaradwyr yn gyflym. Roedd hwn yn ddefnyddiol iawn er mwyn cael y deunyddiau diweddaraf o&#8217;r holl sesiynau.<\/p>\n<p>Roedd tridiau\u2019r ysgol haf yn anhygoel. Cefais lawer o wybodaeth, syniadau ac arbenigedd am ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc y mae modd eu cymhwyso yn Indonesia. Fodd bynnag, fe wnaeth yr ymchwilwyr profiadol hyn o bob rhan o\u2019r byd fy ysbrydoli i wella fy sgiliau ymchwil a chyfrannu at y gymuned fyd-eang hon.<\/p>\n<p>Gan fy mod yn archwilio ymyriadau digidol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc ar hyn o bryd , roedd y sesiwn gyda Dr Rhys Bevan-Jones o ddiddordeb arbennig i fi. Fe wnaeth y sesiwn hon fy ysbrydoli i barhau i ystyried potensial ymyrraeth ddigidol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc yn Indonesia. Roeddwn i\u2019n falch o gael y cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn. Roedd y sesiwn goffi rhithwir yn gyfle gwych i\u2019r rhai ar y cwrs a\u2019r siaradwyr rwydweithio.<\/p>\n<p>Roedd yr ysgol haf hon yn werthfawr gan ei bod yn gyfle imi weld ymchwil y tu allan i fy ngwlad ac roedd wedi fy ysgogi i ddal ati gyda fy mhrosiectau fy hun. Cefais lawer o wybodaeth yn ystod y rhaglen a bydda i\u2019n argymell fy nghydweithwyr i ymuno \u00e2&#8217;r ysgol haf nesaf.<\/p>\n<p><em>Diolch yn fawr iawn i Wiwit am rannu ei phrofiad gyda ni.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 ni yn 2025:<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno \u00e2 ni ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/training\/summer-school\">Ysgol Haf Wolfson 2025<\/a>? Mae ceisiadau nawr ar agor ac rydym yn awyddus i glywed gennych.<\/p>\n<p>Tan hynny, gallwch chi gofrestru ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/subscribe-to-our-newsletter\">rhestr bostio<\/a> i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd sydd gan y Ganolfan i\u2019w cynnig, a chadwch lygad ar ein <a href=\"https:\/\/linktr.ee\/WolfsonCentre\">sianeli cyfryngau cymdeithasol<\/a> lle byddwn ni\u2019n hysbysebu #WolfsonSummer25<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Fy enw i yw Wiwit Puspitasari Dewi. Rydw i\u2019n ddarlithydd yn y Gyfadran Seicoleg yn Universitas Pelita Harapan ac yn seicolegydd clinigol sydd \u00e2 diddordeb mewn iechyd meddwl pobl ifanc [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":803,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,155],"tags":[],"class_list":["post-810","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-ysgol-haf"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/blog-featured-images-2.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/810","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=810"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/810\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":811,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/810\/revisions\/811"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/803"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=810"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=810"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=810"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}