{"id":744,"date":"2024-07-10T12:25:31","date_gmt":"2024-07-10T12:25:31","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=744"},"modified":"2025-01-03T15:59:43","modified_gmt":"2025-01-03T15:59:43","slug":"amplifying-accessibility-gwersi-gan-gerddor-ifanc-anabl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/amplifying-accessibility-gwersi-gan-gerddor-ifanc-anabl\/","title":{"rendered":"Amplifying Accessibility: gwersi gan gerddor ifanc anabl"},"content":{"rendered":"<p>Yn y blogbost hwn, mae Keys (hi\/nhw), cerddor o Gymru ag anabledd, yn rhannu tair gwers y mae hi wedi\u2019u dysgu ar ei thaith o fysgio ar y stryd i chwarae yng Ng\u0175yl y Dyn Gwyrdd. Mae Keys hefyd yn myfyrio ar sut mae creu cerddoriaeth yn helpu ei lles a\u2019i hiechyd meddwl.<\/p>\n<figure id=\"post-723 media-723\" class=\"image align-none\"><\/figure>\n<figure id=\"post-723 media-723\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 90px;height: 121px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/07\/Facetune_21-06-2023-14-14-38.jpeg\" alt=\"\" \/>Fy enw i yw Rightkeysonly, cerddor unllaw \u00e2 dwy law sy&#8217;n wych am roi pump uchel ond yn ofnadwy am wneud dwylo jazz. Gyda\u2019r nos, gallwch chi fy ffeindio i wedi ymgolli\u2019n llwyr yn y s\u00een r\u00eaf, yn bownsio ar draws llwyfannau wrth i&#8217;r bas ddirgrynu drwy fodiau fy nhraed.Yn ystod y dydd, rwy&#8217;n bennaeth ar <a href=\"https:\/\/rightkeysonly6.wixsite.com\/rightkeysonly\/subscribe\">Amplifying Accessibility<\/a>, prosiect sy&#8217;n chwilio am ffyrdd cynhwysol y gall unigolion B\/byddar, anabl a niwrowahanol ddatblygu eu gyrfa ym myd cerddoriaeth.Rydw i hefyd yn berson 24 oed na welodd neb tebyg iddyn nhw erioed yn y diwydiant cerddoriaeth.<\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae cael ADHD a Pharlys Erb yn golygu \u2019mod i yn aml wedi gorfod addasu i fyd a oedd yn teimlo nad oedd wedi&#8217;i gynllunio i mi. Gall hyn roi pwysau trwm ar ysgwyddau rhywun.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae \u2019na hefyd lawer o bethau hyfryd yn dod gyda bod yn wahanol.<\/p>\n<p>Felly, dwi\u2019n mynd i rannu rhai gwersi dwi wedi&#8217;u dysgu, fel person amrywiol ym myd cerddoriaeth, fel y gallwch chi fwynhau mwy o&#8217;r eiliadau hyfryd hynny.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwers 1: Mae cael help yn helpu\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Hyd yn oed pan rydych chi&#8217;n seren roc, dyw anghenion ychwanegol ddim jyst yn diflannu.<\/p>\n<p>Unwaith, perfformiais i deirgwaith ar yr un diwrnod, mewn dwy ddinas wahanol, yng nghanol yr haf &#8211; doedd hyn ddim yn anghyffredin ar \u00f4l i mi ddechrau cynhyrchu cerddoriaeth ddawns. Fodd bynnag, ar yr un pryd, dirywiodd fy iechyd.<\/p>\n<p>I eiriol drosof fy hun, fe greais i Atodiad Mynediad.<\/p>\n<p>Mae Atodiad Mynediad yn ddogfen y mae pobl greadigol anabl yn ei rhannu \u00e2 chydweithwyr i esbonio sut i gefnogi eu hanghenion wrth weithio gyda\u2019i gilydd. Gallwch chi gynllunio\u2019r ddogfen hon fel y mynnwch chi, ac fe ddechreuais i gyda&#8217;r cwestiwn:<\/p>\n<p><em>Pe bawn i&#8217;n gallu cael popeth sydd ei angen arna\u2019 i, beth fyddai hynny?\u202f\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Mae hyn yn fy helpu i gael y cymorth cywir a blaenoriaethu fy lles fy hun, heb orflino drwy\u2019r amser!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwers 2: Dim ond bod dynol ydych chi\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Un o\u2019r rhesymau y penderfynais i ganolbwyntio ar gerddoriaeth oedd gan fod rhywun wedi dweud wrtha\u2019 i, o ddifrif, nad oeddwn i\u2019n <em>\u201cddigon abl\u201d<\/em> i fod yn <em>\u201cgerddor go iawn\u201d<\/em>. Roeddwn i\u2019n gandryll, a thaniwyd fy awydd i sicrhau bod llai o bobl yn profi\u2019r gwahaniaethu yr oeddwn i, ac artistiaid eraill ag anabledd, wedi\u2019i wynebu ym myd cerddoriaeth.<\/p>\n<p>Rydw i\u2019n aml yn boster-ferch docenistaidd ar gyfer anabledd ond, gyda\u2019m llaw ar fy nghalon, galla i ddweud nad oes rhaid i chi ymladd bob amser.<\/p>\n<p>Ar rai diwrnodau mae popeth yn teimlo\u2019n ormod, ac rydych chi jyst eisiau i rywun ofyn i chi beth yw eich hoff liw cyn iddyn nhw ofyn i chi lenwi arolwg amrywiaeth a chynhwysiant arall.<\/p>\n<p>Os yw eich corff a&#8217;ch ymennydd yn dweud ei bod hi&#8217;n amser gorffwys, mae&#8217;n amser gorffwys.<\/p>\n<p>Mae bob amser yfory.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwers 3: Defnyddiwch eich rhwystrau er budd i chi\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Dyw hyn ddim yn golygu neidio\u2019r ciw yn Disneyland, mae&#8217;n golygu troi eich anfanteision yn gryfderau.<\/p>\n<p>Pan ddechreuais i yn y sin gerddoriaeth, roedd fy ngorbyder yn drech na mi. Roeddwn i wedi dysgu sut i f\u00eet-bocsio, gan ddefnyddio gorsaf lwpio i ailadrodd y synau\u2019n \u00f4l i mi, ond cyn gynted ag y byddwn i\u2019n mynd i mewn i leoliad byddai&#8217;r ofn yn taro, a byddwn i\u2019n gadael heb berfformio.<\/p>\n<p>Roedd angen i mi fowldio&#8217;r gerddoriaeth i fy siwtio i.<\/p>\n<p>Dechreuais berfformio oddi ar y llwyfan, yn eistedd ar y llawr, heb wneud cyswllt llygad \u00e2 neb, fel pe bawn i yn fy ystafell wely gartref. Roedd yn rhyfedd ac anarferol, ond fe wnaeth i mi deimlo&#8217;n gyfforddus ac roedd pawb wrth eu bodd. Enillais i\u2019r teitl <em>&#8216;Floor Girl&#8217; <\/em>mewn ambell le hyd yn oed.<\/p>\n<p>Daeth fy lles yn rhan o\u2019r perfformiad, yn flaenoriaeth dros yr hyn a ystyriwyd yn \u201cnormal\u201d i gerddor ei wneud.<\/p>\n<p>Os nad yw rhywbeth yn gweithio, mae gennych chi&#8217;r p\u0175er i&#8217;w newid, hefyd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Yngl\u0177n \u00e2 Keys<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-740 media-740\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 96px;height: 120px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/07\/364801955_254433097452938_3725302442736800157_n.jpeg\" alt=\"\" \/>P&#8217;un a ydych chi\u2019n abl neu anabl, dwi\u2019n gobeithio bod yr erthygl hon wedi eich helpu chi rywsut, ac os hoffech chi sgwrsio mwy am hygyrchedd yn y diwydiant cerddoriaeth gallwch chi anfon e-bost ataf (<a href=\"mailto:amplifyingaccessibility@gmail.com\">amplifyingaccessibility@gmail.com<\/a>) neu dewch o hyd i mi ar Instagram (<a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/rightkeysonly\/\">@rightkeysonly<\/a>).<\/figure>\n<p>Mae fy sefydliad <a href=\"https:\/\/rightkeysonly6.wixsite.com\/rightkeysonly\/subscribe\">Amplifying Accessibility<\/a> hefyd yn cynnig cymorth mentora am ddim i weithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth sy&#8217;n f\/Fyddar, anabl, neu niwrowahanol, ynghyd ag ymgynghoriaeth i sefydliadau sydd am ddysgu sut i ddod yn fwy cynhwysol o fewn arferion y diwydiant cerddoriaeth.<\/p>\n<p><em>Diolch i Keys am rannu ei stori gyda ni.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Adnoddau:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Gallwch chi weld <a href=\"https:\/\/drive.google.com\/file\/d\/1wBwK6G0Wfe_wY0FLZa3Rpahy85j-wV_E\/view\">Atodiad Mynediad Keys<\/a> os hoffech chi gael ysbrydoliaeth i greu un eich hun. A bydd <a href=\"https:\/\/weareunlimited.org.uk\/resource\/creating-your-own-access-rider\/\">yr adnodd hwn<\/a> gan Unlimited yn eich helpu i greu Atodiad Mynediad.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/www.beacons.cymru\/\">Beacons Cymru<\/a> yn sefydliad datblygu\u2019r diwydiant cerddoriaeth sy\u2019n gweithio ledled Cymru i gefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sydd ag uchelgeisiau i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/www.tonicmusic.co.uk\/\">Tonic Music<\/a> yn sefydliad sy&#8217;n ceisio sefydlu iechyd meddwl da o fewn cymunedau cerddoriaeth<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/www.musicproductionforwomen.com\/\">Music Production for Women<\/a> yn grymuso artistiaid benywaidd ac anneuaidd i ddysgu i gynhyrchu mewn cymuned ddiogel ac ysgogol mewn ffordd hygyrch.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/www.helpmusicians.org.uk\/about-us\/who-are-we\">Help Musicians<\/a> yn elusen i gerddorion proffesiynol o bob genre sy\u2019n rhoi\u2019r cymorth sydd ei angen arnynt ar y camau hollbwysig a allai danio neu dorri eu gyrfa.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Eisiau ysgrifennu post ar gyfer blog Wolfson?<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd \u00e2 diddordeb mewn rhannu eu barn ar yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Hoffem yn arbennig rannu lleisiau ifanc yn siarad am eu profiadau gydag iechyd meddwl a phrosiectau arloesol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.<\/p>\n<p>Eisiau dysgu mwy? E-bostiwch <a href=\"mailto:maximom@cardiff.ac.uk\">maximom@caerdydd.ac.uk<\/a> gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi a pha bwnc yr hoffech ysgrifennu amdano.<\/p>\n<p>Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blogbost hwn, mae Keys (hi\/nhw), cerddor o Gymru ag anabledd, yn rhannu tair gwers y mae hi wedi\u2019u dysgu ar ei thaith o fysgio ar y stryd i [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":722,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,71],"tags":[222,216,224,218,226,99,220],"class_list":["post-744","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-lleisiau-ieuenctid","tag-anabledd","tag-cerddor","tag-cerddoriaeth","tag-diwydiant-cerddoriaeth","tag-gorbryder","tag-iechyd-meddwl","tag-marchog-mynediad"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/07\/lessons-learned-from-a-young-disabled-musician.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/744","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=744"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/744\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":747,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/744\/revisions\/747"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/722"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=744"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=744"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=744"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}