{"id":791,"date":"2024-10-17T10:00:25","date_gmt":"2024-10-17T10:00:25","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=791"},"modified":"2025-01-03T15:54:15","modified_gmt":"2025-01-03T15:54:15","slug":"dyddiadur-ymchwilydd-pa-fath-o-ymchwilydd-ydw-i","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/dyddiadur-ymchwilydd-pa-fath-o-ymchwilydd-ydw-i\/","title":{"rendered":"Dyddiadur Ymchwilydd: Pa fath o ymchwilydd ydw i?"},"content":{"rendered":"<p>Helo, ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson,<\/p>\n<p>Fis Mehefin eleni, cynhaliodd Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) eu hail Gynhadledd Flynyddol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn Leeds. Yn wahanol i&#8217;w prif gynhadledd, lle mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn cael cyfle i gyflwyno eu hymchwil, nod y digwyddiad hwn yw dathlu eu taith fel ymchwilwyr a myfyrio arni.<\/p>\n<p>Thema&#8217;r gynhadledd oedd &#8216;At Crossroads of Becoming&#8217;, a gwahoddwyd ymchwilwyr i gyflwyno eu dehongliad eu hunain o hyn. Roedd gwefan y gynhadledd yn s\u00f4n am &#8216;ddimensiynau ontolegol&#8217; a &#8216;thrawsnewidiad yr hunan&#8217; mewn perthynas \u00e2 thema&#8217;r gynhadledd. Er nad oedd y rhain yn gysyniadau roeddwn i\u2019n gwybod llawer (os unrhyw beth) amdanyn nhw neu wedi\u2019u hystyried hyd yn hyn yn fy nhaith PhD, roeddwn i\u2019n meddwl y byddai&#8217;n yn gyfle da i herio fy hun a rhoi cynnig ar ddigwyddiadau fyddai&#8217;n fy herio.<\/p>\n<figure id=\"post-782 media-782\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/Untitled-design-7.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Felly cyflwynais grynodeb ac, er mawr syndod i mi, cefais slot 15 munud i wneud cyflwyniad ar fy nhaith fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa.<\/p>\n<p><strong>Fy nghyflwyniad<\/strong><\/p>\n<p>Ar gyfer fy nghyflwyniad penderfynais fyfyrio ar fy nhaith broffesiynol hyd yn hyn, a sut rydw i wedi gweithio ar draws y sector addysg mewn tri maes gwahanol:<\/p>\n<ul>\n<li>Ymchwil &#8211; Ar hyn o bryd rydw i&#8217;n fyfyriwr PhD yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i r\u00f4l ysgolion uwchradd o ran cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwrowahanol, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc yn eu harddegau ag ADHD.<\/li>\n<li>Trydydd sector &#8211; Cyn dechrau fy PhD, b\u00fbm yn gweithio am bum mlynedd mewn sefydliad elusennol yn cynnal prosiect Ymagwedd Ysgol Gyfan at Iechyd Meddwl mewn naw ysgol uwchradd leol yng Nghasnewydd.<\/li>\n<li>Addysg &#8211; Mae gen i bum mlynedd arall o brofiad yn gweithio mewn ysgolion ledled Cymru a Lloegr fel cynorthwyydd addysgu Anghenion Dysgu Ychwanegol ac athro ysgol uwchradd cymwys ym mhynciau mathemateg a seicoleg.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ffocws fy nghyflwyniad oedd pontio rhwng pob un o\u2019r meysydd hyn. Yn benodol, roeddwn yn gobeithio rhannu gwersi ym mhob cam proffesiynol sydd wedi fy nghynorthwyo a&#8217;m herio wrth i mi bontio i\u2019r cam nesaf, gan orffen gydag amlinelliad o\u2019m hawydd i ddod yn ymchwilydd ar ddechrau gyrfa ym maes addysg. <a href=\"https:\/\/cf-my.sharepoint.com\/:b:\/g\/personal\/maximom_cardiff_ac_uk\/EQwSXg7S9UhErd9RdK8rerYBcdMG6cEp0nA3RqeMTJLS6g?e=5IE6Gn\">Mae fy nghyflwyniad llawn ar gael ar-lein.<\/a><\/p>\n<p><strong>Cyrraedd Leeds<\/strong><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 331px;height: 199px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/Picture3.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p>Cyrhaeddodd wythnos y gynhadledd o&#8217;r diwedd a neidiais ar y tr\u00ean i Leeds, dinas nad ydw i erioed wedi bod iddi o&#8217;r blaen. Pan gyrhaeddais fy ngwesty cefais fy synnu o&#8217;r ochr orau o ddarganfod fy mod wedi archebu gwesty \u00e2 thema sioeau cerdd yn ddamweiniol, ac y byddwn i&#8217;n aros yn yr ystafell <em>Sister Act<\/em> (un o fy ffefrynnau). Cefais ychydig o amser i fynd am dro o amgylch Leeds a wnaeth fy helpu i deimlo&#8217;n llai nerfus ynghylch fy nghyflwyniad. Roeddwn i wrth fy modd \u00e2&#8217;r nenfydau gwydr addurnedig yn yr hen arcedau siopa, y farchnad enfawr, a\u2019r Gyfnewidfa Rawn hardd yn llawn siopau annibynnol. <a href=\"https:\/\/twitter.com\/AbbeyJRowe\/status\/1798734963438678486\">Gallwch fwrw golwg ar fy nhrydariad i weld rhagor o luniau<\/a>.<\/p>\n<figure id=\"post-759 media-759\" class=\"image align-right\"><\/figure>\n<p><strong>Diwrnod y gynhadledd!<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-760 media-760\" class=\"image align-right\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/08\/Picture4.png\" alt=\"\" width=\"228\" height=\"323\" \/><\/figure>\n<p>Cyrhaeddodd diwrnod y gynhadledd ac roedd hi&#8217;n anodd credu faint o ddewis ac amrywiaeth o gyflwyniadau oedd ar gael. Roedd pawb wedi ystyried thema\u2019r diwrnod mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, a dechreuais gwestiynu sut y byddai fy nghyflwyniad i yn ffitio i mewn.<\/p>\n<p>Clywais s\u00f4n am hunaniaethau croestoriadol, y cysyniad o anghytuno \u00e2&#8217;ch hun, myfyrdodau ar ddulliau ymchwil, a bod yn ymchwilydd mewnol. Bu un person hyd yn oed yn trafod ei brofiad o fynd ar daith i ddilysu ei waith ei hun ar \u00f4l i rywun yn disgrifio ei bwnc PhD fel un &#8216;ciwt&#8217;.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chynnwys amrywiol y sgyrsiau, yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am y gynhadledd oedd pa mor agored oedd yr ymchwilwyr eraill. Wrth wrando ar eu profiadau, brwydrau personol, myfyrdodau beirniadol ar fod yn ymchwilwyr, a chwestiynu eu dulliau, dechreuais fyfyrio ar fy nhaith fy hun mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi eu hystyried o\u2019r blaen. Sylweddolais fod fy nehongliad i o&#8217;r gair &#8216;becoming&#8217; wedi bod yn eithaf llythrennol, a fy mod yn tueddu i gymryd agwedd eithaf strategol a phragmatig at ymchwil, lle mae eraill yn fwy tueddol o fyfyrio&#8217;n feirniadol a meddwl mewn ffordd gysyniadol.<\/p>\n<p><strong>Gwersi a ddysgwyd &#8211; mae&#8217;r daith yn un barhaol<\/strong><\/p>\n<p>Yr hyn y mae\u2019r gynhadledd hon wedi\u2019i ddysgu i mi yw gwir werth myfyrio a rhannu a dysgu o brofiadau amrywiol eraill ym myd ymchwil.\u00a0 Nid oedd gan un person penodol yr agwedd &#8216;gywir&#8217;, nid oedd unrhyw un ymchwilydd a fyddai&#8217;n cael ei ystyried &#8216;y gorau&#8217;, y pwynt oedd cydnabod, derbyn a byw mewn gofod lle rydyn ni bob amser yn dysgu ac yn tyfu fel ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r daith yn un barhaol ac ar bob croesffordd ni ddylem fod ofn ystyried pob llwybr sydd o\u2019n blaenau. Wrth i ni ddod i gysylltiad \u00e2 theithwyr eraill, mae&#8217;n anochel y byddant yn tynnu sylw at lwybrau newydd nad oeddem hyd yn oed wedi sylwi arnynt, a bydd ein teithiau&#8217;n dod yn gyfoethocach oherwydd hyn.<\/p>\n<p>Ers mynd i&#8217;r gynhadledd, rydw i wedi edrych yn ddyfnach ar gwestiynu pa fath o ymchwilydd ydw i, pa athroniaethau rydw i&#8217;n cyd-fynd \u00e2 nhw a pha agwedd sydd gen i ar fywyd sy&#8217;n dylanwadu ar fy agwedd at ymchwil.<\/p>\n<p>Waw! Pwy fyddai&#8217;n meddwl y byddai un diwrnod yn Leeds yn fy arwain i gwestiynu cymaint amdanaf fy hun fel ymchwilydd\u2026ac fel bod dynol. Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn arw at weld beth fydda i&#8217;n ei ddysgu nesa!<\/p>\n<p><strong>Ynghylch Abbey<\/strong><\/p>\n<p>Fy enw i yw Abbey Rowe, ac rwy\u2019n fyfyriwr ymchwil PhD yn fy ail flwyddyn ac yn gweithio gyda <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\">Chanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc<\/a> a <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/\">DECIPHer<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<ul>\n<li>Darllenwch fy erthygl ar gyfer blog Wolfson o\u2019r enw \u201c<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/my-first-year-as-a-phd-student-at-the-wolfson-centre\/\">Fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson<\/a>\u201d<\/li>\n<li>Darllenwch fy erthygl ar gyfer Canolfan Wolfson o\u2019r enw \u201c<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/researcher-journal-my-second-year-as-a-phd-student-at-the-wolfson-centre\/\">Fy ail flwyddyn fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson<\/a>\u201d<\/li>\n<li>Cymerwch gip ar yr <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/blog\/meet-the-researcher-abbey-rowe-on-neurodiversity-in-secondary-schools\/\">erthygl hon<\/a> a ysgrifennais i DECIPHer sy&#8217;n rhoi trosolwg o\u2019m pwnc ymchwil a&#8217;m cynlluniau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cysylltwch \u00e2 mi:<br \/>\nTwitter: @AbbeyJRowe<br \/>\nE-bost: roweaj1@caerdydd.ac<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Helo, ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson, Fis Mehefin eleni, cynhaliodd Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) eu hail Gynhadledd Flynyddol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn Leeds. Yn wahanol i'w prif [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":794,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[74,269],"tags":[245,241,247,243],"class_list":["post-791","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwrdd-ar-ymchwilydd","category-ffrwd","tag-cynhadledd","tag-leeds","tag-phd-cy","tag-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/10\/blog-featured-images-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/791","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=791"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/791\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":820,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/791\/revisions\/820"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/794"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=791"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=791"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=791"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}