{"id":708,"date":"2024-03-20T14:11:45","date_gmt":"2024-03-20T14:11:45","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/?p=708"},"modified":"2025-01-03T15:59:31","modified_gmt":"2025-01-03T15:59:31","slug":"dyddiadur-ymchwilydd-fy-ail-flwyddyn-fel-myfyriwr-phd-yng-nghanolfan-wolfson","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/cy\/dyddiadur-ymchwilydd-fy-ail-flwyddyn-fel-myfyriwr-phd-yng-nghanolfan-wolfson\/","title":{"rendered":"Dyddiadur Ymchwilydd: Fy ail flwyddyn fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson"},"content":{"rendered":"<p>Helo ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson!<\/p>\n<p>Fy enw i yw Abbey Rowe, ac rwy\u2019n fyfyriwr ymchwil PhD ail flwyddyn yn gweithio gyda <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\">Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson<\/a> a <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/\">DECIPHer<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth i ni unwaith eto gyrraedd menter flynyddol wych <a href=\"https:\/\/www.neurodiversityweek.com\/\">Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth<\/a><strong>,<\/strong> dyma fanteisio ar y cyfle hwn i rannu rhai diweddariadau ar fy mhrosiect ymchwil tair blynedd sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;r dathliadau.<\/p>\n<p>Ar fy <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/my-first-year-as-a-phd-student-at-the-wolfson-centre\/\">mlog cyntaf<\/a> soniais i am thema\u2019r PhD, sut roedd fy mlwyddyn gyntaf yn mynd, a pham y dewisais Ganolfan Wolfson. Prif nod fy ymchwil yw deall y r\u00f4l y mae ysgolion uwchradd yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc ag ADHD.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Felly, beth sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf? Wel&#8230;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cyflawnais gam cyntaf fy ymchwil (dadansoddi data eilaidd)<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae hon wedi bod yn daith hir a heriol a bu&#8217;n rhaid i mi ddysgu o&#8217;r dechrau sut i ddefnyddio technegau dadansoddi data cymhleth (modelu aml-lefel) mewn rhaglen gyfrifiadurol ystadegol o&#8217;r enw Stata nad oeddwn erioed wedi&#8217;i defnyddio o&#8217;r blaen.\u00a0 Rwy&#8217;n dal yn dehongli canfyddiadau&#8217;r dadansoddiad hwn ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydw i wedi&#8217;i chael gan fy ngoruchwylwyr a chydweithwyr yn Wolfson a DECIPHer, yn ogystal \u00e2 chydweithwyr ac ymchwilwyr allanol hefyd. Rwyf i wir wedi teimlo&#8217;n rhan o gymuned ymchwil o&#8217;r radd flaenaf sydd wedi fy helpu i symud ymlaen ar hyd y daith gymhleth hon!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong>Es i gynhadledd ADHD ym Montpellier, Ffrainc<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Roedd bod yng nghynhadledd ryngwladol EUNETHYDIS 2023 yn gyfle anhygoel, nid yn unig i ddysgu gan arbenigwyr blaenllaw ym maes ymchwil ADHD, ond i gyflwyno fy mhoster academaidd cyntaf ochr yn ochr ag ymchwilwyr gyrfa gynnar eraill. Roedd cwmpas ehangder yr ymchwil yn y maes yn syfrdanol ac roedd y tywydd yn eithriadol hefyd!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Ymgynghorais \u00e2 phobl ifanc, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol am fy ymchwil<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae siarad \u00e2 phobl yn y gymuned addysg rwy\u2019n ymchwilio iddi wedi bod yn un o&#8217;r agweddau mwyaf pleserus ar y prosiect hyd yn hyn. Rwy&#8217;n credu mai pobl ifanc sy&#8217;n uniaethu&#8217;n niwroamrywiol ac oedolion sy&#8217;n gweithio yn y lleoliadau addysg yw&#8217;r arbenigwyr yn hyn o beth. Trwy siarad \u00e2 nhw am fy mhrosiect llwyddais i ganoli fy nodau ymchwil ar sail eu mewnbwn uniongyrchol, <a href=\"https:\/\/ibb.co\/2vnjfCs\">a amlinellir ar y poster cryno hwn<\/a>. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda&#8217;r grwpiau hyn ar fy mhrosiect.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong>Cefais gyfle i gwrdd \u00e2 Gr\u0175p Cynghori Ieuenctid Wolfson<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023 oedd &#8216;Mae iechyd meddwl yn hawl dynol i bawb&#8217;, a chefais wahoddiad i gefnogi trafodaethau ar y pwnc yng nghyfarfod wyneb yn wyneb y Gr\u0175p yn sbarc. Roedden\u00a0 nhw&#8217;n gr\u0175p ysbrydoledig o arbenigwyr ifanc, oedd \u00e2 chymaint o syniadau gwych i&#8217;w rhannu wrth greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol (<a href=\"https:\/\/twitter.com\/wolfsoncentre\/status\/1711743884806475920\">Twitter<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/p\/CyOI78WKNSy\/\">Instagram<\/a>) i ysgogi&#8217;r meddwl a chodi ymwybyddiaeth o bwnc pwysig y dydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dyma rai o uchafbwyntiau&#8217;r flwyddyn ddiwethaf\u00a0 i mi ac rwy&#8217;n gwybod bod gen i flwyddyn arall lawn dop o brofiadau i edrych ymlaen ati. Ar hyn o bryd rwyf i wrthi&#8217;n cofrestru ysgolion i gymryd rhan yn ail gam fy ymchwil sy&#8217;n cynnwys cyfweliadau myfyrwyr a staff ysgol. Bydd yn anhygoel cael golwg fanwl ar nodweddion penodol ysgolion a allai fod yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ag ADHD, yn uniongyrchol o safbwyntiau myfyrwyr a&#8217;r staff eu hunain.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os hoffech ddarllen mwy am y PhD:<\/p>\n<ul>\n<li>Darllenwch fy mlog blaenorol ar gyfer blog Wolfson dan y teitl \u201c<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/my-first-year-as-a-phd-student-at-the-wolfson-centre\/\">Fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson<\/a>\u201d<\/li>\n<li>Edrychwch ar y <a href=\"https:\/\/decipher.uk.net\/blog\/meet-the-researcher-abbey-rowe-on-neurodiversity-in-secondary-schools\/\">blog<\/a> hwna ysgrifennais i DECIPHer sy&#8217;n rhoi trosolwg o\u2019r pwnc ymchwil a&#8217;m cynlluniau<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Byddaf yn si\u0175r o roi diweddariad arall yn y dyfodol ac mae croeso i chi gysylltu os hoffech drafod unrhyw beth yr wyf wedi&#8217;i grybwyll ymhellach. Gobeithio y cewch chi <strong>Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth<\/strong> wych!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 fi:<\/p>\n<p>Twitter: @AbbeyJRowe<\/p>\n<p>Ebost: roweaj1@caerdydd.ac.uk<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Helo ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson! Fy enw i yw Abbey Rowe, ac rwy\u2019n fyfyriwr ymchwil PhD ail flwyddyn yn gweithio gyda Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson a DECIPHer ym [&hellip;]","protected":false},"author":6962,"featured_media":706,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[269,57],"tags":[247],"class_list":["post-708","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrwd","category-uncategorized-cy","tag-phd-cy"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-content\/uploads\/sites\/586\/2024\/03\/abbey.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/708","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6962"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=708"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/708\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":718,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/708\/revisions\/718"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media\/706"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=708"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=708"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/wolfsonyoungpeople\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=708"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}